Dysgwyr Glynebwy yn Cofleidio’r Prosiect Multiply: Cyrsiau Rhifedd Am Ddim yn Hybu Sgiliau a Hyder
20-Tachwedd-2024Mae dysgwyr yng Nglynebwy wedi gwella eu sgiliau rhifedd a’u hyder, drwy fynychu cyrsiau Multiply yn yr ystafell ddosbarth a ddarperir gan Addysg Oedolion Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Sir Blaenau Gwent. Mae’r cyrsiau hyn yn helpu oedolion i wella eu dealltwriaeth o rifau a mathemateg mewn bywyd dyddiol, o reoli cyllidebau cartref i gefnogi eu plant gyda gwaith cartref, gan hefyd gynyddu cyfleoedd cyflogaeth.
Diolch i gefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae cyrsiau Multiply ar gael i unrhyw un 19 oed a hŷn sy’n byw yn rhanbarth Blaenau Gwent. Y nod yw helpu i drawsnewid bywydau oedolion ledled Cymru drwy wella eu sgiliau rhifedd. Mae’n bosibl nad yw’r oedolion hyn yn meddu ar gymhwyster TGAU Mathemateg neu rifedd lefel 2 ar hyn o bryd, ac mae’r Prosiect Multiply yn caniatáu i ddysgwyr weithio tuag at gymhwyster lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, a gydnabyddir yn eang gan gyflogwyr yng Nghymru fel cymhwyster cyfwerth â TGAU Mathemateg.
Dyma rai o’r rhesymau pam mae dysgwyr yng Nglynebwy wedi cofleidio’r Prosiect Multiply:
Cath:
“Trwy fy mrwydrau fy hun gyda Mathemateg, ni allwn helpu fy mhlant gyda’u gwaith cartref. Trwy fynychu’r dosbarthiadau Multiply, roeddwn eisiau dangos i fy mhlant bod unrhyw beth yn bosibl drwy ennill TGAU mewn Mathemateg. Cynhelir y dosbarthiadau mewn awyrgylch hamddenol dan arweiniad James (tiwtor), ac rwy’n mwynhau cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd, sydd wedi gwneud y profiad cyfan hyd yn oed yn fwy gwerth chweil.”
Rebecca:
“Doedd gen i ddim cymwysterau TGAU pan adewais yr ysgol. Rwy’n astudio gofal plant ar hyn o bryd a dywedwyd wrthyf na fydd unrhyw un yn fy nghyflogi heb gymhwyster TGAU Mathemateg. Mae’r dosbarthiadau Multiply wedi bod yn gam i’m helpu gyda datblygiad fy ngyrfa. Rwy’n mwynhau mynychu’r dosbarthiadau.”
Mel:
“Mae angen cymhwyster Lefel 2 ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi. Mae’r dosbarthiadau Multiply wedi fy helpu i gefnogi fy mhlant yn well ac wedi rhoi’r hyder i mi wneud ffrindiau newydd. Rwyf wrth fy modd gyda’r awyrgylch gefnogol a ddarperir gan AOC. Mynychais eu cyrsiau yn y gorffennol, a rhoddodd hyn anogaeth i mi roi cynnig ar Multiply.”
Katy:
“Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn gwella fy sgiliau mathemateg, ac rwyf wedi sylweddoli pa mor bwysig ydynt yn ein bywyd dyddiol – o siopa i reoli arian. Diolch i gyngor Dechrau’n Deg, dysgais am y cyrsiau Multiply gan AOC. Roeddwn yn nerfus ar y dechrau, ond rhoddodd James (tiwtor) gefnogaeth wych i mi oresgyn fy nerfau.”
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig Multiply mewn gwahanol siroedd ledled Cymru. Mae’r cyrsiau’n cwmpasu Sgiliau Rhifedd ar gyfer gwaith a bywyd, Rhifedd i Rieni, Cyllidebu, Rhifedd ar gyfer Rhifedd Cyd-destunol ESOL, cymhwyster lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif (cyfwerth â TGAU Mathemateg) a Rhifedd Ar-lein. Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen we yma: www.addysgoedolion.cymru/amdanom/amdanom-ni/y-prosiect-multiply/
‘Lluosi’ gwaith dysgwyr:





















‘Lluosi’ gwaith dysgwyr:












Cyflwynir y rhaglen Multiply drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth