Dysgwyr ESOL yn Archwilio Bydoedd Newydd Diolch i’r Bartneriaeth Ddigidol â MAD Abertawe
23-Mawrth-2026




Yr hydref diwethaf, gwahoddwyd ein dysgwyr ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ar gyfer Llythrennedd Digidol yn Abertawe gan ein sefydliad partner, MAD Abertawe, i ymweld â’u Canolfan i archwilio gwahanol ffyrdd o wella eu dosbarth sgiliau digidol. Cyfranogodd y grŵp mewn “gweithdy blasu digidol” a brofodd fod technoleg yn amgenach nag offeryn cyfathrebu – borth i feithrin hyder hefyd.
Rhoddodd y dysgwyr, ynghyd â’u tiwtor Chris, gynnig ar glustffonau realiti rhithiol newydd a wnaeth ganiatáu iddynt gamu i mewn i amgylcheddau technoleg ymgolli 360 gradd. Fe wnaethant hefyd gyfranogi mewn nifer o weithgareddau Troelli a Chodio, ac fe wnaeth hynny ganiatáu i’r dysgwyr arbrofi â rhesymeg a rhythmau.
Cynhaliwyd y gweithdy blasu digidol fel rhan o Wythnos Ewch Ar-lein, wythnos sy’n helpu degau o filoedd o bobl ledled y DU i ddarganfod manteision bod ar-lein a magu hyder i ddefnyddio’r rhyngrwyd – gan helpu mwy o bobl i groesi’r bwlch digidol. Yn ystod 2025, cynhaliwyd dros 1,000 o ddigwyddiadau cymunedol am ddim ledled y DU, gan helpu miloedd i ddysgu sgiliau newydd a mynd ar-lein yn hyderus i wneud pethau megis llywio’r we yn ddiogel neu roi cynnig ar AI.
Ym marn Chris, tiwtor AOC, fe wnaeth y gweithdy ychwanegu elfen arall at set sgiliau digidol y dysgwyr:
“Roedd yr ymweliad â MAD Abertawe yn gyfle gwych i’n dysgwyr ESOL archwilio sgiliau digidol mewn ffordd greadigol ac ymarferol. Fe wnaeth defnyddio gweithgareddau realiti rhithiol a chodio helpu i fagu hyder a chwilfrydedd, gan ddangos i ddysgwyr y gall technoleg fod yn ddiddorol ac yn hygyrch. Roedd y profiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yn hynod o bleserus i bawb, ac fe wnaethant barhau i siarad am eu hymweliad yn nosbarthiadau’r dyfodol.”
Mae’r bartneriaeth gref rhwng Addysg Oedolion Cymru a MAD Abertawe wedi troi’n dair oed ers tro byd erbyn hyn, wedi troi’n air oed erbyn hyn. Cafodd ei sefydlu i ddarparu offer i MAD Abertawe i gynorthwyo i ehangu eu darpariaeth ddigidol arloesol ac i archwilio cyfleoedd datblygu cydweithredol i hyrwyddo Realiti Rhithiol a Realiti Estynedig ym meysydd addysgu a dysgu. Mae’r cyfleoedd cyfatebol a gynigir gan MAD Abertawe yn cynnwys gweithdai megis y gweithdy hwn sy’n helpu i wella sgiliau digidol dysgwyr.
Ychwanegodd Rhydian Williams, Rheolwr Datblygu Digidol AOC:
“Fe wnaeth Wythnos Ewch Ar-lein gynnig cyfle gwerthfawr i gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â phrofiadau digidol yn y byd go iawn. Fe wnaeth ymweld â MAD Abertawe gynnig cyfle i griw o’n dysgwyr ymgysylltu â thechnolegau sy’n dod i’r amlwg mewn lleoliad cymunedol cefnogol, gan bwysleisio y gall datblygu sgiliau digidol fod yn brofiad creadigol a chynhwysol sy’n helpu dysgwyr i fagu hyder. Dymunaf ddiolch i MAD Abertawe a’n tîm Rhanbarthol am sicrhau bod yr ymweliad hwn yn un hynod o lwyddiannus.”
Roedd yr adborth yn sgil y diwrnod yn galonogol dros ben. O ran y dysgwyr, roedd cael profiad â’r technolegau arloesol hyn yn ffordd hygyrch a hwyliog o ddysgu sgiliau digidol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth