Dysgwyr Caerdydd yn defnyddio Realiti Rhithwir i Wella eu Sgiliau Hanfodol
21-Mai-2025Mae dysgwyr yn nosbarth Llythrennedd Digidol Nicole Kinnaird yng Nghaerdydd yn archwilio Rhith Realiti (VR) i fynd â’u haddysg i ddimensiwn hollol newydd. Dros y tymor diwethaf, trochwyd y dysgwyr ym myd VR fel rhan o’u hachrediad Penset VR, gan ddefnyddio rhaglen dan arweiniad Deallusrwydd Artiffisial (AI) o’r enw Bodyswaps. Tra bod y dysgwr yn gwisgo’r penset, mae’r feddalwedd yn helpu i fireinio eu sgiliau meddal hanfodol, gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau.
Mae Bodyswaps yn blatfform rhithwir arloesol sy’n rhoi dysgwyr mewn senarios rhithwir realistig ac effeithiol, sy’n adlewyrchu rhyngweithiadau byd go iawn o fewn amgylchedd rhithwir diogel a rheoledig. Wrth wisgo’r pensetiau VR, mae dysgwyr yn defnyddio’r feddalwedd i greu eu profiadau rhithwir eu hunain. Mae’r feddalwedd yn addasu i bob dysgwr, gan ddarparu adborth personol wrth greu taith ddysgu wedi’i theilwra.
Dywedodd y tiwtor Nicole Kinnaird:
“Mae’r dysgwyr wedi cael amser gwych yn ymgolli ym myd dysgu drwy realiti rhithwir. Gan ddefnyddio’r rhaglen arloesol Bodyswaps, gwnaethant gymryd rhan mewn efelychiadau realistig, yn seiliedig ar senarios, a oedd yn caniatáu iddynt ymarfer a mireinio sgiliau meddal hanfodol fel cyfathrebu, gwrando gweithredol, empathi a rhoi a derbyn adborth. Anogodd y profiadau trochi i’r dysgwyr gamu y tu allan i’w parth cyfforddus, gan hyrwyddo meddylfryd twf cryf wrth iddynt fyfyrio ar eu perfformiad, dysgu o gamgymeriadau a gwella’n barhaus. Nid yn unig rhoddodd y dull ymarferol hwn hwb i’w hyder, ond eu helpu hefyd i feithrin y sgiliau rhyngbersonol sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol.”
Cynigia Addysg Oedolion Cymru ystod eang o gyrsiau ledled Cymru, ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth, sy’n helpu i gefnogi a gwella Sgiliau Digidol. O ddysgu mwy am sut i ddefnyddio taenlenni yn Excel i ddefnyddio’r rhyngrwyd mewn modd diogel, hyd at archwilio byd diddiwedd Realiti Rhithwir, mae gennym gwrs sgiliau digidol i chi. Dysgwch fwy yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth