Dysgwyr Addysg Oedolion Cymru yn Disgleirio yn Nathliad Sioe’r Haf
11-Mehefin-2025Yn ddiweddar, cynhaliodd Canolfan Gelfyddydau Pontardawe ddathliad arbennig wrth i grŵp o ddysgwyr dderbyn tystysgrifau am eu cyfranogiad mewn cynhyrchiad sioe haf gwych. Yn llawn cerddoriaeth, canu a dawnsio, roedd y perfformiad yn arddangosfa fywiog o greadigrwydd, egni a thalent.
Wedi’i gyflwyno o dan faner Addysg Oedolion Cymru, arweiniwyd y cwrs a’r cynhyrchiad gan y tiwtoriaid ymroddedig Keith Ivett a Stevie-Ann Fraser, gyda chefnogaeth wirfoddol werthfawr gan eu merch Jaimee, a gynorthwyodd y dysgwyr drwy gydol y broses gyda brwdfrydedd a gofal.
Cafodd rhai dysgwyr gefnogaeth hefyd gan ofalwyr ac aelodau o’u teulu, wrth iddynt gynnig eu hamser a’u hanogaeth yn hael, gan chwarae rhan bwysig yn llwyddiant y grŵp.
Roedd llwyddiant y perfformiad yn dyst i waith caled, creadigrwydd a gwaith tîm y dysgwyr. Gwnaeth eu hymrwymiad drwy gydol y cwrs a’u hyder ar y llwyfan brofiad gwirioneddol galonogol, ac roedd y dathliad yn gydnabyddiaeth haeddiannol o bopeth roeddynt wedi’i gyflawni.
Cyflwynwyd tystysgrifau gan Gydlynydd Datblygu Cwricwlwm (CDC) Castell-nedd a Phort Talbot Julie Isaac-Evans, ar ran Sam Al-Khanchi CDC Abertawe, sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cyflwyno’r cwrs hwn. Siaradodd Keith a Stevie yn gynnes am gyfranogiad Sam a’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar y grŵp.
Cyn bo hir, bydd Sam yn trosglwyddo’r cyfrifoldebau CDC ar gyfer y cwrs hwn i Julie, sy’n edrych ymlaen at barhau gyda’r gwaith rhagorol sydd eisoes yn bodoli.
Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o gyflawniad mor llawen ac ysbrydoledig, enghraifft ddisglair o ddysgu oedolion ar ei orau.

Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth