Dysgwr ESOL o Bowys, Oleg, yn talu teyrnged i’w diwtor trwy rym y gân | Addysg Oedolion Cymru

Dysgwr ESOL o Bowys, Oleg, yn talu teyrnged i’w diwtor trwy rym y gân

24-Chwefror-2025
Rhannu

Mae Oleg Mitin wedi bod yn astudio ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ym Mhowys gydag Addysg Oedolion Cymru ers mis Tachwedd 2024. Yn wreiddiol o’r Wcráin, gwnaeth Gymru ei gartref ac mae’n gweithio fel weldiwr. Er mwyn gwella ei Saesneg, mae’n mynychu dau ddosbarth ESOL yr wythnos gydag Addysg Oedolion Cymru.

Yn ddiweddar, yn ystod egwyl ginio yn un o’i ddosbarthiadau, ac er mawr syndod i’w diwtor, Deborah Jenkins-Doyle, chwaraeodd Oleg gân a greodd drwy ap gan ddefnyddio rhai o’r geiriau a ddysgodd yn ei ddosbarthiadau. Mae’r gân gan Oleg yn amlygu’r gefnogaeth a’r daith ddysgu y mae Oleg wedi bod arni, a adlewyrchir yn y cyfansoddiad 3 munud.

“Ces i ychydig o sioc i ddechrau,” meddai Deborah Jenkins-Doyle. “Nid yw’n rhywbeth sy’n digwydd bob dydd yn y dosbarth. Syndod annisgwyl oedd cael cân wedi’i gyfansoddi amdanaf i a fy nysgu. Gofynnais i Oleg sut y creodd y gân, a soniodd iddo goladu rhai geiriau a ddysgwyd ganddo a defnyddio ap i lunio’r gân. Mae’n bendant yn arwydd cyntaf a gwirioneddol garedig o werthfawrogiad.” Mae ymroddiad Oleg i ddysgu a mynegiant creadigol wedi arwain at deyrnged gerddorol gofiadwy i’w diwtor. Mae’r gân gyda chaniatâd wedi ei rhannu gydag AOC, ac os hoffech ei chlywed, gwrandewch yma:

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth