Dysgu, yr Iaith a Pherthyn yng Nghymru | Addysg Oedolion Cymru

Dysgu, yr Iaith a Pherthyn yng Nghymru

20-Mai-2026
Rhannu

Wrth i ni nodi Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol Dros Ddeialog a Datblygiad y Byd ar 21 Mai, mae’n gyfle amserol i fyfyrio ar y rôl bwysig mae dysgu’n ei chwarae wrth ddod â phobl ynghyd ar draws cymunedau, diwylliannau ac ieithoedd.

Ar draws Addysg Oedolion Cymru, gwelwn yn ddyddiol sut gall dysgu fod yn gymorth i bobl meithrin hyder, cysylltiad a’r ymdeimlad o berthyn. Yn aml, mae’r cam cyntaf i mewn i ystafell ddosbarth neu leoliad cymunedol yn ymwneud â llawer mwy na dim ond ennill cymhwyster. Mae’n ymwneud gyda chwrdd â phobl, dod o hyd i gefnogaeth, ailadeiladu hyder a theimlo’n rhan o fywyd cymunedol.

Mae ein dysgwyr yn dod ag amrywiaeth gyfoethog o ieithoedd, profiadau a diwylliannau gyda nhw. I lawer o ddysgwyr, mae cymryd rhan mewn dysgu yn gysylltiedig nid yn unig gyda gwaith neu fywyd bob dydd ymarferol, ond â chyfeillgarwch, cyfranogiad a theimlo’n fwy cysylltiedig gyda’u cymunedau.

Gwelwn hefyd sut y gall iaith fod yn gymorth i bobl i ymgysylltu’n ddyfnach gyda diwylliant, cymunedau a hunaniaeth Cymru. Ar draws ein darpariaeth, mae’r iaith Gymraeg wedi’i hintegreiddio’n naturiol i brofiadau dysgu, sgyrsiau a lleoliadau cymunedol, gan helpu dysgwyr i deimlo’n fwy cysylltiedig gyda’r lleoedd lle maent yn byw. Drwy’r cyrsiau Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (WSOL), mae dysgwyr hefyd yn gallu archwilio a defnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd ymarferol ac ystyrlon fel rhan o fywyd cymunedol yng Nghymru.

Ar draws ein darpariaeth, mae ystafelloedd dosbarth yn aml yn dod yn lleoedd lle mae profiadau, traddodiadau, straeon a safbwyntiau yn cael eu rhannu’n agored ac yn barchus. Mae dysgwyr yn dysgu cymaint gan ei gilydd ag y maent gan y tiwtoriaid. Mewn byd lle gall rhaniad a chamddealltwriaeth cynyddu’n rhy hawdd, mae’r mannau yma’n bwysig.

Cydnabyddir hefyd bod y blynyddoedd diwethaf wedi teimlo’n gynyddol ansicr a rhanedig i rai pobl. Ar draws cymdeithas mae tensiynau, pryderon ac weithiau gelyniaeth ynghylch hunaniaeth, mudo a gwahaniaethau. Ni all dysgu oedolion ddatrys yr heriau hynny ar ei ben ei hun, ond gall greu mannau lle gall pobl gwrdd, lle gall hyder a dealltwriaeth dyfu, a lle gall sgyrsiau parchus barhau i gymryd lle. Yn bwysicach na dim, mae hyn yn gweithio orau pan ceir dealltwriaeth fod y disgwyliadau hynny’n berthnasol i bawb, nid dim ond grwpiau neu gymunedau penodol.

Mae gan ddysgu oedolion rôl bwysig hefyd wrth gefnogi cydlyniad cymunedol a chreu amgylcheddau croesawgar i bobl o gefndiroedd gwahanol. Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod cynhwysiant yn gweithio orau pan fydd yn cyd-fynd â pharch, cyfrifoldeb a chyfranogiad cydfuddiannol ar draws bywyd cymunedol. Mae ein dull Sefydliadol o fod yn Ystyriol o Drawma a’n gwaith tuag at statws Coleg Noddfa yn adlewyrchu ein hymrwymiad ehangach i gynhwysiant, urddas a chyfle i bob dysgwr.

Rhywbeth pwysig i’w ystyried, nid yw amrywiaeth yn rhywbeth ar wahân i’n cymunedau yng Nghymru, mae’n rhan o bwy ydym ni fel cenedl. Ar draws trefi, dinasoedd a chymunedau, mae pobl yn dod â gwahanol hanesion, diwylliannau, ieithoedd a phrofiadau sy’n cyfoethogi bywyd cymunedol ac yn cryfhau ein dyfodol cyffredin.

Weithiau nid yw canlyniadau pwysicaf dysgu oedolion bob amser y rhai hawsaf i’w mesur; Dysgwr yn teimlo’n ddigon hyderus i ymuno gyda’r sgwrs. Rhywun yn gwneud ffrind newydd. Rhiant yn teimlo’r gallu i ymgysylltu’n llawn gydag ysgol neu gymuned leol eu plentyn. Ystafell ddosbarth yn dod yn fan lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u croesawu.

Mae’r pethau hynny’n bwysig iawn.

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth