Dysgu gydol oes: rhaid i drydyddol olygu trydyddol i bawb
2-Hydref-2026
Mae Rhaglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru yn addo system addysg drydyddol sy’n helpu pobl o bob oedran i symud rhwng dysgu, hyfforddiant a gwaith drwy gydol eu hoes. Rwy’n croesawu’r uchelgais honno. Yr hyn fydd yn hanfodol yw sicrhau y gall oedolyn sy’n gorfod dechrau eto, newid cyfeiriad neu adeiladu ar sylfeini sgiliau presennol ganfod ffordd i mewn.
Mae’r cyfle yn sylweddol. Fe wnaeth Arolwg y Sefydliad Dysgu a Gwaith ynghylch oedolion yng Nghymru ganfod bod 59% o weithwyr llawn amser wedi cyfranogi mewn dysgu yn ystod y tair blynedd flaenorol, o’i gymharu â 28% o oedolion economaidd anweithredol. Mae hynny’n cynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig. Hyd yn oed gan ddefnyddio’r mesur eang hwn, mae mynediad ymhell o fod yn gyfartal.
Mae cyfle ar gael ar hyn o bryd i newid hynny yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth yn cynllunio Strategaeth Sgiliau sy’n cael ei llywio gan archwiliad sgiliau cenedlaethol, ag Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol yn helpu i lunio diwygiadau. Mae’n briodol gofyn pa sgiliau fydd eu hangen ar gyflogwyr. Rhaid inni ofyn cwestiwn arall ynghyd â hynny: pwy fydd yn cael cyfle i’w datblygu?
Yn Addysg Oedolion Cymru, rydym yn deall pam mae’r ddau gwestiwn yn bwysig. Ni yw darparwr addysg bellach cenedlaethol Cymru ym maes dysgu a sgiliau oedolion. Rydym yn cydweithio â chymunedau, cyflogwyr, undebau llafur a sefydliadau eraill, gan gyrraedd at bobl ble maent yn byw ac yn gweithio, yn ogystal ag ar-lein. Bydd rhai dysgwyr yn dychwelyd flynyddoedd lawer wedi eu profiad blaenorol o addysg. Bydd eraill yn datblygu yn y gwaith, yn paratoi at rôl newydd neu’n gweithio i gyflawni cymhwyster.
Gall archwiliad nodi bwlch o ran sgiliau. Efallai y gwnaiff ddweud llai wrthym am yr unigolyn a allai ei lenwi ond na all deithio i gwrs, trefnu gofal plant na chael darpariaeth dysgu sy’n addas o ran trefniadau eu sifftiau. Efallai y bydd yn methu rhywun oddi allan i waith cyflogedig y mae arnynt angen cam cyntaf croesawgar cyn i gymhwyster deimlo’n bosibl. Mae gan ddysgwyr, tiwtoriaid, sefydliadau cymunedol ac undebau llafur dystiolaeth i’w chyfrannu. Mae eu lleisiau’n perthyn i’r sgwrs am sgiliau’r dyfodol.
Mae ein tiwtoriaid a’n staff cymorth, gan gydweithio â phartneriaid dibynadwy, yn helpu pobl i gydnabod beth allant ei wneud eisoes ac adeiladu tuag at yr hyn sy’n dod nesaf. Gallai hynny olygu mwy o annibyniaeth heddiw, a rhagor o astudio neu newid mewn gwaith yn ddiweddarach. Ni fydd teithiau sgiliau yn rhai unionlin bob amser.
Os yw Cymru o ddifrif ynglŷn â’i huchelgeisiau economaidd, rhaid iddi ddatblygu’r doniau y mae’n eu hanwybyddu ar hyn o bryd. Mae darparwyr addysg oedolion yn hanfodol i’r gwaith hwnnw. Rhaid i’r strategaeth newydd gysylltu ei darlun o swyddi’r dyfodol â llwybrau ymarferol i alluogi oedolion yn holl gamau bywyd i ddechrau dysgu.
Dylai trydyddol olygu trydyddol i bawb.
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth