Dyma Fy Lle i: meithrin ymdeimlad o berthyn o amgylch plant a phobl ifanc | Addysg Oedolion Cymru

Dyma Fy Lle i: meithrin ymdeimlad o berthyn o amgylch plant a phobl ifanc

12-Chwefror-2026
Rhannu

Mae Wythnos Iechyd Meddwl Plant (9-15 Chwefror 2026) yn canolbwyntio ar Dyma Fy Lle, galwad i gryfhau’r perthnasoedd a’r amgylcheddau o amgylch plant a phobl ifanc fel eu bod yn teimlo’n ddiogel, ac yn teimlo bod eraill yn eu cynnwys a’u dirnad.

Dros yr wythnosau diwethaf, wrth i mi ymweld â darpariaeth ledled Cymru, rwyf wedi cael fy atgoffa y caiff ymdeimlad o berthyn ei feithrin yn dawel – mewn ystafelloedd cyffredin, mewn mannau dibynadwy, gyda phobl sy’n bresenoldeb cyson. Caiff iechyd meddwl plant a phobl ifanc ei lunio gan y perthnasoedd a’r amgylcheddau sydd o’u cwmpas, gartref, yn yr ysgol, ar-lein ac yn eu cymunedau. Pan fydd yr amgylcheddau hynny’n teimlo’n ddiogel ac yn sefydlog, bydd plant yn fwy tebygol o gynefino, ymddiried a ffynnu.

Yng Nghymru, mae gennym air am hynny: cynefin: y cyd-destun sy’n llunio sut bydd pobl yn profi’r byd. Mae Cynefin yn ein hatgoffa bod angen penderfyniadau wedi’u gwreiddio mewn realiti i ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth, nid cynnig yr un ateb i bawb. 

Mae Wythnos Iechyd Meddwl Plant yn cyfleu’r nod yn eglur: cryfhau’r systemau o amgylch plant a phobl ifanc fel y gallant deimlo eu bod yn perthyn. Mae gan Addysg Oedolion Cymru rôl bwysig o ran cynorthwyo i gyflawni’r nod hwnnw, ac mae’n cydweithio â sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid cymunedol mewn canolfannau lleol sy’n cysylltu pobl â chymorth ac yn magu hyder beunyddiol.

Mae ein rhaglenni dysgu fel teulu yn helpu rhieni a gofalwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth er gwell gartref ac yn yr ysgol. Er enghraifft, darllen gyda’i gilydd, arferion gwaith cartref, deall disgwyliadau, ac ymgysylltu ag athrawon a gwasanaethau. I deuluoedd sydd wedi profi tarfu neu drawma, gan gynnwys y rhai sy’n integreiddio mewn cymunedau newydd, gall y cymorth cyson hwnnw fod yn allweddol, a gall gryfhau arferion, perthnasoedd a gwydnwch.

Rydym hefyd yn cryfhau’r gweithlu gwaith ieuenctid yng Nghymru drwy gymwysterau gwaith ieuenctid. Rydym yn meithrin doniau, gan gynnwys dysgwyr sy’n cael eu denu at faes gwaith ieuenctid trwy brofiadau bywyd, ac yn eu helpu i droi uchelgais yn allu ac yn yrfa ystyrlon. Mae hynny’n bwysig o ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc: gall gweithwyr ieuenctid medrus greu mannau dibynadwy ble gall pobl ifanc siarad, cael gwrandawiad, a datblygu strategaethau ymdopi. Gall perthnasoedd cyson ac ymdeimlad o berthyn gynnig amddiffyniad – ar brydiau, gallant alluogi pobl i gychwyn sefydlogi yn hytrach na ymlafnio ag adfyd ar eu pen eu hunain.

Gwelwn yr un pwrpas trwy ein Cwrs ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu sy’n cael ei gyflwyno’n arbenigol gan staff cymwys ac sydd wedi’i wreiddio mewn dulliau sy’n cynnal lles plant a’u hiechyd meddwl. Mae’n helpu i sicrhau bod pobl dosturiol a medrus ar gael mewn ysgolion a lleoliadau dysgu; pobl sy’n sylwi, yn gwrando ac yn cynorthwyo plant yn feunyddiol, gan helpu i greu’r amodau sy’n galluogi plant i gynefino a bwrw eu boliau ar brydiau.

Dyna’r edefyn sy’n rhedeg drwy bob agwedd ar ein gwaith: galluogi gweithwyr ieuenctid, rhieni, gofalwyr a chynorthwywyr addysgu i fod ar gael i blant; yn gadarn, yn fedrus ac yn garedig, ac i helpu i feithrin yr amodau priodol i sicrhau ymdeimlad o berthyn.

Hefyd, yn fy marn i, ni allwn siarad yn ddidwyll am iechyd meddwl plant a phobl ifanc heb gyfeirio at ddwyster y byd ar-lein. Gall cyfryngau cymdeithasol feithrin cysylltiadau, ond gallant hefyd ddwysau cymariaethau, barnu a phwysau. Mae rhai ysgolion bellach yn gwahardd ffonau clyfar yn ystod y diwrnod ysgol; mae rhai’n cefnogi hynny’n gryf, ac mae eraill yn poeni bod polisi o’r fath yn rhy lym. Rwy’n deall y ddau safbwynt. Ond rwy’n credu’n bendant fod ar blant a phobl ifanc angen oedolion sy’n gallu ymgysylltu, gosod ffiniau a chynnal cysylltiadau. Mae ar lawer o oedolion angen cymorth i deimlo y gallant wneud hynny’n hyderus, a dyna yw ein cyfraniad ni. Rydym ar gael i helpu.

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth