Dyma Barbora Slivonova, un o’n tiwtoriaid Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn Abertawe, yn esbonio sut mae’r prosiect ymchwil y mae hi’n ei gynnal yn cynorthwyo â’r ddarpariaeth ar gyfer ein dysgwyr. | Addysg Oedolion Cymru

Dyma Barbora Slivonova, un o’n tiwtoriaid Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn Abertawe, yn esbonio sut mae’r prosiect ymchwil y mae hi’n ei gynnal yn cynorthwyo â’r ddarpariaeth ar gyfer ein dysgwyr.

18-Tachwedd-2024
Rhannu

Dywed Barbora, “Mae’r prosiect ymchwil yn ddilyniant i draethawd hir fy ngradd MA sef “Defnyddio AI i wella Testunau Dysgwyr ESOL: Gwerthuso ChatGPT fel Gwiriwr Gramadeg”. Byddaf yn cael y marc a’r adborth ynghylch fy nhraethawd hir ddydd Mercher nesaf, ond rwy’n obeithiol iawn oherwydd mae fy ngoruchwyliwr wedi cysylltu â mi ynghylch y prosiect ymchwil dilynol hwn. Yn fy nhraethawd hir, fe wnes i ganfod, pan roddir prompt i ChatGPT i ddarparu adborth cywirol fel athro a nodir y meysydd penodol y bydd y dysgwr yn dymuno cael adborth amdanynt, bydd ChatGPT yn darparu adborth cywirol cywirach o gymharu â prompt heb ffocws, pan fydd y defnyddiwr yn gofyn am gael unrhyw fath o adborth fel myfyriwr.   Yn ychwanegol, pan wnes i gynnal dadansoddiad meintiol o’r adborth a ddarperir gan ChatGPT, fe wnes i ganfod fod yr adborth hwnnw yn annelwig, yn anghywir, neu’n canolbwyntio’n aml ar rannau o’r iaith a oedd yn anaddas i fod yn gywir yn sgil lefel y dysgwyr. Fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau o ran amser, fe wnes i ganolbwyntio ar ffurfiau berfau gwallus yn bennaf yn fy mhrosiect.

Yn fy mhrosiect presennol, sef “Gwerthuso Galluoedd Nodi ac Esbonio Gwallau AI mewn Cyd-destunau TESOL”, rydym yn ceisio canolbwyntio ar y prif wallau mewn testunau dilys gan ddysgwyr ESOL a chymharu adborth ChatGPT â’r adborth a ddarperir gan athrawes ESOL (fi). Yna, byddwn yn cymharu’r adborth ac yn trafod i ba raddau mae adborth ChatGPT yn cyd-fynd ag adborth yr athrawes. Yn ychwanegol, gan ystyried y bydd ChatGPT yn cynhyrchu allbynnau newydd ac unigryw bob amser, byddwn yn profi i ba raddau y bydd ei allbynnau yn wahanol ar draws set o fewnbynnau. Mewn gwirionedd, rydym yn profi cysondeb adborth ChatGPT. Yn olaf, byddwn yn gofyn i’r dysgwyr a yw adborth ChatGPT yn ddefnyddiol iddynt ai peidio. I wneud hyn, byddwn yn creu holiadur, gan ddefnyddio allbynnau go iawn ChatGPT. Trwy gynnal y prosiect hwn, rydym yn cyfrannu at gorff presennol o wybodaeth sy’n ymdrin â chymwysiadau AI ym maes TESOL.

Byddwn yn cyflwyno ein canlyniadau mewn cynhadledd yn Nancy, Ffrainc, yng Ngorffennaf 2024. Yna, byddwn yn ceisio gorffen ysgrifennu’r papur ymchwil ar ddiwedd haf 2025 ac yn cyhoeddi’r papur mewn cyfrol wedi’i chydolygu sydd yn yr arfaeth, sef  “Artificial Intelligence and Language Teacher Education: Challenges, Innovations, and Future Directions” a gyhoeddir gan Dr Dara Tafazoli a’r Athro Susan Ledger (Prifysgol Newcastle, Awstralia).

Ni fyddwn i fyth wedi llwyddo i gwblhau fy nhraethawd hir a’r prosiect hwn heb fy ngoruchwylwraig wych, Dr Cornelia Tschichold, sy’n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi’n arbenigo ym meysydd caffael geirfa, dysgu iaith drwy gymorth cyfrifiadur (CALL), Deallusrwydd Artiffisial yng nghyd-destun CALL, ieithyddiaeth, ac Addysg Uwch yn fwy cyffredinol.

Os byddwn yn canfod y gall ChatGPT gynnig esboniadau ac adborth cywir sy’n ddigonol i ddysgwyr, gallai hynny olygu bod adnodd adborth cywirol defnyddiol ar gael yn rhad ac am ddim i ddysgwyr ar unrhyw adeg (rydym wrthi’n profi’r fersiwn o ChatGPT sydd ar gael yn rhad ac am ddim). Gwyddom y bydd athrawon yn brysur yn aml ac mae’n anodd i ni allu neilltuo amser i ddarparu adborth cywirol ysgrifenedig ynghylch testunau nad ydynt yn ofynnol at ddibenion cymwysterau achrededig (er enghraifft), neu ynghylch e-byst y bydd angen i’n dysgwyr eu hanfon neu bostiadau blog y dymunant eu cyhoeddi. Os bydd gennym dystiolaeth i gadarnhau fod adborth ChatGPT yn gywir ac yn ddigonol. Gallem annod dysgwyr i ddefnyddio’r adnodd adborth cywirol ysgrifenedig awtomataidd (AWCF) hwn sy’n cael ei lywio gan AI ar unrhyw adeg pan na fyddant yn yr ystafell ddosbarth. Credaf fod dangos i ddysgwyr sut i ddefnyddio offerynnau AI yn effeithiol mewn ffyrdd sydd ddim yn peri pryder o safbwynt moesegol (e.e. deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol) yn hanfodol o ran dyfodol addysgu a’u llwyddiant ym maes cyflogaeth yn y dyfodol.

Gall sicrhau’r canfyddiadau hyn gyfrannu hefyd at leddfu baich gwaith athrawon. Er enghraifft, profwyd fod AI yn adnodd gwych i gywiro camsillafu neu wallau o ran cytundeb gramadegol gwrthrych-berf.  Os byddwn yn canfod bod ChatGPT yn adnodd AWCF digonol yng nghyd-destun mwy o fathau o wallau, gallwn gynghori athrawon i ddefnyddio ChatGPT i gynnig adborth cywirol ynghylch gwallau penodol, a byddai hynny’n galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn ymdrin ag agweddau eraill ar y testun (e.e. y strwythur neu’r cynnwys).

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein cyrsiau ESOL, cliciwch yma.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth