Dr Salamatu Jidda-Fada, yr Is-gadeirydd, yn Rhoi’r Gorau Iddi ar ôl Gwasanaethu Addysg Oedolion Cymru am Saith Mlynedd  | Addysg Oedolion Cymru

Dr Salamatu Jidda-Fada, yr Is-gadeirydd, yn Rhoi’r Gorau Iddi ar ôl Gwasanaethu Addysg Oedolion Cymru am Saith Mlynedd 

14-Awst-2026
Rhannu

Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) wedi cyhoeddi bod Dr Salamatu Jidda-Fada, yr Is-gadeirydd, yn ymddiswyddo o’r Cyngor (Bwrdd y Llywodraethwyr). Mae hi’n gadael wedi bron i saith mlynedd o wasanaeth nodedig a ddiffiniwyd gan drawsnewid y sefydliad, arweinyddiaeth gydnerth, ac ymrwymiad dwys i addysg oedolion ledled Cymru. 

Dechreuodd taith Dr Jidda-Fada gydag AOC yn 2019 pan ddaeth yn aelod o’r Pwyllgor Profiad Dysgwyr. Dros y blynyddoedd, yn sgil ei gweledigaeth a’i harweinyddiaeth, mae hi wedi ymgymryd â rolau gwirfoddol hanfodol yng Nghyngor y sefydliad, gan gynnwys Cadeirio’r Pwyllgor Profiad Dysgwyr, ac yn fwyaf diweddar, rôl Is-gadeirydd y Cyngor. 

Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, fe wnaeth Dr Jidda-Fada gyfraniad allweddol at gynorthwyo Addysg Oedolion Cymru (AOC) i ymdrin â newidiadau sylweddol yn y sector a heriau byd-eang digynsail, gan gynnwys llywio effaith pandemig COVID-19 trwy hyrwyddo cynhwysiant digidol i sicrhau mynediad addysgol di-dor i filoedd o ddysgwyr sy’n oedolion ledled Cymru. 

Gan fanteisio ar ei chefndir ym meysydd addysg ac ymgyrchu, fe wnaeth hi hyrwyddo pwysigrwydd parhau i wella, ac adlewyrchir hynny yn neilliannau cryf cyson AOC yn sgil arolygon Estyn a diwylliant llywodraethu tryloyw. Mae hi hefyd wedi ehangu amrywiaeth ar lefelau uchaf llywodraethu’r sefydliad drwy helpu i recriwtio aelodau o’r bwrdd yn hanu o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, nghyd â sefydlu polisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), diogelu a chynaliadwyedd cadarn yn AOC. 

Dywedodd Dr Jidda-Fada am ei rôl fel Aelod o Gyngor Addysg Oedolion Cymru: 

“Mae gadael yn brofiad melys brudd. Ond nid yw gadael yn golygu diflannu. Bydd Addysg Oedolion Cymru bob amser yn agos at fy nghalon. Mae cael gwasanaethu dros y saith mlynedd diwethaf wedi bod yn fraint ac rwy’n hynod o ddiolchgar am y cyfle hwnnw. 

Hoffwn dalu teyrnged i Kathryn Robson, y Prif Weithredwr a Cath Hicks a Mark Baines, y Dirprwy Brif Weithredwyr, am feithrin perthynas â phwyslais ar ymddiriedaeth, tryloywder a chyd-barchu rhwng tîm yr arweinwyr gweithredol a bwrdd yr ymddiriedolwyr. 

Dymunaf ddiolch yn ddiffuant hefyd i aelodau presennol a chyn-aelodau’r bwrdd, staff a thiwtoriaid am eu hymroddiad i ddysgwyr a’u hysbryd cydweithredol drwy gydol fy nghyfnod gydag Addysg Oedolion Cymru.” 

Dywedodd Kathryn Robson, Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru: 

“Mae Salamatu wedi gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaol at waith Addysg Oedolion Cymru. Rwyf wedi gwerthfawrogi’n benodol ei dirnadaethau, ei huniondeb a’i pharodrwydd i’n herio’n adeiladol, ynghyd  â’i hymrwymiad diysgog i gydraddoldeb, cynhwysiant a sicrhau bod dysgwyr yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith. Mae wedi bod yn bleser mawr cael cydweithio â Salamatu, ac rwy’n ddiolchgar iawn am ei chymorth, ei doethineb a’i chyfeillgarwch. Byddwn yn gweld ei cholli’n fawr ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.” 

Ychwanegodd Stephen Nicholls, Cadeirydd Cyngor Addysg Oedolion Cymru: 

“Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Salamatu. Fel un o fy Is-gadeiryddion, rwyf wedi gwerthfawrogi ei chyngor cadarn yn ystod dadleuon ynghylch polisi a materion yn ymwneud â’r cwricwlwm, a’i brwdfrydedd naturiol ynghylch cyfeiriad y sefydliad. Bydd colled fawr ar ei hôl hi, ond mae opsiynau gyrfa cyffrous yn ei disgwyl.” 

Mae Addysg Oedolion Cymru yn edrych ymlaen at gynnal perthynas barhaol â Dr Jidda-Fada fel ffrind gydol oes ac eiriolwr o blaid y sefydliad ac mae’n diolch o waelod calon iddi am wasanaethu’r sefydliad yn ymroddgar dros nifer o flynyddoedd. 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth