Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – 8fed Mawrth 2025
7-Mawrth-2025Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn mai addysg yw un o’r arfau mwyaf pwerus ar gyfer newid. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025, dathlwn lwyddiannau menywod a merched ledled Cymru wrth gydnabod yr heriau sy’n dal i atal gormod rhag cael mynediad at ddysgu a chyflawni eu potensial.
Ledled Cymru, mae llawer o fenywod yn parhau i wynebu rhwystrau gwirioneddol i addysg, cyflogaeth a datblygiad personol. Mae llawer yn jyglo cyfrifoldebau gwaith, teulu, a gofal di-dâl, gan ei gwneud yn anodd dod o hyd i amser ar gyfer eu dysgu eu hunain. Yn aml gall pwysau ariannol, mynediad cyfyngedig at gludiant neu ofal plant, a diffyg hyder ddal merched yn ôl. Mae allgau digidol yn her gynyddol, yn enwedig wrth i fwy o gyfleoedd symud ar-lein, ac i’r rhai hynny o gymunedau mudol neu leiafrifoedd ethnig, gall rhwystrau iaith wneud dysgu hyd yn oed yn anoddach ei gyrchu. Mae disgwyliadau ryweddol hefyd yn parhau i lywio’r dewisiadau gyrfa ac astudio sydd ar gael i fenywod, gan gyfyngu ar eu hopsiynau a’u potensial.
Yn Addysg Oedolion Cymru, gweithiwn yn ddiflino i chwalu’r rhwystrau hyn a sicrhau bod addysg yn hygyrch i bob menyw, yn ystod pob cam o’i bywyd. Trwy ddysgu hyblyg yn y gymuned, cefnogwn fenywod i feithrin sgiliau, hyder ac annibyniaeth. Darparwn gyrsiau rhad ac am ddim mewn sgiliau hanfodol, llythrennedd digidol, cyflogadwyedd, a hyfforddiant galwedigaethol, gan estyn cymorth i fenywod gymryd camau ystyrlon tuag at addysg bellach neu gyflogaeth. Mae ein hopsiynau dysgu hyblyg, rhan-amser ac ar-lein yn galluogi menywod i astudio mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd gyda’u bywydau. Gweithiwn yn agos gyda phartneriaid ar draws y sector Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) i greu mannau diogel a chroesawgar lle gall menywod gael mynediad i addysg heb ofn na barn.
Bob dydd, gwelwn effaith newid bywydau drwy addysg. Merched yn dychwelyd i ddysgu ar ôl blynyddoedd i ffwrdd, mamau a gofalwyr yn ennill cymwysterau ac yn ymuno gyda’r gweithlu, menywod yn gwella eu sgiliau digidol i sicrhau cyfleoedd newydd. Trwy ddysgu, maent yn ennill mwy na dim ond gwybodaeth a sgiliau – maent yn magu hyder, annibyniaeth, a’r gallu i rymuso eu dyfodol eu hunain.
Ar yr #IWD2025 hwn, rydym yn dathlu’r addysgwyr, y gwirfoddolwyr a’r arweinwyr cymunedol sy’n gwneud hyn yn bosibl – a phob menyw a merch sy’n cymryd cam ymlaen ar eu taith ddysgu. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i hyrwyddo addysg menywod, chwalu rhwystrau, a chreu dyfodol lle mae dysgu ar gael yn wirioneddol i bawb.

Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth