Diwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr:Dathlu Llythrennedd, Dysgu fel Teulu a Sgiliau Iaith | Addysg Oedolion Cymru

Diwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr:Dathlu Llythrennedd, Dysgu fel Teulu a Sgiliau Iaith

6-Medi-2024
Rhannu

Diwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr: Dathlu Llythrennedd, Dysgu fel Teulu a Sgiliau Iaith
Gan Kathryn Robson, Addysg Oedolion Cymru

Wrth i Ddiwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr (6 Medi 2024) nesáu, mae’n gyfle i ni ddathlu grym trawsnewidiol darllen a’i ddylanwad ar ein bywydau. Mae’r diwrnod hwn yn dwyn sylw at bwysigrwydd llythrennedd, dysgu fel teulu a sgiliau ieithyddol – meysydd craiff sy’n cyd-fynd yn agos iawn â chenhadaeth Addysg Oedolion Cymru.

Pwysigrwydd Sgiliau Llythrennedd

Mae llythrennedd yn rhywbeth ehangach na’r gallu i ddarllen ac ysgrifennu – mae’n sylfaen i ddysgu gydol oes a thwf personol. Mae’n grymuso unigolion i gael addysg a chyflogaeth ystyrlon, a chyfranogi’n llawn yn y gymdeithas. Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr, cawn ein hatgoffa am rôl allweddol llythrennedd o ran agor y drysau at gyfleoedd newydd a gwella ansawdd ein bywyd.

Yma yn Addysg Oedolion Cymru, rydym yn ymrwymo i wella sgiliau llythrennedd ledled Cymru, gan sicrhau y caiff pawb gyfle i ddatblygu’r galluoedd hanfodol hyn. Llythrennedd yw’r allwedd i ddatgloi potensial, ac mae’n sgil sy’n cryfhau’r holl gyfleoedd dysgu eraill trwy gydol ein bywyd.

Dysgu fel Teulu: Meithrin Cysylltiadau Cryfach Trwy Ddarllen

Darllen gyda’ch gilydd fel teulu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o feithrin cariad at lyfrau ymhlith plant a chreu amgylchedd dysgu cefnogol yn y cartref. Yn ystod Diwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr, gall teuluoedd dreulio amser yn darllen gyda’i gilydd, gan greu profiadau dysgu a rennir sy’n sicrhau bod perthnasoedd yn fwy clòs ac yn meithrin cariad at ddysgu sy’n para gydol oes.

Yn ogystal â helpu plant i lwyddo yn yr ysgol, mae dysgu fel teulu hefyd yn helpu rhieni a gofalwyr i fagu hyder a datblygu sgiliau. Trwy sicrhau bod darllen yn rhan reolaidd o fywyd ein teulu, gallwn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau pleserau darllen, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau llythrennedd sy’n hanfodol ar gyfer eu dyfodol.

Sgiliau Iaith:  Cynorthwyo Dysgwyr ESOL a WSOL

Mewn cymdeithas amrywiol ac amlddiwylliannol, mae sgiliau iaith yn hanfodol at ddibenion cyfathrebu, integreiddio a chyfranogi. Mae Diwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr hefyd yn ein hatgoffa ni ei bod hi’n bwysig cynorthwyo’r sawl sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg fel ail iaith.

Yn achos dysgwyr cyrsiau Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (WSOL) a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), mae darllen yn rhan hanfodol o’u taith datblygu iaith. Mae’n helpu i wella geirfa, dirnadaeth a rhuglder, gan sicrhau bod cyfleoedd beunyddiol i ryngweithio ag eraill a chyfranogi yn y gymuned yn haws ac yn fwy boddhaus.

Cydweithio â Phartneriaid a’r Sector Gwirfoddol

Caiff ein hymrwymiad i lythrennedd, dysgu fel teulu a sgiliau iaith ei gryfhau gan ein cydweithio â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’r partneriaethau hyn yn hanfodol er mwyn cyrraedd at unigolion a theuluoedd a allai wynebu rhwystrau wrth geisio cael addysg. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i ddarparu cyfleoedd i ddysgu sy’n gynhwysol ac yn gefnogol ac yn diwallu anghenion amrywiol ein cymunedau.

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Darllen Llyfr, dewch i ni gydnabod yr ymdrech ar y cyd sy’n ofynnol i gynnal llythrennedd a dysgu ieithoedd. Pa un ai a fyddwn yn darllen llyfr gyda phlentyn, yn gwirfoddoli i helpu eraill i wella eu sgiliau iaith neu’n annog rhywun i fwynhau pleserau darllen, gallwn oll gyfrannu at sicrhau bod llythrennedd a dysgu ar gael i bawb.

Kathryn Robson
Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth