Diolch i chi Wirfoddolwyr – Beth a Clair!
17-Mehefin-2024

Mae ein Sefydliad yn cydnabod yr effaith gadarnhaol ac ystyrlon wrth ymgymryd gyda dyletswyddau gwirfoddoli, boed yn ymrwymiad rheolaidd neu’n rhywbeth un tro yn unig. Mae ein Tiwtor ESOL, Beth Barry ac ein Cydlynydd ADY, Clair Charalambous wedi bod yn gwirfoddoli ers 9 mlynedd! Dywedodd Clair, “Fe wnes i a Beth gyfarfod gyntaf yn 2016 pan ymunais gyda Chymdeithas Rhieni ac Athrawon ein plant. Roedd Beth eisoes yn diwtor gydag Addysg Oedolion Cymru, ac awgrymodd y dylwn ymgeisio am swydd addysgu! Ers hynny rydym wedi cydweithio yn y gwaith ac fel gwirfoddolwyr gyda’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon. Beth yw’r trysorydd a fi yw’r rhiant gadeirydd ac rydym wedi gwneud tîm gwych dros yr 8 mlynedd diwethaf, nid yn unig yn trefnu digwyddiadau hwyliog i gymuned yr ysgol, ond hefyd yn codi dros 10 mil o bunnoedd bob blwyddyn i’r plant yn ein hysgol. Rydym ein dwy wedi mwynhau ein blynyddoedd yn gwirfoddoli ac wedi cael cefnogaeth dda gan AOC, sy’n caniatáu diwrnodau gwirfoddoli i ni fedru trefnu a mynychu digwyddiadau ysgol.”
Hoffem ddiolch i Beth a Clair am eu gwaith caled!
Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn wirfoddolwr ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gyda Gwirfoddoli Cymru lle gellir cofrestru i gael mwy o wybodaeth. Nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun, fel tîm gallech drefnu gweithgaredd gwirfoddoli gyda’ch gilydd ar brosiect lleol.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth