Dina Soeiro:  Dan arweiniad chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth | Addysg Oedolion Cymru

Dina Soeiro:  Dan arweiniad chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth

16-Medi-2024
Rhannu

Sut sefydlwyd prosiect Naraftifau Llythrennedd Dysgwyr: Llyfrgell Bywyd, Cariad a Cholled?

Mae’r Athro Dina Soeiro o Brifysgol Bolytechnig yn esbonio hynny’n fanylach yn yr erthygl ddiweddar hon y mae hi wedi’i hysgrifennu ar gyfer EPALE (‘Electronic Platform for Adult Learning in Europe’).

Dina Soeiro:  Dan arweiniad chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth.

Os ydych chi’n rhannu ein brwdfrydedd, ymunwch â ni i sicrhau bod hwn yn brosiect arbennig iawn â chyfraniadau o bedwar ban byd.

Cefndir byr

Dina Soeiro ydw i, rwy’n gweithio yn Ysgol Addysg Athrofa Bolytechnig Coimbra, ac rwy’n athrawes sy’n frwdfrydig ynghylch addysg oedolion. Byddaf yn dysgu llawer iawn trwy gydweithio ag oedolion hŷn sy’n gwybod llawer am fywyd, er nad ydynt wedi bod yn yr ysgol. Rwy’n gwybod bod addysgu oedolion hŷn yn fuddsoddiad.

Fy stori

Sefydlwyd prosiect addysg oedolion rhyngwladol hefyd oherwydd fe ddigwyddodd ysbrydoliaeth, fe  wnaeth haelioni greu’r cyfle, ac fe wnaeth grym ewyllys gyflawni’r gweddill!

Roedd Beth John (Addysg Oedolion Cymru – AOC, y DU) a minnau yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ewropeaidd dros Addysg Oedolion (EAEA) yn Zagreb, yn 2023. Fe wnaethom gwrdd yno. Lle felly yw EAEA: cyfle i gynnal cyfarfodydd hapus! Ar y diwrnod pan oeddem yn gadael, fe wnaethom ymweld â’r Amgueddfa Perthnasoedd Toredig. Fe wnaethom adael yr Amgueddfa wedi’i rhyfeddu gan rym trawsnewidiol y gwrthrychau hynny a’r straeon a luniodd hwy, ac fe wnaeth hynny ysgogi emosiynau dwfn iawn ynom ni. Roeddem ni’n sefyll wrth ddrws y gwesty, yn llawn cyffro ac wedi’n hysbrydoli. Roedd Beth wedi trefnu tacsi i fynd i’r maes awyr, ac yn garedig iawn, cynigodd lifft i mi.


Yn yr Amgueddfa, prynais lyfr sy’n cynnwys cyfuniadau o ffotograffau o’r gwrthrychau a’u straeon. Roeddwn yn dal y llyfr yn fy llaw oherwydd roeddwn yn awyddus iawn i’w ddarganfod a chredais y byddai’r amser yn disgwyl i fynd ar yr awyren yn gyfle delfrydol i ymgolli yng nghyfoeth y llyfr. Ond oherwydd fy chwilfrydedd, ni wnes i ddisgwyl nes cyrraedd y maes awyr. Yn y tacsi, cychwynnais fodio trwy’r llyfr. Dywedais wrth Beth ei fod yn adnodd a oedd yn cynnig llawer o botensial o ran gwaith yn ymwneud â llythrennedd yng ngweithdai llythrennedd Letras Prá Vida, prosiect addysg gymunedol sy’n hybu llythrennedd ymhlith oedolion ym Mhortiwgal. Gallai cyfranogwyr ddewis gwrthrych hanfodol i’w drafod yn ymwneud â’u perthynas a rhannu’r stori! Dywedodd hi’n syth fod yn rhaid i ni feddwl am brosiect wedi’i ysbrydoli gan y llyfr hwn a’r Amgueddfa. Ac felly, trwy gyfrwng brwdfrydedd helaeth a llawer o waith, fe wnaeth Beth ysgogi tîm gwych yn AOC a wnaeth ddatblygu’r syniad hwn a’i wireddu. Cynhaliwyd y digwyddiad lansio ar-lein ar 17 Gorffennaf, ac fe wnaeth gweithwyr proffesiynol ym maes addysg oedolion o fwy nag 20 o genhedloedd gyfranogi ynddo. Maent wedi bod yn hynod o frwdfrydig ers cyflwyno’r prosiect hwn, ac rydym eisoes wedi cynnal cyfnod peilot ac wedi creu fideo a thudalen yn cynnwys llyfrgell 3D ymdrochol a ddatblygwyd gan AOC.

A oes arnoch awydd gwybod rhagor am y prosiect hwn? Os felly, archwiliwch y wefan hon: https://lifeloveloss.digital/

Os ydych chi’n rhannu ein brwdfrydedd, ymunwch â ni i sicrhau bod hwn yn brosiect arbennig iawn â chyfraniadau o bedwar ban byd trwy gofrestru yma.

Mae’n gyfle rhyfeddol i rannu grym llythrennedd, straeon a’r pobl sy’n eu hadrodd, a grym addysg oedolion sy’n wirioneddol weddnewidiol!

Hwyl fawr am y tro!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth