Dechrau Creadigol i’r Flwyddyn Newydd yn Abertawe! | Addysg Oedolion Cymru

Dechrau Creadigol i’r Flwyddyn Newydd yn Abertawe!

22-Ionawr-2025
Rhannu

Pan ddaw amser y Twrci a’r Tinsel i ben, fe wynebwn flwyddyn newydd a dechrau newydd. Mae Sam, Cydlynydd Cwricwlwm Abertawe, yn ein cyflwyno i 2 diwtor Celf a Chrefft newydd – Lawrence Mathias ac Emma Jenkins ac i ddau gwrs newydd sydd wedi’u hychwanegu at arlwy Abertawe – Cyflwyniad i Ddyfrlliwiau ac Arferion Cynaliadwy ar gyfer Dylunio Mewnol.

Cwrdd â Lawrence:

Yn artist a thiwtor o Sir Benfro, Gorllewin Cymru, rwyf wedi gweithio’n broffesiynol yn y celfyddydau ers dros 30 mlynedd, gan weithio yn Llundain ac mewn mannau eraill ar amrywiaeth eang o waith prosiect, o brosiectau cymunedol i gomisiynau preifat. Anelaf yn y gwersi i roi’r sgiliau a’r hyder i’m myfyrwyr ddechrau eu teithiau eu hunain yn y celfyddydau, o arlunio sylfaenol i waith mwy heriol mewn dyfrlliw, acrylig a chyfryngau eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am gwrs Lawrence cliciwch yma:

Introduction to Watercolour Painting | Adult Learning Wales

Cwrdd ag Emma:

Yn angerddol am greadigrwydd a’r byd naturiol, ac yn Feistr yn y Celfyddydau, trwythaf bob gwers gyda brwdfrydedd a gwreiddioldeb. Ffynnaf fel athrawes drwy gofleidio’r unigryw a’r ysbrydoledig. Mae fy nghariad at natur, y cefnfor, a llawenydd addysgu yn tanio fy nghenhadaeth i gysylltu’n ddwfn gydag eraill a chael effaith barhaol, ystyrlon. Yn berson a’i thraed ar y ddaear ac yn ddeallgar, anelaf at greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt, ac maent yn cael eu cynnwys. Mae fy angerdd dros yr awyr agored a’r cefnfor yn fy ysgogi i ysbrydoli a chysylltu gyda’m myfyrwyr mewn ffyrdd unigryw ac ystyrlon. Gyda chalon dosturiol ac awch am fywyd, dof â phersbectif ffres i addysg, gan wneud pob gwers yn daith o ddarganfod a thwf.

I gael rhagor o wybodaeth am gwrs Emma, cliciwch yma:

Sustainable Practices for Interior Design | Adult Learning Wales

Ar ddiwrnod cyntaf y dosbarthiadau newydd, cafodd Sam y pleser o ymweld gyda’r ddau ddosbarth a chwrdd gyda’r dysgwyr. Darllenwch ymlaen i glywed mwy am3 o’n dysgwyr ar y cwrs Cyflwyniad i Ddyfrlliwiau.

Emma gyda’i dysgwyr:

Plymio’n ddyfnach i fyd y dyfrlliw!

Teresa:

“Rwyf wedi ymddeol fel athrawes, ac wrth fy modd yn cael yr amser i ddatblygu fy ochr greadigol a rhoi cynnig ar bethau newydd. Dwi nawr yn dysgu i ddefnyddio cwilsyn, ffeltio nodwydd, yn crosio, yn dawnsio bola, yn brodio, yn chwarae Samba ac yn gwneud crochenwaith. Rwyf hefyd mewn côr a grŵp theatr gerdd.

Dywedais erioed na allaf dynnu llun na phaentio, ond ar ôl cael canser y llynedd ac wedi gwella’n llwyr erbyn hyn, penderfynais gallaf wneud unrhyw beth. Felly, pan welais y cwrs yma, neidiais at y cyfle i ymuno!”

Ruth:

“Ymddeolais fel pennaeth ysgol wedi 40 mlynedd o wneud yr hyn roeddwn yn gwybod y gallwn ei wneud, a phenderfynu ehangu fy ngorwelion a dod yn ddysgwr unwaith eto. Cofrestrais yng Ngholeg Gŵyr a dechrau ar gwrs gofaint arian. Yn sicr, nid fi yw’r gorau ond rwy’n goresgyn fy ofn o wneud pethau’n anghywir!

Dechreuais arbrofi gyda dyfrlliwiau ychydig fisoedd yn ôl. Unwaith eto, nid fi yw’r gorau o gwbl, ond rwy’n mwynhau rhoi cynnig arni, ac ymestyn fy sgiliau newydd.”

Lauren:

“Rwyf bob amser wedi mwynhau celf a chrefft, ond heb ddigon o brofiad i ddechrau fy mhrosiectau fy hun, felly roeddwn am ddysgu rhai sgiliau a thechnegau.

Ar ôl blwyddyn anodd, gwthiais fy hun i gamu allan o’m parth cysurus a dysgu pethau newydd, yn enwedig o amgylch pobl eraill sy’n dysgu ar yr un pryd.”

Gweler isod, y tiwtor Lawrence yn esbonio’r hyn mae’n rhaid i’r dysgwyr ei wneud yn eu dosbarth cyntaf!

“Gwnaethom gymysgedd o bethau yn ein gwers agoriadol – astudiaeth sylfaenol o ddefnyddio dyfrlliwiau gydag egwyddorion cymysgu a defnyddio golchiadau dyfrlliw ar gyfer lliwio. Astudiaeth cyflwyno syml oedd y darn cyntaf, yna symudom ymlaen i astudiaeth o ddarn o felon, esiampl o fywyd llonydd yn sylfaenol, ac yna astudiaeth o goeden. Roeddynt yn gynyddol gymhleth eu hagwedd, ond bu’r holl fyfyrwyr yn gweithio gyda sylw ac yn cynhyrchu darnau o waith o safon uchel. Atodir nifer o’r darnau ynghyd â’r darnau astudio a ddefnyddiwyd. Yn yr wythnosau nesaf byddwn yn edrych ar greadigaeth unigol ac astudiaethau sy’n seiliedig ar ddychymyg hefyd, sydd i gyd yn elfennau pwysig wrth ddatblygu gweledigaeth ac arddull bersonol mewn gwaith celf unigol.”

Hoffem groesawu pawb i Addysg Oedolion Cymru ac edrychwn ymlaen at weld beth mae ein dysgwyr yn ei greu yn y dyfodol!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth