Ddoe ymwelodd Nia a Sandra, y tiwtoriaid ESOL, gydag Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe! | Addysg Oedolion Cymru

Ddoe ymwelodd Nia a Sandra, y tiwtoriaid ESOL, gydag Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe!

2-Gorffennaf-2024
Rhannu

Cafodd ein dysgwyr y dasg o ymchwilio i wybodaeth am y Chwyldro Diwydiannol a’i effeithiau ar dirwedd Abertawe.

Cyn yr ymweliad, cafwyd cyfle i ddysgu am bwrpas cyfrifiad a sut newidiodd y boblogaeth yn ystod y nawfed ganrif ar ddeg. Roedd y data a rannwyd yn dangos pa mor gyflym daeth Abertawe yn ardal ddiwydiannol a faint o bobl a symudodd o bentrefi amaethyddol i’r dref ar gyfer gwaith. Bu’r dosbarth yn trafod mewnforion ac allforion ac yn cymharu hyn gyda’u gwledydd.

Yn yr amgueddfa, cymerodd y grŵp ran mewn gweithgaredd rhyngweithiol i leoli tirnodau yng Nghwm Tawe a thu hwnt. Buont yn astudio arteffactau o’r nawfed ganrif ar ddeg ac roedd yn rhaid iddynt weithio allan beth oedd yr arteffactau a sut a pham cawsant eu defnyddio. Roedd y rhain yn cynnwys rhaw seremonïol a ddefnyddiwyd i agor Dociau Abertawe, cwpwrdd meddyginiaeth a chofnodion ysgrifenedig fel papurau newydd a sampleri gwniadwaith.

Dywedodd ein tiwtor Mynediad Lefel 3, Nia, “Cafodd llawer o eirfa newydd ei ddysgu a’i hymarfer drwy gydol y dydd, ac aeth y dysgwyr i ffwrdd gyda gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd byd-eang Abertawe yn ystod y cyfnod hwn a sut mae’r ardal wastad wedi angen a chroesawu ymfudo.”

Dywedodd Sandra, tiwtor Mynediad Lefel 3, “Roedd yn hyfryd mynd allan o’r ystafell ddosbarth a rhannu ychydig o hanes a diwylliant Abertawe gyda’r grŵp. Bydd y dysgwyr rhan amser yn ymuno gyda’r dosbarth llawn amser ym mis Medi, felly roedd yn gyfle da iddynt ddod i adnabod ei gilydd cyn hynny – nid yn unig drwy waith pâr ond dros baned a chacen haeddiannol yn y caffi wedyn.”

Dywedodd un o’n dysgwyr, Diljan Sulaiman, “Gwnaeth y goes artiffisial argraff arbennig arnaf. Roedd wedi’i gwneud o bren a lledr, gyda rhannau metel ar gyfer cryfder strwythurol. Fe’i gwnaed yn arbennig ar gyfer claf, ac mae’n dangos sut gwnaeth technoleg feddygol gynnar wella bywydau pobl a anafwyd.”

Rydym yn hynod o falch bod ein dysgwyr wedi cael amser mor wych!

Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau ESOL, cliciwch yma: www.addysgoedolion.cymru/amdanom/cyrsiau/esol/

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth