Dathlu, Ysbrydoli, a Dysgu Gydol Oes: Profi Gwobrau Dysgwyr Ysbrydoli!
3-Hydref-2026
Ddydd Mercher, 23 Medi, aeth staff a thiwtoriaid Addysg Oedolion Cymru i ddigwyddiad blynyddol Gwobrau Dysgwyr Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd. Roedd yn noson ysbrydoledig yn gyfle i ddathlu cyflawniadau rhyfeddol dysgwyr sy’n oedolion ledled Cymru.
Un o’r rhai oedd yn cynrychioli Addysg Oedolion Cymru roedd Celine Yon-Durham, tiwtor Sgiliau Cwnsela, ac Ymchwilydd Ymchwil Weithredu. Yn garedig iawn, fe wnaeth Celine, sydd hefyd yn flogiwr, rannu ei phrofiad personol o’r noson. Darllenwch bostiad ei blog isod:
Dim ond trwy siawns y cefais gyfle, fel rhan o dîm staff Addysg Oedolion Cymru, i fynychu digwyddiad mawreddog Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! a gynhaliwyd yn y Gyfnewidfa Lo hardd yng Nghaerdydd nos Fercher.
Yn sgil yr e-byst cadarnhau, casglais y byddai hon yn noson ble byddai angen gwisg ffurfiol ac y byddai angen i mi fod yn ymwybodol o’r angen i ymddwyn yn gwrtais ac yn foesgar.
Heb os, ni wnes i ddisgwyl teimlo cymaint o emosiwn yn ystod y seremoni wobrwyo.
Roeddwn i wedi gweithio drwy’r dydd fel athrawes ysgol uwchradd, rhuthro adref, gwisgo fy ffrog ddu hir orau â bolero les du, rhuthro ar y funud olaf i’r siop popeth am bunt i brynu minlliw mwy disglair na’r arfer, a chael lifft yn C5 fy merch.
Erbyn i mi gyrraedd Gwesty’r Gyfnewidfa Lo, roeddwn i’n teimlo’n eithaf hudolus, ond hefyd ychydig yn bryderus, oherwydd nid oeddwn i’n adnabod neb mewn gwirionedd.
Roedd y lleoliad yn drawiadol, ac yn syth ar ôl cyrraedd, i’n teimlo’n llawn cyffro a’i bod yn fraint cael bod yn rhan o’r digwyddiad.
Rwy’n wastad wedi caru dysgu. Rwy’n credu na ddaw dysgu i ben pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol ac yn dechrau gweithio. Bydd yn parhau ar hyd ein hoes, gan eu cyfoethogi mewn ffyrdd na fyddwn yn eu gwerthfawrogi bob amser nes bydd hi’n llawer ddiweddarach.
“Mae dysgu yn ddihangfa o dlodi.”
Dyna rywbeth y gwnaeth fy mam ei ailadrodd wrthyf sawl gwaith pan oeddwn i’n tyfu i fyny.
Roedd hi’n hanu o gefndir gwledig a thlawd iawn ac fe’i hanogwyd yn gyntaf gan ei rhieni, ac yn ddiweddarach yn sgil dyfalbarhad llwyr, i ddringo ysgol serth iawn Technoleg Gwybodaeth. O’i dyddiau cynnar yn gweithio yn IBM ar ddiwedd y 1960au, aeth ymlaen i swyddi rheoli cyn ymddeol maes o law. Dysgodd Saesneg fel oedolyn a hi wnaeth fy ysbrydoli i symud i’r DU pan oeddwn i’n 19 oed.
Mae’r ysbrydoliaeth honno wedi aros gyda mi erioed.
Roeddwn i wrth fy modd yn addysgu, ac am flynyddoedd lawer, wnes i erioed ystyried y byddwn yn gwneud unrhyw beth arall. Ond mae bywyd wedi fy arwain ar ryw fath o ffigyr-êt: o gymhwyster TAR, i Ddiploma Cwnsela, ac erbyn hyn, braidd yn annisgwyl efallai, i radd yn y Gyfraith.
Serch hynny, roedd y noson wobrwyo yn agoriad llygad i mi.
Mae oedolion sy’n ddysgwyr yn hynod o amrywiol. Maent yn amrywiol ym mhob ystyr bosibl. Gallant fod yn heriol ar brydiau a gellir eu herio hwythau ar brydiau, ond gall y dysgu sy’n digwydd fod yr un fuddiol i’r tiwtor ac i’r dysgwr.
Cefais fy syfrdanu gan ddyfalbarhad rhai o enillwyr y gwobrau.
Er gwaethaf yr anawsterau, roeddent wedi dangos eu bod yn gallu cyflawni pethau rhyfeddol, ac wedi dangos sut y gallai dysgu newid eu bywydau, dylanwadu ar fywydau’r bobl o’u cwmpas ac ysbrydoli nifer dirifedi o bobl eraill.
Byddaf yn troi’n 50 mewn ychydig wythnosau, ac rwy’n dal i ddysgu.
Rwy’n gobeithio y bydd fy ngradd yn y Gyfraith yn bodloni fy awydd diddiwedd i ddarganfod pethau, gofyn cwestiynau a deall sut mae pethau’n gweithio.
Ond, yn y bôn, rwy’n gwybod nad felly fydd hi.
Rwy’n gwybod y byddaf yn canfod rhywbeth arall y byddaf yn dymuno dysgu amdano nesaf.
Cyflwynwyd y noson gan Nia Parry, Llywydd ein sefydliad a llysgennad rhagorol dros addysg oedolion. Symudai yn ddiymdrech rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn yr un ffordd fwy neu lai ag y bydd fy ymennydd amlieithog fy hun yn neidio o’r naill iaith i’r llall. Roedd hi wedi astudio cwnsela, fel y gwnes i flynyddoedd lawer yn ôl, ac er ein bod ni’n edrych yn hynod o wahanol yn ein gwisgoedd ffurfiol, roedd y tebygrwydd yn gwneud i mi wenu.
Efallai bod hynny’n rhan o hanfod addysg oedolion sy’n golygu ei fod yn rhywbeth mor arbennig.
Fel bodau dynol, rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd o ddatblygu, deall a gwella ein hunain.
Mae addysg oedolion yn cynnig llwyfan i bobl nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i fwynhau, cyfranogi, archwilio na chyflawni yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol. Mae’n cynnig cyfle arall i bobl, ac weithiau, ail, trydydd neu bedwerydd cyfle, i ddarganfod beth allant ei wneud.
Mae hynny’n golygu bod addysg oedolion yn fwy na phwysig – mae’n hanfodol.
Dymunaf longyfarch yr holl enillwyr, ond byddaf yn cofio’n neilltuol am ychydig o rai penodol.
Aaron Jones, am fod yn seren go iawn a chymryd yr awenau ar y meic fel bos!
Yassmein Hussein, am ei gwydnwch a’i dyfalbarhad i wneud gwahaniaeth i’w bywyd ei hun, ac i fywyd ei chymuned hefyd.
Julia Anderson, am brofi mewn ffordd hyfryd iawn nad yw oedran yn rhywbeth amgenach na rhif o ran dysgu sgiliau newydd.
A Honney, a ddangosodd i ni fod bod yn fenyw mewn diwydiant y mae dynion yn fwyaf blaenllaw ynddo yn rhywbeth dichonol ac yn rhywbeth y dylid ei annog yn weithredol.
I holl ddysgwyr ac enillwyr gwobrau Ysbrydoli!: llongyfarchiadau mawr.
Ac i Addysg Oedolion Cymru: diolch am ganiatáu i mi fod yn rhan o noson mor arbennig.
Fe wnaeth hynny fy atgoffa bod angen mawr ar ein rôl fel tiwtoriaid. Mae ein gwaith yn bwysig. Weithiau, efallai na fyddwn yn gweld effaith gwers, sgwrs, ychydig o anogaeth neu rywun yn credu’n syth yng ngallu dysgwr, ond gall y pethau hynny ddod yn rhan o daith llawer mwy.
Fe wnaeth y noson fy atgoffa pam rwy’n addysgu, pam rwy’n tiwtora a pham mae’r holl waith anweledig yn bwysig.
Ond fe wnaeth hefyd fy atgoffa pam rydw i’n dysgu.
Ac yn olaf, nodyn bach i Nia: Diolch am dreulio amser yn i siarad â mi, am drafod ein hamlieithrwydd a chymharu gwisgoedd!
Efallai y byddaf yn derbyn y cynnig i addysgu Cymraeg i mi.
Efallai y gallem drefnu i gyfnewid sgiliau.
Cyfnewid Cymraeg am Ffrangeg?
Wedi’r cyfan, rwyf i bron yn 50 oed.
Credaf ei bod hi’n bryd i mi ddysgu iaith arall. Yn enwedig iaith fy ngwlad fabwysiedig. Wedi dweud hynny, gallaf ddeall y gwahaniaeth rhwng cinio a brechdanau.
Celine Yon-Durham
Os hoffech chi ddarllen rhagor o bostiadau blog Celine, trowch at ei thudalen yma
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth