Dathlu Taith Unigryw ar y Cyd o Ddysgu, Archwilio a Phrofi Llawenydd | Addysg Oedolion Cymru

Dathlu Taith Unigryw ar y Cyd o Ddysgu, Archwilio a Phrofi Llawenydd

15-Gorffennaf-2025
Rhannu

Ym mis Mehefin 2025, cynhaliodd Addysg Oedolion Cymru (AOC), gyda chymorth cyllid gan Taith, ymweliad rhyngwladol llwyddiannus i gydweithwyr a dysgwyr o Wlad Groeg o Dafni-Kek a Chromata Zois. Roedd y cyfnewid hwn yn rhan o’r Prosiect “Balch o Fod yn Awtistig”, sy’n anelu at gyfoethogi rhaglenni dysgu ar gyfer oedolion awtistig yng Nghymru a Gwlad Groeg, meithrin hyder ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a mynd i’r afael gyda’r stigma sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth. Mae’r fenter unigryw hon wedi rhoi cyfle unwaith mewn oes i ddysgwyr sy’n oedolion o Gymru a Gwlad Groeg sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer cyfnewid diwylliannol ac addysgol.

Wedi ein hymweliad ni â Patras yng Ngwlad Groeg ym mis Hydref 2024, croesawodd tîm AOC groesawu ein ffrindiau a’n cydweithwyr o Wlad Groeg ar ymweliad wythnos o hyd wedi ei gynllunio ar y cyd i Gymru oedd yn wlypach a gwyntog i ddechrau. Dysgant am ddull Cymru o ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y Ddeddf Addysg a Thribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol (2018) (ALNET) ac Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar y Person, sy’n blaenoriaethu dymuniadau’r dysgwr. Gwnaeth Vasiliki sylwadau ar ‘werth dulliau cynhwysol’ a fabwysiadwyd a sut y rhoddodd y sesiwn ddealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae Cymru’n blaenoriaethu cynhwysiant fel adnodd sylfaenol.

Archwiliodd y dysgwyr, Vasiliki, Sabiniela ac Elpida, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a chanol y ddinas gyda chefnogaeth Swyddogion Anghenion Dysgu Ychwanegol AOC, Andrea Planas a Jeni Bone, a’u gweithwyr cymorth o Chromata Zois, Dimitrios, Dionysios a Maria.

Un o uchafbwyntiau’r grŵp oedd ymweliad ag Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd. Cafodd y grŵp gyfle i archwilio’r amrywiol adeiladau hanesyddol, a chymerodd y dysgwyr ran mewn rhai gweithgareddau traddodiadol ymarferol, gan gynnwys gwehyddu basgedi ac adeiladu byrddau gan ddefnyddio blociau pren. Dywedodd Cydlynydd ADY AOC sef Clair Charalambous, aeth ar yr ymweliad gyda’r grŵp:

“Roedd eu hwynebau yn bictiwr wrth gerdded i mewn i’r tŷ cyntaf. Er bod Gwlad Groeg yn llawn hanes hynafol, fe wnaeth Sain Ffagan gynnig cyfle iddynt ymgolli ym mywyd Cymru trwy hanes mwy diweddar y wlad. Roeddent yn rhyfeddu at yr adeiladau ac yn pwyntio’n ddiddiwedd at bethau ac yn holi beth oeddent. Cawsom sgyrsiau hir am y Gymraeg a diwylliant, a’n hanes fel un o wledydd pwysig y diwydiant glo. Ar ôl meddwl yn wreiddiol fod y Gymraeg yn dafodiaith, fe wnaeth y grŵp ddod i ddeall mwy am natur unigryw diwylliant Cymru a’r Gymraeg.”

Eu hymweliad â ValePlus ar ddydd Iau 12 Mehefin oedd uchafbwynt y daith lle cafodd y o Wlad Groeg eu hailuno â’u ffrindiau Cymreig roeddynt wedi cwrdd â nhw yn ystod y  daith flaenorol i Wlad Groeg.

Roedd Ela Denley o ValePlus, mewn partneriaeth ag AOC , wedi paratoi diwrnod llawn o weithgareddau yn cynnwys gwneud teisen gri/pice ar y maen, canu, dawnsio a chelf a chrefft.  Roedd rysáit y deisen gri/pice ar y maen wedi’u paratoi yn Saesneg a Groeg, gan sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn gallu elwa’n llawn o’r gweithgaredd. Ar ddiwedd y dydd, casglwyd yr holl ffotograffau a’r lluniadau i mewn i lyfr i’r dysgwyr fynd â nhw yn ôl i Wlad Groeg, i ddarparu atgof parhaol o’u taith i Gymru a’r cyfeillgarwch a wnaethant.

Dywedodd Ela Denley o ValePlus:

“Fe wnaethom ni fwynhau croesawu ein ffrindiau o Wlad Groeg i’r Barri yn fawr iawn. Roedd yn hyfryd cael cyfle i’w tywys o gwmpas ein canolfan a’u cyflwyno i rai o’r dysgwyr na chafodd y cyfle i ymweld â Gwlad Groeg. Roeddem wrth ein bodd yn cael coginio gyda’n gilydd  a gwnaethpwyd argraff fawr arnom , gan nad oeddynt erioed wedi gwneud teisen gri/pice ar y maen cyn hynny, fe wnaethant gyfranogi yn frwdfrydig a chreu campweithiau blasus! Fodd bynnag, y canu a’r dawnsio oedd yr uchafbwynt i ni. Yn union fel yn ystod ein hymweliad â Gwlad Groeg, nid oedd neb yn malio ein bod ni’n siarad ieithoedd gwahanol; gwnaeth y gerddoriaeth ein huno ni!”

“Rydym mor ddiolchgar i Addysg Oedolion Cymru a rhaglen Taith am y cyfleoedd anhygoel hyn. Heb os, mae wedi bod yn gyfle unwaith mewn oes. Rydym yn gobeithio cadw cysylltiad â’n ffrindiau newydd yng Ngwlad Groeg a pharhau â’n cyfeillgarwch hirbell!”

Roedd y Dysgwyr o ddosbarthiadau AOC yn ValePlus yr un mor falch o weld eu ffrindiau Groegaidd eto a rhannu diwrnod mor arbennig gyda nhw:

‘Roedd yn wych cael cyfle i’w gweld eto. Roedd cael cyfle i’w gweld yn brofiad hynod o emosiynol i mi oherwydd maent yn griw mor garedig. Fe wnes i fwynhau eu gweld yn dawnsio. (Sara)

‘Fe wnes i fwynhau cael cyfle i’w gweld eto ac roedd pawb yn hynod o garedig ac annwyl. Fe wnes i fwynhau dysgu sut i wneud teisen gri/pice ar y maen; cawsom ni rysáit o Wlad Groeg hefyd! (Michelle)

Neilltuwyd y diwrnod olaf i ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac yno, fe wnaeth y grŵp fwynhau archwilio natur a mwynhau arddangosfa adar ysglyfaethus Prydain.

Aeth Kathryn Robson, Prif Weithredwr AOC|ALW, yno atynt.  Dywedodd Kathryn:

“Ymunais â’r grŵp yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Gwener 13 Mehefin, ac roedd yn ddiwrnod llawen ac ystyrlon iawn. Roedd y lleoliad ei hun yn odidog – tawel, eang, ac yn llawn pethau i ysgogi’r synhwyrau – ac fe wnaeth gynnig cyfle i bawb archwilio, siarad a mwynhau’r profiad ar eu cyflymder eu hunain.” 

“Roedd yn hyfryd gweld sut wnaeth yr ymweliad helpu i ymestyn sgiliau yn y Saesneg mewn ffordd naturiol a hamddenol iawn – trwy ddarllen arwyddion, sgwrsio am y pethau a welid, gofyn cwestiynau, a chwerthin gyda’n gilydd. Roedd yr arddangosfa adar ysglyfaethus yn uchafbwynt heb os. Fe wnaeth hynny danio cymaint o gyffro a chwilfrydedd – fe wnaeth y grŵp brofi cyffro go iawn, a chyfleoedd helaeth i siarad a chnoi cil ynghylch natur, yr amgylchedd, a sut byddwn yn gofalu am y byd o’n cwmpas.”

“Roedd hefyd yn wych cael clywed am y cyfeillgarwch a’r cysylltiadau yr oeddent wedi’u meithrin ag aelodau grŵp ValePlus yn ystod yr wythnos – a chael dysgu rhagor am y dull a ddefnyddir yn y Ganolfan Ddydd yn Patras i greu amgylchedd dysgu mor gyfoethog a chreadigol. Dywedodd ein cydweithwyr o Wlad Groeg fod prosiect Taith wedi bod yn hynod o bwysig o ran gwireddu’r profiad hwn. Hebddo, ni fyddai’r dysgwyr hyn wedi cael y cyfle – ac roedd hi’n amlwg fod y profiad yn hynod o bwysig iddynt.”

Roedd y symudedd mewnol yn llwyddiant ysgubol i bawb a oedd yn rhan. Cafodd yr ymweliad â Chymru, y cyfeillgarwch a ffurfiwyd, a’r atgofion parhaol a grëwyd gan y dysgwyr, y tiwtoriaid, a’r gweithwyr cymorth effaith ddofn. Dywedodd Vasiliki o sefydliad Dafni-Kek:

“Cawsom groeso cynnes y bobl a wnaeth ein gwahodd ac roeddent wedi paratoi popeth yn ofalus iawn, yn gyffredinol ac yn benodol, i sicrhau y gallem fwynhau cyfnod hwylus, dymunol a chyfforddus yn eu gwlad.”

“Am y tro cyntaf, fe wnaeth yr wyth cyfranogwr o Wlad Groeg – addysgwyr, cwnselwyr, staff byw â chymorth, a therapyddion galwedigaethol – ac yn bwysicaf oll, ein dysgwyr annwyl, brofi llawenydd, rhyfeddod a disgwylgarwch teithio. Cawsant hefyd gyfleoedd i fod yn rhan o fosaig lliwgar, cyfnewid emosiynau a diwylliannau, ac ysgwyddo cyfrifoldeb personol trwy weithredoedd syml cyffredin gan arddel annibyniaeth oedolion. Ac fe wnaethant ddychwelyd â’u pennau yn llawn delweddau ac atgofion, ac yn ein barn ni, wedi’u hargyhoeddi y gall ein byd barhau i fod yn lliwgar, yn gymhleth ac yn amryfal, pan brofir yr eiliadau hynny pan fydd pobl yn deall ei gilydd i’r dim. Diolch o waelod calon i bawb ohonoch chi am y daith werthfawr hon.”

Yn ogystal ag effaith bwerus Prosiect “Balch o Fod yn Awtistig” ar y dysgwyr a’r unigolion a gyfranogodd, mae ein cydweithwyr yng Ngwlad Groeg wedi nodi y byddant yn ‘annog mwy o brofiadau teithio ymarferol i ddysgwyr sy’n oedolion ag anghenion cymorth; yn archwilio dulliau i gynnig profiadau creadigol tebyg yn lleol; ac yn annog parhau i gydweithio rhwng sefydliadau er mwyn rhannu arferion cynhwysol.’

Hoffai AOC ddiolch i Dafni-Kek, Chromata Zois, ValePlus, staff AOC, Taith, ac yn anad dim, y dysgwyr a gyfranogodd yn y ddau ymweliad.  Hebddynt hwy, ni fyddem wedi gallu gwireddu’r daith anhygoel ac unigryw hon a wnaeth gynnig cymaint o gyfleoedd i ddysgu, archwilio a phrofi llawenydd.

Diolch! Efharisto! Thank you!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth