Dathlu Taith Ddysgu Zahira yng Ngwobrau Cenedl Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru 2026 | Addysg Oedolion Cymru

Dathlu Taith Ddysgu Zahira yng Ngwobrau Cenedl Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru 2026

30-Mehefin-2026
Rhannu

Yn Addysg Oedolion Cymru, rydym yn hynod falch o ddathlu cyflawniadau ein dysgwyr,  a lle mae llawer ohonynt wedi goresgyn heriau eithriadol i ailadeiladu eu bywydau trwy addysg. Gan gyrraedd y DU fel ceisiwr lloches yn 2023, wynebodd Zahira’r dasg anodd o ddechrau o’r newydd mewn diwylliant newydd heb siarad gair o Saesneg. O fewn blwyddyn yn unig, trwy ein cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), llwyddodd i basio ei harholiadau iaith ac ennill yr hyder i wneud cais i’r brifysgol, lle bu iddi lwyddo i gael ysgoloriaeth i astudio cyfrifiadura. Cydnabyddir ei gwaith anhygoel o galed a’i gwydnwch dros y tair blynedd diwethaf gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, sydd wedi’i henwebu yn rownd derfynol Gwobrau Cenedl Noddfa 2026. Dyma ei stori yn ei geiriau ei hun:

“Fy enw yw Zahira, ac rwy’n dod o Afghanistan yn wreiddiol. Cyn dod i’r DU, roeddwn yn astudio Cyfrifiadureg mewn prifysgol yn Afghanistan. Cwblheais dwy flynedd o fy ngradd; fodd bynnag, oherwydd y newidiadau gwleidyddol yn y wlad a’r cyfyngiadau a osodwyd ar fenywod, nid oeddwn yn gallu parhau gyda’m haddysg a chwblhau fy astudiaethau.

Ochr yn ochr ag astudio, gweithiais am saith mlynedd yn y sector addysg ac fel ymgyrchydd dros hawliau menywod, gan gefnogi merched a menywod i gael mynediad at addysg a chyfleoedd. Yn dilyn y newid yn y llywodraeth yn Afghanistan, daeth bywyd yn hynod anodd a pheryglus, yn enwedig i ferched a menywod. Gwrthodwyd llawer o hawliau sylfaenol i fenywod, gan gynnwys mynediad at addysg, cyflogaeth a medru mynd i fannau cyhoeddus. Oherwydd fy ngwaith a’m hymgyrchu, roedd diogelwch fy nheulu mewn perygl, a gorfodwyd ni i adael ein cartref a cheisio diogelwch yn y DU.

Cyrhaeddodd fy nheulu’r DU yn 2023 fel ceiswyr lloches. Roedd dechrau bywyd newydd mewn gwlad hollol wahanol yn un o’r heriau mwyaf i mi erioed ei hwynebu. Pan gyrhaeddais gyntaf, nid oeddwn yn gallu siarad na deall Saesneg, a oedd yn gwneud bywyd dyddiol yn anodd iawn. Roedd popeth yn newydd, ac roedd addasu i ddiwylliant, system addysg ac iaith wahanol yn heriol. Yn ychwanegol, mae gennyf dwy ferch, sy’n gwneud cydbwyso cyfrifoldebau teuluol a’m hastudiaethau hyd yn oed yn fwy heriol.

Er gwaetha’r anawsterau hyn, roeddwn yn benderfynol o beidio rhoi’r gorau i’m haddysg a’m dyfodol. Trwy waith caled, ymroddiad a dyfalbarhad, dysgais Saesneg o fewn blwyddyn a llwyddo i basio fy arholiadau iaith. Rhoddodd y cyflawniad hwn yr hyder i mi barhau i ddilyn fy nodau academaidd.

Yna, ymgeisiais am ysgoloriaeth prifysgol a chefais fy nerbyn i astudio Cyfrifiadura. Ers dechrau fy nghwrs, rwyf wedi gweithio’n hynod o galed ac wedi cael marciau uchel iawn yn fy astudiaethau. Rwy’n falch o ba mor bell rwyf wedi dod mewn cyfnod mor fyr, yn enwedig o ystyried yr holl heriau a wynebais.

Mae derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Cenedl Noddfa yn golygu llawer iawn i mi oherwydd ei fod yn adlewyrchu nid yn unig fy nghyflawniadau academaidd ond hefyd y gwydnwch, y penderfyniad, a’r gwaith caled sydd wedi fy helpu i ailadeiladu fy mywyd a pharhau gyda’m haddysg.

Fy uchelgais hirdymor yw graddio o’r brifysgol a defnyddio fy ngwybodaeth a fy sgiliau cyfrifiadura i gefnogi pobl yn Afghanistan, yn enwedig merched a menywod a amddifadwyd rhag derbyn addysg. Gobeithiaf ddatblygu rhaglenni addysgol a thechnolegol a fydd yn creu cyfleoedd dysgu ac yn grymuso cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae cydnabyddiaeth Zahira yng Ngwobrau Cenedl Noddfa yn destament gwirioneddol i’w gwydnwch diwyro, ei gwaith caled, a’i phenderfyniad cryf fel dysgwr ac fel mam. Mae pawb yn Addysg Oedolion Cymru yn llongyfarch Zahira yn gynnes ar ei chyflawniadau anhygoel. Edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau ar effeithiau gwych y bydd yn parhau i’w gael, heb os, wrth iddi gymryd y camau nesaf ymlaen ar ei thaith ddysgu.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth