Dathlu Ein Tiwtoriaid: Y Sbardun Sy’n Ysgogi Oedolion i Ddysgu yng Nghymru ar Ddiwrnod Athrawon y Byd 2024
5-Hydref-2024

Wrth i ni ddod ynghyd i ddathlu Diwrnod Athrawon y Byd 2024 ar ddydd Sadwrn 5 Hydref 2024, mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod rôl hanfodol tiwtoriaid o ran llywio addysg oedolion ledled Cymru. Mae tiwtoriaid yn hanfodol i sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn drawsnewidiol i bob dysgwr, beth bynnag fo’u hoedran a’u cefndir.
Yn Addysg Oedolion Cymru, byddwn yn cael cyfle i weld cyfraniadau nodedig beunyddiol ein tiwtoriaid yn digwydd yn y fan a’r lle. Yn ogystal ag addysgu sgiliau, maent hefyd yn ysbrydoli hyder, gobaith ac ymdeimlad o berthyn. Mae hyn yn adlewyrchu cyfraniad ehangach tiwtoriaid ym maes addysg oedolion ledled Cymru. Mae eu gwaith yn amgenach na rhedeg cyrsiau – newid bywydau yw hanfod y gwaith hwnnw. Mae ein tiwtoriaid yn addysgu sgiliau hanfodol megis llythrennedd a rhifedd i helpu dysgwyr i ennill y cymwysterau sy’n ofynnol i ganfod cyflogaeth well, ac maent yn rhan anhepgor o’r gwaith o adfywio cymunedau a grymuso unigolion.
Mae tiwtoriaid ledled Cymru wedi cyflawni rôl neilltuol o bwysig yn ystod blynyddoedd diweddar, yn helpu dysgwyr i ymdopi ag adegau heriol megis cyfnodau’r argyfwng costau byw a phandemig Covid-19. Mae tiwtoriaid wedi bod ar gael i ddysgwyr, yn mynd i drafferth fawr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y dysgwyr hynny – pa un ai a ydynt wedi cynnig hyfforddiant i ddatblygu sgiliau digidol y sawl sy’n ailymuno â’r gweithlu neu wedi darparu cymorth i ddysgwyr sy’n wynebu caledi personol, Mae eu parodrwydd i addasu a’u hagwedd ofalgar yn nodweddiadol o diwtoriaid sy’n gweithio i Addysg Oedolion Cymru ac i holl ddarparwyr addysg oedolion yng Nghymru.
Yn ogystal ag addysg, bydd ein tiwtoriaid yn meithrin cymunedau hefyd. Trwy redeg cyrsiau mewn mannau cyfarfod lleol a chynnig amserlenni dysgu hyblyg, maent yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn hygyrch i’r sawl y mae arnynt angen y cyfleoedd hynny yn fwy na neb – pa un ai a ydynt yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng eu dyletswyddau gwaith a’u cyfrifoldebau teuluol neu’n wynebu heriau ariannol. Mae’r math hwn o ymroddiad i ddysgu gydol oes yn sicrhau bod addysg yn arf grymus at ddibenion datblygiad personol a phroffesiynol ledled Cymru.
Rydym hefyd yn cydnabod fod tiwtoriaid ledled y wlad yn cyfrannu profiad a brwdfrydedd helaeth at y gwaith. Mae gan lawer ohonynt ddirnadaeth unigryw o’r heriau y mae eu dysgwyr yn wynebu ac maent yn fedrus o ran eu gallu i greu amgylcheddau cefnogol ac ymatebol sy’n galluogi pobl unigolyn i ffynnu. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â’n hethos sy’n rhoi pwyslais ar addysg sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr, a chaiff ei amlygu gan diwtoriaid sy’n gweithio mewn colegau, canolfannau cymunedol a chanolfannau addysg oedolion ledled Cymru.
Rydym ni yn Addysg Oedolion Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein tiwtoriaid oherwydd mae eu datblygiad proffesiynol yn allweddol i sicrhau y gall ein dysgwyr lwyddo. Mae hyfforddiant rheolaidd yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r arferion gorau diweddaraf ym maes addysg, ac mae hynny yn ein helpu ni i gynnal safonau uchel o ran addysgu a dysgu. Mae darparwyr addysg oedolion ledled Cymru wedi ymrwymo i’r buddsoddiad hwn, ac maent oll yn cydnabod fod angen cynorthwyo dysgwyr i gyflawni eu cenhadaeth, sef grymuso ac ysgogi dysgwyr.
Heddiw, ar Ddiwrnod Athrawon y Byd, rydym yn dathlu cyfraniadau tiwtoriaid ym mhob rhan o Gymru. Mae eu hymroddiad i’r gwaith o greu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n oedolion yn helpu unigolion i gyflawni eu dyheadau, ac mae hefyd yn cryfhau cymunedau ac yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru gyfan.
Diolch yn fawr iawn i’r holl diwtoriaid ledled Cymru sy’n ymroi i gyflawni’r gwaith hwn. Teimlir eich dylanwad ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac mae eich cyfraniadau yn amhrisiadwy.
Kathryn Robson
Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth