Dathlu 20 Mlynedd o Ddysgu yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai
20-Chwefror-2025





Ymunodd Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn ddiweddar yn nathliadau 20fed pen-blwydd Canolfan Adnoddau Parc Llai, gan dynnu sylw at y bartneriaeth hir sefydlog ac effeithiol rhwng y ddau sefydliad. Cynrychiolwyd AOC ar y noson dathlu gan Vikki Roberts sy’n Gydlynydd Datblygu Cwricwlwm (CDC) yn ardal Wrecsam, Sarah O’Connell Jones sef Rheolwr Rhanbarth y Gogledd , a’r tiwtor Llythrennedd Digidol Jayne Rogers.
Roedd y digwyddiad yn arddangos effaith gadarnhaol dysgu oedolion yn y gymuned yn y rhanbarth dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae AOC wedi mwynhau perthynas waith cryf gyda Chanolfan Adnoddau Parc Llai ers blynyddoedd lawer, wedi’i meithrin gan y ddwy CDC sef Nicola Holmes a Laura Jones ac yn awr yn parhau gyda Vikki Roberts.
Roedd rhai o uchafbwyntiau’r noson yn cynnwys:
- Roedd ein CDC Vikki yn siaradwr, ac fe ddarllenodd gerdd (gweler isod) am y cyfleoedd dysgu oedolion yn y ganolfan a phan gyflwynodd fersiwn wedi’i fframio o’r gerdd i’r ganolfan, cafodd hyn dderbyniad da iawn gan bawb.
- Roedd y cyflwyniad PowerPoint a ddefnyddiwyd ar gyfer y digwyddiad dathlu wedi’i greu gan grŵp llythrennedd digidol AOC, sy’n cael ei gynnal yn y ganolfan ac a addysgir gan Jayne Rogers. Roedd y PowerPoint yn cynnwys ffeithiau hwyliog am y ganolfan, gan gynnwys faint o oriau o ddysgu oedolion yn y gymuned maent wedi’u cael yn yr 20 mlynedd diwethaf, sydd ar hyn o bryd yn 5,962 – sy’n ffigwr syfrdanol.
- Darparwyd y gacen ddathlu drwy haelioni perchennog busnes lleol, dysgwr fu ar gwrs crefft siwgr AOC (a ddysgwyd gan Alison Curtis) yn y ganolfan. Roedd yn dweud fod y sgiliau a gafodd a’i lwyddiant wedi hynny oherwydd iddo fynychu’r cwrs, ac roedd yn frwd am roi yn ôl i’r gymuned a oedd wedi ei gefnogi.
- Rhannodd sawl dysgwr straeon ysbrydoledig am sut mae cyrsiau AOC wedi effeithio’n gadarnhaol ar eu bywydau, gan glustnodi lefelau sgiliau uwch, llai o unigrwydd, a mwy o ymdeimlad o gysylltiad.
- Cafodd gwaith dysgwyr o’n cyrsiau gwnïo, celf a chrefft ei arddangos yn yr adeilad er mwyn i ymwelwyr cael cyfle i edrych arnynt. Roedd hyn yn arddangos ansawdd uchel holl waith y dysgwyr ac yn ysbrydoli mynychwyr i ystyried cymryd rhan yn eu teithiau dysgu eu hunain.
Mae’r dathliad 20fed pen-blwydd yn amlygu rôl hanfodol Canolfan Adnoddau Parc Llai yn ei chymuned leol a phŵer trawsnewidiol addysg oedolion. Mae’r bartneriaeth rhwng AOC a Chanolfan Adnoddau Parc Llai yn parhau i dyfu, ac rydym yn eu llongyfarch ar eu dathliad pen-blwydd. Ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf!
Dysgwch fwy am Ganolfan Adnoddau Parc Llai yma:
Cerdd am y Dysgu yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai
20 years ago in Llay,
A centre opened for folks to try,
To learn new skills, see friends old and new,
The hub of the community, was for all to view.
So many different things to do,
Arts and crafts, technology too,
Sew and stitch, knit and natter,
A social buzz for chitter and chatter.
An adult learning partnership in Wales,
A sense of belonging and swapping tales,
Showing resilience, from arranging flowers,
Using water colours, spending happy hours.
Sarah Smallwood Smith, the heartbeat of the centre,
Tutors keen and friendly, on hand to mentor,
The welcome cafe with daily delights,
For folks to relax and eat tasty bites.
Wellbeing, is an important aim,
Good mental health is the end game,
A place to thrive, never give in,
A healthy environment, it’s win win win.
Whether it’s making hats, bunting or digital class,
Scrapbooks, cards, phone or tablet class,
This is the place for all generations,
To flourish, be happy, a cause for celebration
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth