Dathlodd ein dysgwyr yn y grŵp Sgiliau Digidol Maximus yn y Rhyl eu cynnydd gwych dros y tymor diwethaf!
9-Ionawr-2024Mae grŵp o ddysgwyr Sgiliau Digidol wedi bod yn arddangos eu gwaith mewn digwyddiad dathlu yn y Rhyl. Mae’r dysgwyr yn mynychu dosbarth a ddarperir gan Maximus ac Addysg Oedolion Cymru. Maent wedi gwneud cynnydd gwych ers ymuno gyda dosbarth Janette Williams sy’n diwtor Addysg Oedolion Cymru. Ymunodd llawer o ddysgwyr gydag ychydig neu ddim profiad o ddefnyddio cyfrifiadur a gallant ddefnyddio ystod o fedrau gan gynnwys anfon e-byst, defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel, defnyddio taenlenni a chynhyrchu dogfennau gyda delweddau a siartiau.
Soniodd y dysgwyr eu bod wedi mwynhau’r cwrs:
“Mae awyrgylch hamddenol yn y dosbarth ond rydym yn bwrw ymlaen gyda’r gwaith i gwblhau ein tasgau”
“Mae natur gyfeillgar y dosbarth yn golygu ein bod yn mwynhau’r hyn rydym yn ei ddysgu ac mae wedi bod yn wych i’n lles.”
“Rydym wedi magu hyder ac wedi dysgu cymaint o sgiliau gallwn eu defnyddio yn ein bywydau dyddiol gan fod cymaint o wasanaethau bellach ar-lein yn unig.”
“Rydym hefyd wedi dysgu llawer am gadw’n ddiogel ar-lein.”
Maent yn gyfforddus yn gweithio ar eu cyflymder eu hunain mewn grŵp gyda phobl ar wahanol lefelau, ac ychwanegodd un dysgwr, “Rydym i gyd yn cefnogi ein gilydd, ac os oes gan un person fwy o wybodaeth na rhywun arall, maent yn cynnig cymorth.”
Yn y digwyddiad dathlu, arddangosodd ein dysgwyr bosteri roeddynt wedi’u creu gan ddefnyddio ystod o gymwysiadau meddalwedd. Fe gyflwynon wybodaeth ac ateb cwestiynau am y posteri, gan ddangos hyder yn eu sgiliau digidol a chyfathrebu.
Mae’r grŵp bellach yn gweithio tuag at uned llythrennedd digidol achrededig. Edrychant ymlaen at barhau gyda’u gwaith y tymor nesaf a chwblhau’r achrediad.
Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr! Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau, cliciwch yma!
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth