Datblygu sgiliau digidol i gefnogi Gwaith Chwarae
23-Medi-2021Mae ein tiwtor Matthew Jenkins, sy’n cyflwyno cyrsiau Gwaith Chwarae ac ymwybyddiaeth awtistiaeth mewn lleoliadau cymunedol, yn rhannu heriau’r cyfnod clo a sut mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yn fuan.
Dywed Matthew, “Fel llawer o ddiwydiannau, cafodd gwaith ei ganslo neu ei ohirio oherwydd y pandemig. Pan oeddem yn gallu addysgu, roedd yn rhaid i mi addasu a defnyddio galwadau grŵp ar-lein i gyflwyno darlithoedd. Roedd llawer o’r dulliau’r un fath ag yn y dosbarth, er roedd llawer mwy o gathod i weld ar y sgriniau!”
“Roedd yn rhaid gweithio allan rhai technegau newydd a dod yn llawer mwy cyfarwydd â chyfrifiaduron a defnyddio offer ar-lein – gan ddelio â’r panig pryd bynnag y byddai fy ngliniadur yn cau lawr yn sydyn neu faterion technegol eraill! Er mwyn brwydro yn erbyn hyn, ac i weithio’n ddoethach, fe recordiais rai darlithoedd, a olygai fod yn rhaid i mi ddysgu technegau ffilmio newydd. Treuliais lawer o amser yn dysgu sut i olygu clipiau fideo, gan gynnwys ychwanegu cerddoriaeth a negeseuon – fe wnes i fwynhau hyn.”
“Gall pobl ddechrau dysgu pan maent yn oedolion yn eu hamser eu hunain – weithiau mae hyn yn digwydd pan mae cyflogwr yn gofyn i rywun fynd ar gwrs. Golyga hyn bod bywydau prysur yn medru amharu ar y dysgu, ac felly gall fod yn her i ennyn diddordeb pawb. Yn ffodus, mae Gwaith Chwarae yn denu pobl frwdfrydig a hwyliog, ac mae hyn yn gymorth i gynnal ymgysylltiad gyda’r gwaith, tra fy mod i’n gallu rhoi cynnig ar ffyrdd newydd a chyffrous i gyflawni’r cymwysterau.”
Mae Matthew wedi defnyddio ei flynyddoedd o brofiad a’r sgiliau newydd y mae wedi ei ddysgu i addasu i gyflwyno ar-lein, ond dywed fod rhannau gorau am ei swydd yr un peth nail ai ar-lein neu mewn person.
Mae Matthew yn parhau, “Dydych chi byth yn gwybod sut y bydd grŵp yn ymateb i bwnc ac rwy’n hoffi tynnu ar brofiadau a straeon sy’n gwneud y pwnc yn addas ar gyfer y grŵp. Trwy gynnwys profiadau bywyd go iawn fy nysgwyr, rwy’n gallu teilwra’r gwersi, ac mae hyn yn rhoi llawer o foddhad i mi. Er y cefais brofiad cadarnhaol o gyflwyno ar-lein, rwy’n edrych ymlaen at weld pobl wyneb yn wyneb ac ymweld â’n lleoliadau cymunedol eto yn fuan.”
Mae Matthew wedi gweithio’n galed i gefnogi ei ddysgwyr ac edrycha ymlaen at ryngweithio gyda’r dysgwyr mewn person eto.
“Mae dysgwyr wedi ymateb i ddweud eu bod wedi gweld y dysgu ar-lein yn fuddiol oherwydd gallant ddod o hyd i’r amser i ymuno gan fod llai o deithio a threfnu gofal plant. Mae llawer o fy nysgwyr wedi hoffi cwrdd ar-lein a chysylltu ar grŵp yn rheolaidd, hyd yn oed ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben. Fodd bynnag, mae manteision ychwanegol i ddosbarthiadau wyneb yn wyneb, fel ymweld â chymunedau newydd a chael mwy o ddysgu rhyngweithiol, felly gobeithio y bydd yn rhaid i mi wneud rhywfaint o hyn yn fuan.”
Hoffem longyfarch Matthew ar ei waith caled parhaus a dymunwn yn dda wrth iddo ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.
I ddarganfod mwy am gyrsiau Gwaith Chwarae, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth