Datblygu Cymru fel Cenedl o Godyddion
28-Awst-2015Yn ystod yr Wythnos Godio Genedlaethol sy’n dechrau ar 21 Medi 2015, bydd WEA YMCA CC Cymru, darparwr Dysgu Oedolion mwyaf Cymru, yn anelu i roi Cymru ar reng flaen codio drwy gynnig sesiynau blasu o’r enw “Codio i Oedolion – Canllaw i Ddechreuwyr, gyda chyrsiau dilyniant yn cael eu darparu drwy gydol y flwyddyn. Cynhelir sesiynau ymhob Awdurdod Unedol yng Nghymru, o Gaergybi a Wrecsam yn y Gogledd, Cas-gwent a Doc Penfro yn y De, ac ym mhobman rhyngddynt.
Iaith ydy codio sy’n ei gwneud hi’n bosib i ni siarad gyda chyfrifiaduron a chreu meddalwedd, apps a gwefannau. Mae gan lawer o bobl fynediad at gyfrifiadur a ffonau symudol, ond nid ydynt yn sylweddoli bod y porwr, y system weithredu, yr apps ar eu ffonau, cyfryngau cymdeithasol, a’r gwefannau wedi eu llunio gan godio.
Mae WEA YMCA CC Cymru wedi ymuno â’r Gwasanaeth Llyfrgell, rhaglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru – ‘Cymunedau Digidol Cymru’, a phartneriaid rhanbarthol er mwyn cynnig cyrsiau i ddechreuwyr mewn llyfrgelloedd lleol a lleoliadau cymunedol ar draws Cymru.
Dywed Mark Isherwood, Prif Weithredwr WEA YMCA CC Cymru, Rydym yn awyddus iawn i ddod â chwricwlwm newydd i gymunedau Cymru. Cydnabyddwyd bod codio yn sgil i’w datblygu o fewn addysg orfodol, a rydym eisiau sicrhau na fydd oedolion sy’n dysgu dan anfanrtais. Mae gennym brofiad helaeth o ddarparu Addysg i Oedolion ar draws Cymru, a bydd gweithio gyda’n partneriaid yn sicrhau ein bod yn medru cynnig cyfle i ddysgwyr greu gwefannau, apps a chynnwys dysgu. Gall y sesiynau blasu, a’r cyrsiau dilyniant, fod yn gychwyn ar daith ddysgu newydd i oedolion sy’n dysgu, gan ddarparu sgiliau ar gyfer gweithlu sy’n newid.
Dywed Richard Rolfe, cyd-sylaenfydd Yr Wythnos Godio Genedlaethol, Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gofleidio Wythnos Godio Genedlaethol wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r prinder sgiliau digidol. Mae Wythnos Godio Genedlaethol i gyd yn ymwneud â grymuso oedolion ar draws y DU, gan eu galluogi i fanteisio ar gyfleoedd digidol. Byddwn yn annog pawb yng Nghymru i fynychu un o’r digwyddiadau gwych sy’n digwydd y mis hwn a dysgu rhywbeth newydd. Os gallaf i ddysgu codio yn 51 oed, yna gall unrhyw un wneud!”
Ceir manylion pellach am sesiynau blasu ar draws Cymru isod ac ar wefan Wythnos Godio Genedlaethol http://www.codingweek.org/
|
Awdurdod Lleol |
Manylion Lleoliad |
Rhif cyswllt WEA |
Dyddiad y sesiwn |
Diwrnod |
|
Sir Fynwy |
Llyfrgell Cas-gwent, Manor Way, |
01495 369869 |
21/09/2015 |
Llun 10yb-12yp |
|
Caerffili |
Llyfrgell Rhisga, Risca Palace |
01495 369869 |
21/09/2015 |
Llun 3.00-5.00yp |
|
Powys |
Llyfrgell Aberhonddu, Ship Street Aberhonddu Powys LD3 9AE |
01686 610270 |
22/09/2015 |
Mawrth 1.15-3.15yp |
|
Merthyr |
Llyfrgell Merthyr, Stryd Fawr, Merthyr Tydfil CF47 8AF |
01495 369869 |
22/09/2015 |
Mawrth 1.30-3.30yp |
|
Y Fro |
Llyfrgell Y Barri, Kings Square, Y Barri |
029 20 382431 |
22/09/2015 |
Mawrth 10-12yp |
|
Môn |
Canolfan O’Toole, Sgwâr Trearddur, Caergybi, Gwynedd LL65 1NB |
01248 363933 |
22/09/2015 |
Mawrth 9.30 -12.30 |
|
Pen-y-bont ar Ogwr |
Llyfrgell Pyle, Helig Fan, Mynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr CF33 6BS |
029 20 382431 |
22/09/2015 |
Mawrth 9.30-11.30yb |
|
Sir Benfro |
Llyfrgell Doc Penfro, Water St,Doc Penfro, Dyfed SA72 6DW |
01792 467791 |
23/09/2015 |
Mercher 1.30-3.30yp |
|
Abertawe |
Llyfrgell Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, |
01792 467791 |
23/09/2015 |
Mer cher 11yb-1yp |
|
CastellNedd Port Talbot |
Llyfrgell CastellNedd, Victoria Gardens, CastellNedd, SA11 3BA |
01792 467791 |
23/09/2015 |
Mercher 2-4yp |
|
Ceredigion |
Llyfrgell Aberaeron, Neuadd y Sir, Aberaeron SA46 0AT |
01686 610270 |
23/09/2015 |
Mercher 2-4yp |
|
Blaenau Gwent |
Swyddfa WEA BC, Y Ganolfan Arloesi, Glyn Ebwy, NP23 8XA |
01495 369869 |
23/09/2015 |
Mercher 4yp-6yp |
|
Caerdydd |
Llyfrgell Canol Caerdydd,Yr Aes, Caerdydd CF10 1FL |
029 20 382431 |
23/09/2015 |
Mercher 9.00-11.00yb |
|
Sir Gaerfyrddin |
Llyfrgell Llanelli, Vaughan St, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA15 3AS |
01792 467791 |
23/09/2015 |
Mercher 9.30-11.30yb |
|
Sir Fflint |
Llyfrgell y Fflint, Stryd yr Eglwys,Y Fflint, CH6 5AP |
01978 806044 |
23/09/2015 |
Mercher 9.30-11.30yb |
|
Powys |
Llyfrgell y Drenewydd, Park Ln, Y Drenewydd, Powys SY16 1EJ |
01686 610270 |
23/09/2015 |
Mercher 9.30-11.30yb |
|
Casnewydd |
Llyfrgell Bettws, Y Ganolfan Siopa, Bettws, Casnewydd NP20 7TN |
01495 369869 |
25/09/2015 |
Gwener 1.30-3.30yp |
|
Sir Ddinbych |
Llyfrgell Prestatyn, Rhodfa’r Brenin, Prestatyn, Clwyd LL19 9LH |
01492 536693 |
25/09/2015 |
Gwener 1.30-3.30yp |
|
Conwy |
Canolfan Colwyn Uchaf, Bryn Cadno |
01492 536693 |
25/09/2015 |
Gwener 10yb-12yp |
|
Torfaen |
Safle Treftadaeth Byd a Llyfrgell, Church Road, Blaenafon, NP4 9AS |
01495 369869 |
25/09/2015 |
Gwener 10yb-12yp |
|
Rhondda Cynon Taf |
Llyfrgell Llantrisant, Bull Ring, Bullring, Pontyclun |
01495 369869 |
25/09/2015 |
Gwener 2yp-4yp |
|
Gwynedd |
Swyddfa WEA, Bryn Menai, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2JA |
01248 363933 |
25/09/2015 |
Gwener 9.30-11.30 |
|
Wrecsam |
Llyfrgell a Chanolfan Gelfyddydau Wrecsam, Ffordd Rhosddu |
01978 806044 |
25/09/2015 |
Gwener 9.30-11.30yb |
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth