Cytundeb cwmni Oscar Mayer yn Arwain at Hyfforddiant i Gynrychiolwyr Undeb Newydd yn Wrecsam | Addysg Oedolion Cymru

Cytundeb cwmni Oscar Mayer yn Arwain at Hyfforddiant i Gynrychiolwyr Undeb Newydd yn Wrecsam

13-Rhagfyr-2025
Rhannu

Yn dilyn cytundeb cydnabyddiaeth statudol yng nghwmni prydau parod Oscar Mayer, mae Cynrychiolwyr Gweithle Undeb newydd yn Wrecsam yn gwella eu sgiliau trwy hyfforddiant arbenigol. Mae’r datblygiad hwn yn dwyn sylw at y cysylltiad rhwng cydnabyddiaeth ffurfiol a’r angen am gynrychiolaeth gan unigolion gwybodus yn y gweithle.

Mae Cynrychiolwyr Undeb yn safle cwmni Oscar Mayer yn Wrecsam yn cyfranogi yng nghwrs Tystysgrif Ragarweiniol Cynrychiolwyr Gweithle (WPR1A) Unite. Cynhelir yr hyfforddiant hwn yn swyddfa Wrecsam, trwy bartneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, a dan arweiniad Darren Thelwell, Tiwtor Addysg Undebau Llafur.

Dywedodd Darren:

“Mae’n wych gweld hyder y cynrychiolwyr yn cynyddu drwy gydol y cwrs. Fe wnaethant ofyn llawer o gwestiynau a rhannu eu profiadau yn ddi-flewyn-ar-dafod. Fe wnaeth y cynrychiolwyr gyfranogi’n llawn a chynorthwyo ei gilydd, a meithrin y wybodaeth a’r hyder sy’n ofynnol i’w galluogi i ymgymryd â rôl cynrychiolydd yn y gweithle.”

Mae cwrs WPR1A yn gam sylfaenol i Gynrychiolwyr Gweithle newydd Unite, ac mae’n cynnig cwricwlwm sydd wedi’i lunio i ddatblygu’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gynrychioli eu cydweithwyr yn effeithiol.

Mae modiwlau’r hyfforddiant yn cwmpasu ystod gynhwysfawr o sgiliau hanfodol, gan gynnwys:

  • Sgiliau allweddol at ddibenion trefnu yn eich gweithle a meithrin undeb cryf yn y gweithle.
  • Ymdrin ag achosion disgyblu a chwynion
  • Cyflwyniad i Gyfraith Cyflogaeth a Chydraddoldeb yn y Gwaith.
  • Sgiliau bargeinio a datrys problemau.
  • Deall ac ymdrin â materion sy’n ymwneud ag Urddas a Pharch yn y gweithle a’r cysyniad o ‘waith da’.

Drwy gynnig hyfforddiant manwl hwn, mae’r Undeb yn anelu at sicrhau bod Cynrychiolwyr gweithle’r Undeb yn safle Oscar Mayer yn cael eu paratoi’n dda i gynnal y cytundeb newydd a chynrychioli aelodau’n effeithiol mewn perthynas ag ystod o faterion, yn amrywio o gydbwysedd rhwng bywyd beunyddiol a gwaith i faterion cyfreithiol mwy cymhleth.

Caiff yr ymrwymiad hwn i wella sgiliau’r mudiad undebau llafur ei gyflawni drwy law Astudiaethau Undebau Llafur Addysg Oedolion Cymru mewn partneriaeth ag Unite, gan sicrhau bod cynrychiolwyr gweithleoedd ledled Cymru fynediad yn gallu cyrchu’r addysg gefnogol, ymarferol ac achrededig sydd ei hangen arnynt i eiriol yn effeithiol dros eu haelodau.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cyrsiau Undebau Llafur sydd ar gael i Gynrychiolwyr Undebau gan Addysg Oedolion Cymru mewn partneriaeth â’r prif undebau llafur yng Nghymru, cliciwch yma

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth