Cysylltu Cymunedau Trwy’r Gymraeg: Esblygiad WSOL yn Addysg Oedolion Cymru
26-Mehefin-2026
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r ddarpariaeth Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (WSOL) yn Addysg Oedolion Cymru wedi tyfu’n raddol o brosiect bach i fod yn rhan sefydledig a chydnabyddedig o gynnig iaith Gymraeg y sefydliad.
Dechreuodd y ddarpariaeth yn wreiddiol drwy’r prosiect AMIF, gyda’r nod o gyflwyno’r Gymraeg i ddysgwyr ESOL a helpu pobl o ystod eang o gefndiroedd i deimlo’n fwy cysylltiedig gydag iaith a diwylliant Cymru. Mae’r hyn a ddechreuodd ar raddfa gymharol fach wedi parhau i ddatblygu o flwyddyn i flwyddyn, gyda diddordeb cynyddol gan ddysgwyr a llwybrau dilyniant cliriach i ddysgu Cymraeg pellach.
Un o’r datblygiadau mwyaf oedd cyflwyno sesiynau blasu WSOL o fewn rhaglenni ESOL a’r wythnosau cynefino. Datblygwyd y sesiynau hyn yn dilyn Ymchwil Gweithredol mewnol a’u bwriad oedd rhoi profiad cyntaf anffurfiol a chroesawgar o’r iaith Gymraeg i ddysgwyr. Dros amser, daethant yn ffordd bwysig o annog dysgwyr i ymgysylltu gyda’r Gymraeg, meithrin hyder, ac ystyried symud ymlaen i gyrsiau WSOL llawn.
Yn ddiweddarach, arweiniodd ymchwil a datblygu pellach at newidiadau yn strwythur y ddarpariaeth WSOL ei hun. Daeth yn amlwg y gallai symud yn uniongyrchol o gyrsiau WSOL i ddarpariaeth prif ffrwd Cymraeg i Oedolion deimlo fel cam arwyddocaol i lawer o ddysgwyr. Mewn ymateb i hyn, datblygodd Addysg Oedolion Cymru Gwrs Pontio pum wythnos bwrpasol a gafodd ei ymgorffori mewn model 15 wythnos WSOL wedi’i ailgynllunio, gan ymestyn y fformat gwreiddiol o 10 i 12 wythnos.
Cynhaliwyd peilot i’r Cwrs Pontio gyda grŵp o ddysgwyr WSOL, a symudodd pob un ohonynt ymlaen yn llwyddiannus i gyrsiau Mynediad prif ffrwd Dysgu Cymraeg. Daeth hyn yn garreg filltir bwysig i’r sefydliad, gydag Addysg Oedolion Cymru yn dod y darparwr cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ac ymgorffori dull pontio o’r math hwn yn ffurfiol o fewn darpariaeth WSOL. Ers hynny, mae darparwyr eraill wedi edrych at Addysg Oedolion Cymru am arweiniad a chymorth wrth ddatblygu modelau tebyg.
Un peth sydd wedi dod yn fwyfwy clir dros amser yw bod effaith WSOL yn mynd ymhell y tu hwnt i ddysgu iaith yn unig. Mae tiwtoriaid yn aml yn siarad am yr hyder mae dysgwyr yn ennill trwy’r sesiynau, ynghyd â’r cyfeillgarwch, yr ymdeimlad o berthyn, a’r cysylltiad cryfach â diwylliant Cymru sy’n datblygu’n naturiol o fewn y grwpiau.
Mae dysgwyr wedi ymateb yn arbennig o dda i awyrgylch hamddenol a chefnogol y dosbarthiadau. I lawer, mae cael y cyfle i ymarfer Cymraeg llafar mewn amgylchedd calonogol, ochr yn ochr â phobl o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau, wedi chwarae rhan enfawr wrth eu helpu i deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus yn defnyddio’r iaith.
Yn fwy diweddar, mae tîm WSOL ei hun hefyd wedi parhau i dyfu, gan ganiatáu i’r ddarpariaeth gyrraedd hyd yn oed mwy o ddysgwyr ledled Cymru. Mae cyrsiau cyfredol wedi gweld ymgysylltiad cryf drwy gydol y cwrs, gyda llawer o ddysgwyr eisoes yn bwriadu parhau â’u taith ddysgu Cymraeg trwy gyrsiau Dysgu Cymraeg o fis Medi ymlaen.
Wrth edrych yn ôl, mae’n amlwg bod WSOL wedi datblygu i fod yn llawer mwy na phrosiect iaith arunig. Mae wedi dod yn rhan bwysig o ymrwymiad ehangach Addysg Oedolion Cymru i gynhwysiant, dysgu cymunedol, ac ehangu mynediad i’r iaith Gymraeg. Wrth i’r ddarpariaeth dyfu, felly hefyd mae ei rôl o ran helpu dysgwyr i deimlo’n fwy cysylltiedig gyda’u cymunedau lleol, diwylliant Cymreig, a bywyd bob dydd yng Nghymru.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth