Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Unite yn Hybu Diogelwch yn y Gweithle yn Abertawe | Addysg Oedolion Cymru

Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Unite yn Hybu Diogelwch yn y Gweithle yn Abertawe

28-Gorffennaf-2025
Rhannu

Mae bron yn ddiwedd tymor y rhaglen hyfforddiant ar gyfer Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Unite, a gynhelir yn Swyddfa Unite yn Abertawe.  Mae’r cwrs “Modiwlau 1A ac 1B y Dystysgrif ar gyfer Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch”, a gaiff ei redeg gan Unite trwy bartneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, yn cynnig sgiliau a gwybodaeth hanfodol i Gynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch i’w galluogi i hybu diogelwch yn y gweithle, gan eu grymuso i wneud gwahaniaethau pendant yn eu gweithleoedd penodol.

Mae’r cwrs 10 wythnos wedi’i gynllunio i alluogi Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Unite i fagu’r hyder a’r ddirnadaeth sy’n ofynnol gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol, ac mae hefyd yn archwilio sut mae ffactorau economaidd ehangach yn dylanwadu ar iechyd, diogelwch a llesiant pobl sy’n gweithio. Roedd y pynciau allweddol a drafodwyd yn cynnwys rôl Cynrychiolydd Diogelwch Unite, fframwaith cyfreithiol Iechyd a Diogelwch, hawliau Cynrychiolwyr Diogelwch, cynnwys aelodau mewn gwaith Iechyd a Diogelwch, ac agweddau hanfodol megis ymchwiliadau ynghylch damweiniau ac asesu risgiau.

Cyflwynir y cwrs gan Diwtor Undebau Llafur Addysg Oedolion Cymru, Vince Edwards. Mae Vince yn diwtor i Addysg Oedolion Cymru ers tair blynedd ac mae hefyd yn Gynrychiolydd Undeb Llafur yn cyflawni amrywiaeth o rolau ers 1996. Dywedodd Vince:

“Mae’n wych fy mod i’n gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth a’m profiad i’r dysgwyr. Fy hoff agwedd ar y swydd yw gweld Cynrychiolwyr newydd yn dechrau cwrs heb fawr o brofiad (neu ddim profiad o gwbl), ac erbyn diwedd y cwrs, cael gweld sut maent wedi datblygu i fod yn bobl hyderus, gwybodus a llawn cyffro sy’n gallu camu ymlaen a chyflawni pa bynnag rôl benodol y byddant yn ei dewis. Bydd yn well fyth pan fydd y dysgwyr yn dychwelyd i gyfranogi mewn cwrs arall a byddaf yn gallu gweld sut maent wedi blodeuo. Mae’n wych!

Mae rhai o’r Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch sy’n cyfranogi yn y cwrs wedi rhannu eu sylwadau am effaith y cwrs ar eu gallu i eiriol dros eu cydweithwyr a gweithredu newidiadau ystyrlon yn eu gweithleoedd.

Fe wnaeth Mike Reece, Swyddog Rheoli Plâu sydd â phrofiad helaeth ym myd undebau llafur, bwysleisio pa mor bwysig yw’r hyfforddiant:

“Yn achos Iechyd a Diogelwch, mae angen i chi wybod eich pethau; mae gwybodaeth yn bŵer. Mae’r cwrs hwn yn cynnig gwybodaeth i chi, gwybodaeth am y ddeddfwriaeth gyfredol ynghylch iechyd a diogelwch, a’r wybodaeth am yr hyn sy’n briodol a’r hyn sy’n amhriodol yn y gweithle. Mae cynnwys y cwrs yn dda ac nid yw’r cyflymder yn rhy ddwys. Mae Vince (tiwtor) yn barod iawn i gynorthwyo a gallwch ofyn cwestiynau iddo. Mae cael mwy o wybodaeth am iechyd a diogelwch yn fy helpu am fy ngwaith; gallwch chi ddefnyddio’r wybodaeth a gynigir yn y cwrs, mae’r wybodaeth hynny ar gael bob amser os bydd arnoch ei hangen.”

Mae Sarah Rees, Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol a Chynrychiolydd Undeb ers dwy flynedd a hanner, eisoes wedi gweithredu newidiadau sylweddol yn ei gweithle diolch i’r cwrs:

 “Os ydych chi’n dymuno bod yn drefnus ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a gwneud gwahaniaeth er gwell, gwnewch y cwrs hwn!”

Cyfranogodd Sarah yn y cwrs oherwydd roedd hi’n pryderu bod iechyd a diogelwch yn “diflannu” ac nad oedd yn cael “ei drin fel mater difrifol” yn ei gweithle.

“Roeddwn i’n awyddus i wneud gwahaniaeth… dysgu sut i gysylltu â rheolwyr ac aelodau eraill o’r staff i fynegi anawsterau a welwyd ynghylch iechyd a diogelwch, a sut y gallwn i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i newid eu meddylfryd. Rwyf eisoes yn gwneud gwahaniaeth drwy weithredu asesiadau o risgiau; mae diogelwch wedi gwella ar y cyfan; mae drysau’r labordai bellach yn cael eu cloi, ac mae amgylchedd gwaith gweithwyr unigol wedi newid. Mae aelodau eraill o’r staff bellach wedi ymuno â’r Undeb oherwydd y newidiadau rwyf wedi’u gweithredu i wella eu hamgylchedd gwaith. Mae gweithle mwy diogel yn weithle hapusach.”

Fe wnaeth Sarah ddwyn sylw hefyd at y twf personol a brofodd:

“Drwy ddilyn y cwrs hwn, rydw i wedi magu mwy o hyder ac wedi dysgu sut i drafod mewn modd digynnwrf ag aelodau eraill y tîm, gan gynnwys rheolwyr, ynghylch sefyllfaoedd anodd. Rwyf bellach yn adnabod mwy o aelodau o’r staff ledled y cwmni, mae wedi gwella fy mherthnasoedd yn y gweithle, a bellach, gallaf siarad â deiliaid swyddi uwch yn hyderus y byddant yn gwrando arnaf ac y byddant yn trin yr anawsterau a godir fel materion difrifol er mwyn gwneud newidiadau perthnasol.”

Fe wnaeth Rob Shannon, Parafeddyg yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ers dros 17 mlynedd a Chynrychiolydd Undeb cymharol newydd, gyfranogi yn y  cwrs er mwyn gallu cynorthwyo ei gydweithwyr yn well:

“Roeddwn i’n dymuno cynnig cymorth i eraill yn y gwaith; mae’n ymddangos ein bod ni’n wynebu problemau tebyg, ac yn sgil profiad personol, roeddwn i’n teimlo y gallwn i wneud gwahaniaeth er gwell yn y gweithle. Dechreuais gyfranogi yn y cwrs hwn i gynyddu fy ngwybodaeth am iechyd a diogelwch, gan gynnwys y gweithdrefnau a’r polisïau. Rwyf wedi magu mwy o hyder fel cynrychiolydd wrth i’r cwrs fynd rhagddo.”

Mae Rob yn canmol y cwrs am gynnig man cychwyn hanfodol i ymdrin â sefyllfaoedd mewn modd proffesiynol:

“Mae wedi fy addysgu i ymdrin yn briodol â’r rheolwyr os bydd angen mynegi anawsterau.” Mae wedi cynnig arweiniad i mi ynghylch ymdrin â gwahanol broblemau, ac anawsterau digon anodd ar brydiau. Mae cyflymder yr addysgu wedi bod yn addas i mi, ac rwyf wedi gallu siarad â Vince pan oedd angen rhagor o gymorth arnaf. Os yw iechyd a diogelwch yn broblem yn eich gweithle, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i fod yn gynrychiolydd gwell ac i wneud newidiadau er gwell.

Mae Simon Rogers, un o yrwyr bysys First Cymru, yn Gynrychiolydd Undeb ers blwyddyn, ac mae yntau hefyd wedi canfod bod y cwrs yn amhrisiadwy o ran dysgu sut i fynd i’r afael â heriau yn y gweithle:

“O ran fy swydd, ceir llawer o rwystrau a heriau yn ymwneud â gweithredu diogelwch ym mhob agwedd ar y gwaith. Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i reoli’r heriau a’r straen yn y gwaith sy’n gysylltiedig â phryderon ynghylch iechyd a diogelwch. Mae’r cwrs wedi bod yn ddiddorol iawn; mae wedi fy helpu i ddeall hanfodion iechyd a diogelwch.”

Pwysleisiodd Simon fanteision pendant cyfranogi yn y cwrs hwn a chynrychioli aelodau eraill yr Undeb:

 “Mae wedi dangos i beth yw’r manteision sy’n gweithredu er budd aelodau’r Undeb, gallaf weithredu ynghylch anawsterau a fynegir, rhoi polisïau priodol ar waith trwy drafod â’r rheolwyr a cheisio atal unrhyw anawsterau mawr rhag digwydd yn y dyfodol.” Rwy’n cynrychioli fy nghydweithwyr drwy’r Undeb ac yn helpu trwy fod yn llais ar eu rhan y gellir ei glywed pan fydd ganddynt bryderon ynghylch iechyd a diogelwch.”

Mae’r cwrs hwn ar gyfer Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch yn rhan o lwybr hyfforddiant eglur sy’n para 20 diwrnod ac wedi’i rannu’n bedwar modiwl. Wedi’r cwrs hwn, gellir cwblhau Modiwl 2A ac yna Modiwl 2B, sy’n adeiladu ar y wybodaeth a ddysgwyd ym Modiwlau 1A ac 1B. Mae Unite ac Addysg Oedolion Cymru yn cynnig ystod eang o gyrsiau ledled Cymru, yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, i’r sawl sydd â diddordeb mewn ymgymryd â hyfforddiant ynghylch Iechyd a Diogelwch yn y flwyddyn academaidd newydd, sy’n dechrau ym mis Medi 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.addysgoedolion.cymru/cyrsiau-busnes-yn-glanio/astudiaethau-undeb-llafur/.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth