Cymerodd dysgwyr ein cyrsiau ‘Celf er Lles’ yn Aberystwyth a’r Drenewydd ran yn ddiweddar yn arddangosfa MOMA “Round Boxes in a Square Peg” (Blychau Crwn mewn Peg Sgwâr)! | Addysg Oedolion Cymru

Cymerodd dysgwyr ein cyrsiau ‘Celf er Lles’ yn Aberystwyth a’r Drenewydd ran yn ddiweddar yn arddangosfa MOMA “Round Boxes in a Square Peg” (Blychau Crwn mewn Peg Sgwâr)!

2-Tachwedd-2023
Rhannu

Cymerodd dysgwyr ein cyrsiau ‘Celf er Lles’ yn Aberystwyth a’r Drenewydd ran mewn arddangosfa grŵp allanol a drefnwyd gan yr artist/therapydd celf a thiwtor Addysg Oedolion Cymru, Helen Ingham. Gwahoddwyd Helen gan MOMA Machynlleth (Amgueddfa Celf Fodern) i ddod ag artistiaid Machynlleth sy’n defnyddio creu celf i archwilio, mynegi neu gefnogi eu hiechyd meddwl at ei gilydd ar gyfer sioe grŵp. Cynhaliwyd yr arddangosfa o’r enw “Blychau Crwn mewn Peg Sgwâr” rhwng 23 Hydref a 4 Tachwedd 2023. Rhannodd rhai o ddysgwyr Helen eu profiadau gyda ni;


“Ymunais gyda’r cwrs i ddatblygu creadigrwydd a dychymyg. Mwynheais arbrofi gyda gwahanol dechnegau nad oeddwn yn gwybod amdanynt o’r blaen; roedd yn fodd i agor fy llygaid. Rwyf wedi cael cyfle i gymdeithasu ac i rannu fy ngwaith gydag eraill. Rhoddodd rhywbeth i mi y teimlwn fy mod wir eisiau ei wneud, gan roi hwb i’r holl broses greadigol nad oedd yna cyn mynychu’r cyrsiau. Celf yw’r prif beth yn fy mywyd nawr. Roedd cymryd rhan yn arddangosfa MOMA yn golygu llawer i mi; cyfle i ddangos fy ngwaith yn fy nhref enedigol. Rwy’n bwriadu parhau i greu celf, a gobeithio arddangos mwy.” Gina Roberts