Cyflwyniad i Ddyfrlliw yn Abertawe
18-Chwefror-2025


Mae’n wythnos olaf ar ein cwrs Cyflwyniad i Ddyfrlliw yn Abertawe.
Dywedodd y tiwtor Lawrence:
“Mae’r dysgwyr wedi gwneud ystod eang o waith dros yr wythnosau diwethaf, a dyma rhai enghreifftiau isod. Rydym wedi gwneud tipyn o bethau creadigol a gwreiddiol, lle rydw i wedi gofyn i’r dosbarth am awgrymiadau ac yna byddwn yn gweithio ar baentiad o’r awgrymiadau a roddwyd. Rydym wedi gwneud nifer o ddarnau gosod mewn gwahanol arddulliau dyfrlliw. Fel y gallwch weld, mae’r rhain wedi amrywio o goed, tirweddau, adeiladau, pethau haniaethol, machlud haul – ac yn ein sesiwn olaf cyfuniad o luniadu a dyfrlliw. Rydym newydd gwblhau lluniad eithaf heriol o ffigwr, aelod o’r dosbarth, o flaen ffenest yn edrych allan ar strydoedd Abertawe – a byddwn yn ei baentio’r wythnos yma!”
“Mae’r dysgwyr wedi mwynhau’r dosbarth gymaint fel eu bod i gyd wedi cofrestru ar gyfer y cwrs nesaf, a fydd yn symud ymlaen ac yn adeiladu ar y sgiliau maent wedi’u dysgu yn y cwrs rhagarweiniol.”





Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth