Cydlynydd ESOL Addysg Oedolion Cymru wedi’i phenodi’n Gadeirydd NATECLA_CYMRU
23-Medi-2025Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn falch o gyhoeddi bod ein Cydlynydd ESOL Cenedlaethol, Saffa Bellis, wedi’i phenodi’n Gadeirydd cangen NATECLA_CYMRU yn ddiweddar. Daw’r penodiad hwn yn sgil Cynhadledd lwyddiannus NATECLA 25 ym Mirmingham, lle dangosodd aelodau staff o dîm ESOL AOC, ochr yn ochr â Saffa, eu hymrwymiad i feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol.
Profodd y gynhadledd a gynhaliwyd ddiwedd mis Mehefin, a ddaeth â gweithwyr proffesiynol ESOL o bob cwr o’r DU ynghyd, i fod yn ddyddiau ysbrydoledig i dîm AOC. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gysylltu gyda chyfoedion, rhannu arferion gorau, ac archwilio syniadau arloesol ar gyfer cefnogi darpariaeth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Roedd dirprwyaeth AOC yn cynnwys Saffa Bellis, Galiya Idrisova, Christina Roy, Sandra Warner a Rebecca Latcovitch.
Yn y gynhadledd flynyddol, cyflwynwyd Saffa i Zaina Aljumma, cydlynydd Llysgenhadon Noddfa, aelod o Bwyllgor Profiad Dysgwyr AOC a chyn-gyd-gadeirydd NATECLA_CYMRU. Roedd y cyfarfod gyda Zaina yn gam allweddol wrth helpu i gychwyn taith AOC tuag at ddod yn Goleg Noddfa, menter sydd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ac addysg i bobl sy’n ceisio noddfa ac yn cyfrannu at ddiwylliant o groeso o fewn eu cymuned leol.
Wrth gychwyn y cais o fod yn Goleg Noddfa ac wrth ymweld â Chynhadledd NATECLA 25, dywedodd Rheolwr Cwricwlwm AOC, Michelle Kerswell:
“Mae Addysg Oedolion Cymru wrth ei fodd yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn Ninas Noddfa ac yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen gyda’n cais i ddod yn Goleg Noddfa. Fel sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd, gyda dysgwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn, rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o berthyn, ecwiti a chynhwysiant drwy greu amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb.”
“Rydym yn ffodus iawn i gael tîm o staff ymroddedig iawn sy’n cefnogi ein gwaith yn y maes hwn, ac mae penodiad Saffa fel Cadeirydd NATECLA Cymru yn un haeddiannol iawn a fydd yn cryfhau ein hymrwymiad i bobl sy’n chwilio am noddfa.”
Mae rôl newydd Saffa fel Cadeirydd cangen NATECLA_CYMRU yn dyst i ymrwymiad cynyddol AOC i gefnogi’r sector ESOL yng Nghymru. Mae Saffa, a dderbyniodd gadeiryddiaeth cangen Cymru yng Nghynhadledd NATECLA 25, yn disodli’r cyd-gadeiryddion Zaina Aljumma a Melanie Clinton, a fydd yn ymgymryd â rolau eraill o fewn NATECLA.
Ynglŷn â’i rôl newydd ai phenodiad fel Cadeirydd cangen NATECLA_CYMRU, ychwanegodd Saffa:
“Rwy’n teimlo’n wirioneddol ffodus ac yn anrhydeddus i gamu i rôl cadeirydd NATECLA Cymru, ac i barhau i weithio’n agos gyda’r cyn-gadeiryddion, Zaina a Melanie a’r pwyllgor, sydd i gyd wedi bod yn rym ysgogol wrth sefydlu’r grŵp hwn. Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r grŵp ymhellach drwy wahodd dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru i ymuno â ni i rannu arbenigedd, gwrando ar ei gilydd, datblygu syniadau a chefnogi creu cwricwlwm gwirioneddol ddwyieithog sy’n diwallu anghenion dysgwyr, yn dathlu ac yn meithrin pob iaith, gan sicrhau’r dysgu mwyaf effeithiol a chynhwysol o ESOL a WSOL yng Nghymru.”
Mae NATECLA (Cymdeithas Genedlaethol i Addysgu Saesneg ac Ieithoedd Cymunedol Eraill i Oedolion) yn sefydliad proffesiynol blaenllaw sy’n eiriol dros ddarpariaeth Saesneg fel Ieithoedd Eraill i Oedolion (ESOL) fwy cynhwysol a hygyrch. M Mae Cangen NATECLA_CYMRU yn gwasanaethu fel fforwm i addysgwyr a chynghreiriaid o addysg bellach, addysgu gwirfoddol, a dysgu cymunedol ledled Cymru. Mae’r Gangen yn chwilio am aelodau ychwanegol i ymuno â’u pwyllgor, yn enwedig o sefydliadau sy’n cynrychioli Addysg Bellach, addysgu gwirfoddol, a dysgu oedolion a chymunedol ledled Cymru.
Os ydych eisiau gwybod mwy am NATECLA_CYMRU, cysylltwch gyda Saffa Bellis drwy e-bostio nateclacymru@gmail.com
I gael mwy o wybodaeth am ddarpariaeth ESOL AOC, darllenwch ymlaen drwy glicio ar y ddolen yma: https://www.adultlearning.wales/about/our-courses/esol/






Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth