Cydbwyso Gwaith ac Astudiaethau: Sinead, un o’n dysgwyr, yn llwyddo â Sgiliau Hanfodol Hyblyg Addysg Oedolion Cymru | Addysg Oedolion Cymru

Cydbwyso Gwaith ac Astudiaethau: Sinead, un o’n dysgwyr, yn llwyddo â Sgiliau Hanfodol Hyblyg Addysg Oedolion Cymru

27-Awst-2026
Rhannu

Mae Sinead Lewis wedi cwblhau ei chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif dan ofal Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn ddiweddar. Gan gydbwyso gwaith amser llawn a’i chwrs Nyrsio Milfeddygol, manteisiodd Sinead ar ein dosbarthiadau ar-lein hyblyg gyda’r nos dan ofal James Short, tiwtor AOC, cyn cwblhau ei harholiadau ym Mangor â chymorth Catrin Roberts, Gweinyddwraig Sicrwydd Ansawdd AOC. Â hithau bellach wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif, gall Sinead fwrw ymlaen â chwblhau ei chwrs coleg mewn Nyrsio Milfeddygol.

Dyma stori Sinead:

“Penderfynais astudio am fy nghymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif oherwydd, fel myfyriwr aeddfed, roedd angen i mi gyflawni fy nghymhwyster Mathemateg i allu cwblhau fy nghwrs coleg mewn Nyrsio Milfeddygol. Mae gen i swydd amser llawn hefyd, felly dysgu ar-lein oedd yr opsiwn perffaith i mi. Roedd hynny’n golygu y gallwn i astudio yn fy nghartref heb orfod mynd i ystafell ddosbarth, ac felly, roedd yn llawer haws cydbwyso gofynion fy astudiaethau â gofynion y swydd. Roedd yr hyblygrwydd yn fantais enfawr, a phe bawn i’n colli sesiwn, gallwn i ddal i fyny’n rhwydd trwy wylio’r recordiad yn ddiweddarach.

Aeth fy nosbarthiadau ar-lein yn dda iawn. Esboniodd y tiwtoriaid bopeth yn y ffordd symlaf bosibl, gan ddefnyddio amrywiaeth o enghreifftiau i sicrhau bod pawb yn deall yr un dull. Fe neilltuo amser i sicrhau nad oedd neb ar ei hôl hi, ac fe wnaeth yr adborth a gefais fy helpu i gydnabod fy nghryfderau a’r meysydd yr oedd angen i mi eu gwella. Roedd yn teimlo’n rhywbeth personol iawn, ac roeddwn i’n teimlo’n ddiffuant bod y tiwtoriaid yn awyddus i mi lwyddo a phasio.

Roedd y staff yn hynod o gymwynasgar a chroesawgar, yn enwedig o ran trefnu dyddiadau ac amseroedd arholiadau o amgylch gofynion gwaith ac ymrwymiadau eraill. Roedd pawb mor gyfeillgar a chefnogol! A dweud y gwir, nid oes digon o eiriau i gyfleu pa mor hyfryd yw pawb yn Addysg Oedolion Cymru.

Byddwn i’n bendant yn argymell Addysg Oedolion Cymru i unrhyw un sy’n ystyried cwblhau eu cymhwyster Sgiliau Hanfodol ar Lefel 2. Fe wnaeth yr hyblygrwydd, y cymorth ac ansawdd yr addysgu sicrhau fy mod i wedi profi llawer llai o straen na’r disgwyl. Pe bai’n ofynnol i mi sefyll arholiad arall eto, byddwn i’n bendant yn dewis gwneud hynny dan ofal Addysg Oedolion Cymru.”

Diddordeb mewn uwchraddio eich sgiliau?

Ynghyd â chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 2 ym maes Cymhwyso Rhif, mae Addysg Oedolion Cymru hefyd yn cynnig cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 2 ym maes Sgiliau Cyfathrebu. I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg, cysylltwch â Siân Williams – hwylusydd y Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg yn Sian.Williams@adultlearning.wales neu trowch at ein gwefan yma: https://www.addysgoedolion.cymru/cyrsiau-cymunedol-yn-glanio/sgiliau-hanfodol-ac-esol/

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth