Cwrs Partneriaeth yn rhoi Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle i Gynrychiolwyr Newydd Unite
30-Gorffennaf-2025Mae’r cwrs Tystysgrif Rhagarweiniol i Gynrychiolwyr Gweithle yn darparu hyfforddiant hanfodol i gynrychiolwyr newydd Unite ledled Cymru. Mae’r cwrs 10 wythnos yma, sy’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru (AOC) ac Unite, yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau craidd i gynrychiolwyr Undebau sy’n hanfodol ar gyfer eiriolaeth effeithiol yn y gweithle.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gynnig yr hyfforddiant sylfaenol ar gyfer Cynrychiolwyr Gweithle Unite. Mae gan y cwrs diweddaraf yng Nghaerdydd, a gyflwynir gan Ron Leach, ddeuddeg Cynrychiolydd Undeb yn bresennol o ystod amrywiol o sectorau swyddi ledled Caerdydd a’r rhanbarthau cyfagos. Maent wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol yn Swyddfa TUC Cymru yng Nghaerdydd dros dymor yr haf.
Mae’r cwrs yn edrych ar ystod eang o bynciau sy’n darparu’r sgiliau a’r wybodaeth i’r Cynrychiolwyr Undeb newydd, gan gynnwys:
- Trefnu Eich Gweithle
- Ymdrin gydag Achosion Disgyblu a Chwynion
- Sgiliau Cyfathrebu
- Cyflwyniad i Ecwiti Cyflogaeth yn y Gwaith
- Sgiliau Bargeinio
- Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith
- Deall y Cysyniad o ‘Waith Da’
Wrth gyflwyno’r cwrs dyma beth ddywedodd y tiwtor Ron Leach:
“Mae addysg Undebau Llafur yn offeryn datblygu i helpu ein cynrychiolwyr i hyrwyddo agenda undebau llafur yn y gweithle. Mae ein holl ddarpariaeth cyrsiau wedi’i llywio gan ddealltwriaeth o’r heriau y mae ein Cynrychiolwyr Undebau Llafur ac aelodau yn eu hwynebu a sut gallwn baratoi ein Cynrychiolwyr orau i ymdopi gyda’r heriau hyn.”
“Mae’n fraint gallu trosglwyddo fy mhrofiad Undeb Llafur a rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i’n Cynrychiolwyr newydd weithio tuag at weithle gwell a defnyddio eu hyder newydd i ddwyn y cyflogwr i gyfrif am weithle sy’n well a diogelach i bawb.”
Mae effaith y cwrs wrth gefnogi cynrychiolwyr newydd Undeb gyda’u rolau a’u gwybodaeth wedi bod yn fuddiol, fel y gwelir yn yr adborth gan y cyfranogwyr presennol:
Enwebwyd Tim Scogings, Nyrs Ysgol Iechyd Cyhoeddus gyda 22 mlynedd o brofiad yn y GIG ym Merthyr Tudful, yn Gynrychiolydd Gweithle ym mis Mehefin 2024. Tynna sylw at sut mae’r cwrs wedi ei helpu’n uniongyrchol yn ei rôl:
“Mae gwybodaeth, sgiliau a chyd-destun y cwrs wedi fy helpu i gefnogi fy nghydweithiwr yn fy ngweithle. Mae’n dod ag awyrgylch gadarnhaol yn y gweithle trwy gynnig cefnogaeth i eraill. Mae gan y cwrs strwythur a threfniant da, ac mae’r cynnwys yn dda iawn. Awn â’r hyn a ddysgwn ar y cwrs ymlaen i’n gweithle. Mae’r defnydd o astudiaethau achos bywyd go iawn o fewn y cwrs yn berthnasol ac yn darparu enghreifftiau da i ni i’w deall. Fel cynrychiolydd gweithle, mae’n darparu’r safonau o ran yr hyn a ddisgwylir gan rôl cynrychiolydd. Os na wnewch y cwrs yma, ni allwch ddatblygu fel Cynrychiolydd. Rwy’n mwynhau dysgu yn yr ystafell ddosbarth a chwrdd â dysgwyr eraill mewn amgylchedd wyneb yn wyneb.”
Ymunodd Tina Benyon, Cynghorydd Gwerthu i Which, gydag Undeb Llafur er mwyn cael mwy o amddiffyniad i’w rôl yn ei swydd:
“Ymunais gyda’r Undeb Llafur i ddechrau er mwyn amddiffyn fy swydd. Roeddwn i dan lawer o bwysau yn y gwaith i werthu i gwsmeriaid, llawer ohonynt yn oedrannus. Roedd amser yn gyfyngedig i drosi’r sgyrsiau yn werthiannau; mae gennym i gyd dargedau i’w cyrraedd. Roeddwn i eisiau cefnogi’r cwsmer a dangos i’m cyflogwr hefyd, trwy ofalu am y cwsmer, fod y berthynas yr un mor ystyrlon ar gwerthiant. Mae’r cwrs wedi bod mor addysgiadol, rwyf wedi bod yn dysgu am hawliau gweithwyr a’r hyn y gall cyflogwyr ei wneud a’r hyn na allant ei wneud yn ôl y gyfraith. Mae gen i ddealltwriaeth llawer gwell o beth yw hawliau gweithwyr, sydd wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi yn fy ngallu yn fy rôl. Mae gen i nawr sefyllfa o ddealltwriaeth, rwyf yno i gefnogi’r cwsmer a gweithio gyda fy nghyflogwr i wella ein profiad gwasanaeth cwsmeriaid. Os ydych yn gynrychiolydd Undeb Llafur ac nad ydych wedi gwneud y cwrs, ‘Ewch Amdani!’ “
Mae Phil Hillier, Peilot Morwrol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, a ddaeth yn Gynrychiolydd Undeb yn ddiweddar ac sydd eisoes yn Uwch Gynrychiolydd ymhlith tri, yn pwysleisio’r pynciau eang a gwmpesir gan y cwrs:
“Rwyf newydd ddechrau fel Cynrychiolydd Undeb, ac eisoes yn Uwch Gynrychiolydd allan o dri cynrychiolydd. Roedd pob un ohonom yn newydd iawn i rôl Cynrychiolydd Undeb ar y pryd, ac roedd angen i mi wybod mwy i wella fy ngwybodaeth ar gyfer y rôl. Mae’r cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn hyd yn hyn, gan gwmpasu ystod eang o feysydd gweithle. Mae’n tynnu sylw at fanteision yr Undeb, codi ymwybyddiaeth o gydweithio a chael llais yn y gweithle. Un o’r nifer o uchafbwyntiau yw cwrdd gyda’r cynrychiolwyr eraill ar y cwrs. Rydym i gyd o wahanol ddiwydiannau, ond wedi darganfod bod gennym broblemau tebyg, ac rydym yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Fel Cynrychiolydd, rydych yn cael yr offer sydd eu hangen arnoch o’r cwrs, ac mae’n gymorth i’ch cyfeirio at y man cywir, os oes angen cymorth ychwanegol arnoch. Ni ddylech fod yn Gynrychiolydd Undeb heb wneud y cwrs hwn.”
Mae’r adborth cadarnhaol yn tanlinellu’r rôl hanfodol mae’r cwrs Tystysgrif Rhagarweiniol i Gynrychiolwyr Gweithle yn ei chwarae wrth rymuso cynrychiolwyr gweithle Unite i gefnogi eu cydweithwyr yn effeithiol, a hyrwyddo newid cadarnhaol yn eu sectorau priodol. Cynhelir y dosbarthiadau drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru, yn ogystal ar-lein bob tymor. Os ydych yn Gynrychiolydd Undeb ac nad ydych wedi dilyn y cwrs eto, gellir cael rhagor o wybodaeth yma.








Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth