Cwrs Creu Modelau Llwyddiannus yn yr Hwb Sgiliau: Grymuso Dysgwyr Trwy Gyfrwng Rhifedd
1-Hydref-2024
Dylan Reed ydw i, ac ers Gorffennaf 2024, rwy’n mwynhau cydlynu Prosiect Multiply ar ran Addysg Oedolion Cymru yn Sir Gaerfyrddin. Rydym ni yn Addysg Oedolion Cymru yn ymlafnio’n ddiddiwedd i gynnig cyfleoedd dysgu arloesol a diddorol sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau hanfodol. Yn ddiweddar, trwy gyfrwng Prosiect Multiply – menter sy’n ymwneud â gwella sgiliau rhifedd oedolion – cawsom fwynhau trefnu cwrs creu modelau unigryw gan gydweithredu â’r Hwb Sgiliau yn Cross Hands.
Cafodd y cwrs ei gyflwyno gan Brett Cryer, un o’n tiwtoriaid dawnus, a diben y cwrs oedd ennyn diddordeb dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol creadigol a’u helpu i ddatblygu sgiliau rhifedd allweddol mewn modd ymarferol a difyr. Yn ystod y cwrs, daeth y cyfranogwyr i wybod am hanfodion creu modelau, ac fe wnaethant ddysgu sut i ddefnyddio deunyddiau i greu modelau cywrain ar raddfa fechan a pheintio a mireinio eu campweithiau.
Rhifedd Ar Waith
Fe wnaeth y dull o ymgorffori rhifedd yn y broses greadigol sicrhau bod y cwrs hwn yn neilltuol o lwyddiannus. Aeth y dysgwyr ati i ddeall mesuriadau a mynd ati i fesur, gan weithio gan ddefnyddio graddfeydd a defnyddio sgiliau lluosi (yn enwedig y tabl 10x) i blotio dimensiynau cywir ar bapur cyn gwireddu eu modelau. Fe wnaeth y dull ymarferol hwn alluogi’r dysgwyr i weld eu sgiliau rhifedd ar waith yn y byd go iawn, trwy gyfrwng fformat diddorol a hygyrch.
Mae gan Brett brofiad helaeth o addysgu a chreu modelau, a llwyddodd i greu amgylchedd dysgu croesawgar a chefnogol oedd yn annog creadigrwydd, a chynorthwyo dysgwyr i fagu hyder yn eu sgiliau rhifyddol.
Dywedodd Brett:
“Fe wnaethom greu gwaith celf gwydr lliw a modelau 3D, ac roedd yn hyfryd cael gweithio gyda’r grŵp hwn. Fe wnaethom ddefnyddio siapiau, cymesuredd a phapur sgwariau i gyfrif dimensiynau’r lluniad. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio’r tabl 10 i farcio, torri a chreu’r modelau 3D.”
Amlygu Llwyddiannau Dysgwyr
Roedd yr 11 dysgwr a gyfranogodd yn y cwrs yn frwdfrydig ac yn ymroddgar, ac fe wnaeth llawer ohonynt greu gwaith rhagorol a oedd yn adlewyrchu eu cynnydd o safbwynt artistig a mathemategol. Fe wnaeth bob dysgwr ddangos eu bod wedi meistroli’r technegau creu modelau ac wedi gwella eu gallu i drin rhifau.
Gan gyfeirio at sgiliau tiwtor Brett, ychwanegodd Rachel Thomas, Rheolwraig yr Hwb Sgiliau:
“Mae Brett yn wych, roedd ei allu i addasu yn rhagorol ac fe wnaeth pawb fwynhau’n arw.”

Gweithgaredd peintio gwydr lliw gwahaniaethol – cyfrif sgwariau i greu Ciosg Heddlu.

Amlygu Model 3D un o’n dysgwyr, wedi’u greu yn gymesur. Defnyddiodd y dysgwyr eu tabl 10 i farcio a thorri pobl adran.
Meithrin Sgiliau at y Dyfodol
Mae llwyddiant y cwrs creu modelau hwn yn adlewyrchu cenhadaeth graidd Multiply – sicrhau bod oedolion yn datblygu’r sgiliau rhifedd y mae arnynt eu hangen i lwyddo yn eu bywyd beunyddiol a thu hwnt i hynny. Trwy ganolbwyntio ar brosiectau ymarferol a chreadigol, rydym yn sicrhau y daw dysgwyr yn ymwybodol o fuddion gwella eu sgiliau rhifedd mewn cyd-destunau yn y byd go iawn. Rydym yn eithriadol o falch o’r dysgwyr a wnaeth gyfranogi ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gynnig cyrsiau arloesol sy’n helpu oedolion i ddysgu sgiliau hanfodol trwy ddulliau difyr a hygyrch.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd yn yr arfaeth ac am waith Addysg Oedolion Cymru, trowch at ein gwefan neu cysylltwch yn uniongyrchol â Dylan trwy gyfrwng ei gyfeiriad e-bost isod.
www.addysgoedolion.cymru/amdanom/amdanom-ni/y-prosiect-multiply
dylan.reed@adultlearning.wales
Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch o gael cynnig cyfleoedd cynllun Multiply ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf. Bydd contractau eraill yn cael eu sefydlu’n fuan!
Caiff rhaglen Multiply ei chynnal trwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.


Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth