Cwrs Celf a Chrefft y Nadolig – Prosiect Multiply, Sir Gaerfyrddin
4-Rhagfyr-2024Fel rhan o’r prosiect Multiply yn Sir Gaerfyrddin, cynhaliodd Addysg Oedolion Cymru gwrs Celf a Chrefft Nadolig yn ddiweddar oedd yn cyfuno creadigrwydd gyda sgiliau rhifedd hanfodol. Wedi’i gyflwyno gan ein tiwtor Andrea, cynhaliwyd y cwrs yn Nhŷ Enfys yn Llanelli, gan ddod a grŵp o ddysgwyr ynghyd gyda’r awydd i wneud crefftau ymarferol a rhifedd mewn cyd-destun byd real.
Un o nodau allweddol y prosiect Multiply yw integreiddio rhifedd i weithgareddau bob dydd, gan ei wneud yn fwy perthnasol a hygyrch i ddysgwyr. Yn yr achos yma, cafodd dysgwyr y cyfle i ddatblygu eu sgiliau rhifedd drwy’r broses o greu addurniadau macramé ar thema’r Nadolig. Roedd yr addurniadau hyn nid yn unig yn ystyrlon, ond roedd y broses ei hun yn ffordd wych o roi mathemateg yn ei gyd-destun mewn ffordd hwyliog a deniadol.
Yr Amgylchedd Dysgu a’r Cyd-destun
Cynhaliwyd yn Nhŷ Enfys, gofod cymunedol yn Llanelli, rhoddodd y cwrs amgylchedd croesawgar i ddysgwyr archwilio creadigrwydd wrth wella eu rhifedd. Roedd y lleoliad yn llawn offer ar gyfer gweithgareddau crefft, gyda digon o le i gyfranogwyr weithio a rhannu eu syniadau.
Fel rhan o’r fenter Multiply, nod y cwrs oedd integreiddio dysgu creadigol gyda rhifedd, sy’n aml yn cael ei weld fel rhwystr i addysg oedolion. Anogwyd y dysgwyr i archwilio cysyniadau mathemategol mewn ffordd ymarferol a phleserus. Trwy grefftau macramé’r Nadolig, bu dysgwyr nid yn unig yn hogi eu sgiliau darllen a defnyddio offer mesur, ond hefyd yn gwella eu gallu i gymhwyso’r sgiliau hyn mewn sefyllfaoedd ymarferol pob dydd.


Rhifedd ar Waith
Cynlluniwyd elfen mathemateg y cwrs yn ofalus i adlewyrchu agweddau allweddol ar rifedd fel yr amlinellwyd yn y cwricwlwm. Bu dysgwyr yn gweithio gydag unedau mesur safonol ac ansafonol, gan gymhwyso eu sgiliau i dasgau oedd yn uniongyrchol gysylltiedig gyda’r broses gwneud crefft.
Roedd y sgiliau rhifedd allweddol a gafodd sylw yn y cwrs yn cynnwys:
- Darllen a defnyddio offer mesur: Defnyddiodd y dysgwyr fesurau tâp a phren mesur i fesur llinyn macramé yn gywir, gan weithio gydag unedau metrig (centimetrau) ac imperial (modfeddi).
- Haneru rhifau: Fel rhan o’r gwaith crefft, roedd yn rhaid i’r dysgwyr haneru hyd y cortyn i greu patrymau cymesurol. Er enghraifft, wrth fesur llinyn yn 170 cm, roedd angen iddynt gyfrifo hanner yr hyd hwn (85 cm).
- Adio a thynnu sylfaenol: Wrth ddefnyddio offer mesur oedd yn rhy fyr i fesur yr hyd gofynnol, bu dysgwyr yn ymarfer adio i benderfynu faint yn fwy o hyd oedd ei angen arnynt. Er enghraifft, os oedd tâp mesur yn 120 cm a’r hyd gofynnol yn 170 cm, cyfrifodd y dysgwyr fod angen 50 cm yn ychwanegol arnynt.
- Iaith lleoliad: Drwy gydol y gwaith crefft, defnyddiodd y dysgwyr iaith leoliad fel “canol”, “chwith”, ar “dde” i arwain eu creadigaethau.
Roedd y tasgau hyn nid yn unig yn gwella sgiliau rhifedd dysgwyr ond hefyd yn caniatáu iddynt gymhwyso’r cysyniadau hyn mewn ffordd ddiriaethol a chreadigol, gan wneud dysgu’n fwy ystyrlon a phleserus.


Creadigrwydd a Chrefft fel Arf ar gyfer Rhifedd
Roedd y gweithgaredd crefft ei hun – creu addurniadau Nadolig gan ddefnyddio technegau macramé, yn gyfle perffaith i gymhwyso sgiliau rhifedd mewn ffordd greadigol. Gweithiodd y dysgwyr gyda’i gilydd i greu addurniadau ar gyfer eu coed Nadolig, gan ddefnyddio llinyn neu gortyn i ffurfio patrymau cymhleth. Gwnaeth un dysgwr, er enghraifft, dri angel o wahanol feintiau yn anrhegion i’w merched, gan ddefnyddio’r sgiliau newydd i bersonoli pob un yn ôl meintiau unigol y merched.
Roedd yn rhaid i’r dysgwyr fesur y cortyn, addasu’r hyd, a phenderfynu ar fylchau priodol ar gyfer eu dyluniadau. Er enghraifft, wrth greu cynllun coeden Nadolig, roedd yn rhaid i ddysgwyr adael bylchau cyfartal rhwng clymau, a chynyddu yn raddol fesul hanner modfedd gyda phob rhan. Atgyfnerthodd hyn eu dealltwriaeth o fesur a chyfrannedd mewn amgylchedd ymarferol a hwyliog.
Elfennau ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang)
Ymgorfforodd y cwrs elfennau o ADCDF, sy’n anelu at fynd i’r afael gyda materion byd go iawn megis cynaliadwyedd, cyfrifoldeb cymdeithasol, ac ymgysylltu gyda’r gymuned. Yn y cyd-destun hwn, archwiliodd y dysgwyr themâu cyfoeth a thlodi, yn ogystal ag iechyd a lles, drwy’r broses o wneud crefft.
- Cyfoeth a Thlodi: Anogwyd dysgwyr i fyfyrio ar werth y deunyddiau roeddynt yn eu defnyddio, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd ac ailddefnyddio adnoddau. Yn ysbryd y Nadolig, daeth llawer o ddysgwyr â deunyddiau sgrap i mewn neu ailddefnyddiwyd eitemau oedd ganddynt gartref yn barod, fel hen gortynnau neu ffabrigau. Roedd hyn nid yn unig yn atgyfnerthu gwerth ailddefnyddio deunyddiau ond hefyd yn galluogi dysgwyr i fyfyrio ar sut gallent gymhwyso’r arferion hyn i leihau gwastraff yn eu bywydau bob dydd.
- Iechyd ac Ymwybyddiaeth Ofalgar: Mae gwaith crefft, yn enwedig y dechneg macramé, yn adnabyddus am ei fanteision therapiwtig. Wrth i ddysgwyr weithio ar eu prosiectau, gwnaethant gymryd rhan mewn gweithgaredd o ffocysu oedd yn gymorth i leihau straen a hyrwyddo lles meddyliol. Roedd y weithred o wneud gwaith crefft yn ffurf o hunanofal, gan roi seibiant o bwysedd dyddiol wrth feithrin ymdeimlad o gyflawniad.
Adborth a Phrofiadau Dysgwyr
Dengys adborth y dysgwyr fod y cwrs yn llwyddiant mawr. Mwynhaodd yr holl gyfranogwyr y profiad yn wirioneddol, yn enwedig natur ymarferol y gwaith crefft. Mynegodd un dysgwr, nad oedd erioed wedi rhoi cynnig ar facramé o’r blaen, a gwerthfawrogodd y cyfle i ddysgu sgil newydd, tra bod un arall yn arbennig o falch o allu creu anrhegion ystyrlon i’w theulu.
Daeth un foment gofiadwy pan ddisgrifiodd dysgwr, Faye, led darn crefft gan ddefnyddio term cyffredin: “hyd cwtsh” (a cwtch width), gan gyfeirio at rychwant ei breichiau estynedig, sef tua 170 cm. Roedd hyn nid yn unig yn ychwanegu cyffyrddiad personol at y gweithgaredd ond hefyd yn amlygu’r agwedd greadigol, gyd-destunol at ddysgu mae’r prosiect Multiply yn ceisio ei hyrwyddo.
Soniodd sawl aelod o staff hefyd am werth trosglwyddo sgiliau rhifedd drwy weithgareddau cymunedol fel hyn. Nodwyd sut roedd y cwrs yn creu cyfle i ddysgwyr rannu eu profiadau, cefnogi ei gilydd, ac ymfalchïo yn y gwaith a gynhyrchwyd ganddynt. Roedd dysgwyr yn gallu myfyrio ar sut gallent drosglwyddo eu sgiliau newydd yn eu cymunedau eu hunain, gan ymgorffori ymhellach y cysyniad o ddysgu gydol oes.


Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth