Cryfhau Cymunedau: Y Bartneriaeth Barhaus Rhwng DOVE Workshop ac Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
5-Rhagfyr-2024


Mae’r bartneriaeth hynod o lwyddiannus a chydweithredol rhwng Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth Addysg Oedolion Cymru a DOVE Workshop ym Manwen, wedi bod yn gonglfaen wrth ddarparu cyfleoedd dysgu cymunedol sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i addysg gonfensiynol. Mae’r bartneriaeth wedi dylanwadu’n sylweddol ar fywydau unigolion lleol, gan rymuso a chryfhau mynediad y gymuned leol ehangach i gyfleoedd addysg oedolion. Mae’r astudiaeth achos yma yn archwilio hanes DOVE Workshop, yr heriau a llwyddiannau’r bartneriaeth, cyfraniadau staff a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, cynlluniau ar gyfer ei ddatblygiad yn y dyfodol a’i effaith.
Mae DOVE Workshop yn cynnig ystod o wasanaethau gyda’r nod o feithrin dysgu a datblygiad personol. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, profiad gwaith, cymorth TG, cymorth cyflogaeth, ac ysgrifennu CV. Mae gofal plant ar y safle, a ddarperir drwy Dovecote Nursery, yn cefnogi dysgwyr a rhieni sy’n gweithio.
Wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel a chynhwysol, mae DOVE Workshop yn rhoi sylw i anghenion a galluoedd unigryw pob unigolyn. Mae’n cynnal polisi dim goddefgarwch ar gyfer gwahaniaethu neu arferion annheg, gan sicrhau bod parch a chynwysoldeb yn ganolog i’w weithrediadau.
Hanes y DOVE Workshop
Dechreuwyd DOVE Workshop yn ystod Streic y Glowyr yn 1984-1985, pan welodd menywod yng Nghwm Dulais fod angen addysg a hyfforddiant hygyrch. Roedd eu gweledigaeth yn cynnwys gofal plant am ddim, trafnidiaeth, ac opsiynau dysgu hyblyg i ddarparu ar gyfer amserlenni prysur.
Gyda chymorth partneriaid allweddol fel Adran Addysg Barhaus Oedolion Prifysgol Abertawe (AABO), Coleg Castell-nedd, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA), a’r Brifysgol Agored, dechreuwyd llunio’r fenter. Ym 1986, cafwyd cyllid gan Grant Cymorth Trefol, a sicrhawyd gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd, alluogi lansio rhaglen tair blynedd addysg a hyfforddiant.
Heddiw, mae DOVE Workshop yn gweithio yn hen swyddfeydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym Manwen, gan gynnig cyrsiau wedi’u teilwra i’r anghenion cymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys TG, sgiliau astudio, mynediad i addysg uwch, hanes lleol, a chelfyddydau creadigol fel gweu gyda pheiriant, gwehyddu a chelf. Bu i gwrs BA rhan-amser yn y Dyniaethau, a gyflwynwyd ym 1993 gan AABO, ehangu’r cyfleoedd dysgu ymhellach. Mae rhaglenni cyfnewid rhyngwladol hefyd wedi meithrin cysylltiadau gyda grwpiau menywod mewn rhanbarthau glofaol ledled Ewrop.
Goresgyn Heriau
Mae’r bartneriaeth wedi wynebu sawl her, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19, a aflonyddwyd ar ddysgu wyneb yn wyneb a chynyddu arwahanrwydd i lawer o aelodau’r gymuned. Roedd y cyfyngiadau ar ymgynnull yn ei gwneud yn anodd i ddysgwyr gael mynediad at yr ymdeimlad o gymuned, mae dysgu fel arfer yn ei ddarparu.
Er gwaethaf ei leoliad mewn ardal ddaearyddol anghysbell, mae DOVE Workshop wedi elwa’n fawr o gydweithredu gydag Addysg Oedolion Cymru, ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn hanfodol i gynnal arlwy addysgol y Gweithdy.
Dywedodd Lianne Byrne, Rheolwr DOVE Workshop:
“Mae’r berthynas rhwng DOVE Workshop ac Addysg Oedolion Cymru wedi bod yn hollol amhrisiadwy. Ers y symudiad yn dilyn COVID mewn dysgu cymunedol tuag at fodelau mewnol, mae llawer o ddarparwyr dysgu wedi ei chael yn anos cynnig yr un lefel o gefnogaeth ac allgymorth. Yn ein lleoliad ym Manwen, wynebwn yr her o fod mewn ardal anghysbell, sy’n medru cyfyngu ein mynediad at adnoddau a chyfleoedd dysgu hanfodol. Mae cael Addysg Oedolion Cymru fel partner wedi bod yn achubiaeth i ni.”
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Arweinir DOVE Workshop gan fwrdd ymroddedig o ymddiriedolwyr, sy’n rhannu cyfrifoldeb am lywodraethu’r sefydliad, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn effeithiol ac yn cyd-fynd gyda’i genhadaeth.
Darpara’r bwrdd ganllawiau arbenigol, gan gynnig trosolwg strategol a chraffu ar waith y sefydliad. Mae eu harbenigedd a’u profiad cyfunol yn adnoddau amhrisiadwy, ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant DOVE Workshop. Yn bwysicach, mae’r ymddiriedolwyr yn gwirfoddoli eu hamser, eu gwybodaeth, a’u sgiliau, gan ddangos ymrwymiad diwyro i gefnogi’r elusen a’i heffaith ar y gymuned leol.
Effaith y Bartneriaeth
Mae effaith y bartneriaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r ddarpariaeth academaidd a galwedigaethol, gan feithrin ymdeimlad o dwf personol a chymunedol.
Ychwanegodd y rheolwr Lianne Byrne:
“Cafodd un fenyw amser caled gyda’i hiechyd a bu’n ynysig am amser hir. Ers hynny, mae wedi dychwelyd i’r dosbarthiadau ac o ganlyniad wedi ffynnu. Rwy’n teimlo bod yr agwedd gymunedol ar ddysgu yn cael ei thanbrisio. Mae tiwtoriaid Addysg Oedolion Cymru sydd gennym yng DOVE Workshop yn bwysig iawn i lwyddiant y ddarpariaeth. Mae ein hadborth myfyrwyr yn hyfryd, ac mae’r buddion ehangach yn fwy na’r dysgu yn unig.”
Diolch i Aelodau’r Staff
Mae cyflawniadau DOVE Workshop yn ganlyniad i ymroddiad diflino’r staff. Mae’r cyfranwyr allweddol yn cynnwys y Rheolwr Lianne Byrne, Swyddog Cyllid Julie Bibby, Swyddog Iechyd a Lles Denise Lewis, Gweinyddwr Ellie Williams, a’r Glanhawr/Gofalwr Angela Bendle. Mae pob unigolyn yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant parhaus y bartneriaeth, a gwerthfawrogir eu hymdrechion yn fawr.
Dywed Beth John (Rheolwr Rhanbarthol AOC – De-orllewin a’r Canolbarth):
Mae’r bartneriaeth hir sefydlog rhwng DOVE Workshop a’n sefydliad etifeddiaeth, sef Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA), yn un rydym yn hynod falch ohoni. Mae’r Ganolfan yn chwarae rhan hollbwysig wrth ein cefnogi i hyrwyddo a hysbysebu ein cyrsiau i’r gymuned leol ym Manwen a’r cyffiniau, ac ers y Pandemig, rydym wedi dychwelyd i ddarpariaeth wyneb yn wyneb sy’n ffynnu ac yn datblygu’n gyson. Ar hyn o bryd darparwn ystod o gyrsiau wythnosol yn y Ganolfan, gan gynnwys Pyrograffeg, Celf Blodau. Gwnïo a Gwneud Ffelt. Bydd ein cyrsiau Dyfrlliw poblogaidd yn dychwelyd yn y Flwyddyn Newydd, ac mae cynlluniau hefyd ar y gweill i ddod ag ystod o gyrsiau Llythrennedd Digidol i’r Ganolfan. Mae gweledigaeth ac ymrwymiad parhaus Lianne Byrne i ddarparu cyrsiau addysg oedolion yn y Ganolfan, wedi bod yn ganolog i lwyddiant ein darpariaeth cyrsiau, ac rydym yn falch iawn o weld dyfnder ac ehangder y ddarpariaeth yn ehangu ac yn tyfu, ac yn cael effaith ystyrlon ar ein dysgwyr.”
Kathryn Robson (Prif Weithredwr AOC):
“Roedd fy ymweliad gyda DOVE Workshop ym mis Tachwedd 2024 yn wirioneddol ysbrydoledig. Rhoddodd cyfarfod â’r staff, y tiwtoriaid a’r dysgwyr gipolwg uniongyrchol i mi ar yr effaith anhygoel mae’r bartneriaeth hon yn ei chael ar y gymuned. Roedd cynhesrwydd ac ymroddiad pawb y cyfarfûm yn amlwg, ac roedd y straeon am drawsnewid a rannwyd gan ddysgwyr yn deimladwy iawn. Atgyfnerthodd i mi pa mor hanfodol yw ein cydweithio — nid yn unig o ran darparu dysgu ond wrth greu gofod lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso i dyfu. Mae DOVE Workshop yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wneud dysgu yn hygyrch i bawb.”

Kathryn Robson (Prif Swyddog Gweithredol AOC) a Lianne Byrne (Rheolwr DOVE Workshop)
Fel y dywed Lianne Byrne:
“Mae’r gefnogaeth a’r ddarpariaeth a gynigir gan Addysg Oedolion Cymru wedi bod yn hanfodol i’n llwyddiant, ac ni allwn ddiolch digon iddynt amdano. Ni ellir gorbwysleisio gwerth y bartneriaeth hon – yn syml, ni allwn roi pris ar y cyfleoedd a’r adnoddau rydych yn eu darparu i’n cymuned.” I ddarganfod mwy am DOVE Workshop, ewch i’w gwefan yma: www.doveworkshop.org.uk


Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth