Croeso i Hwb Dysgu Abertawe! | Addysg Oedolion Cymru

Croeso i Hwb Dysgu Abertawe!

22-Hydref-2023
Rhannu

Ffrwyth llafur tîm yw’r ddarpariaeth cyrsiau ESOL yn ninas Abertawe a ddarperir gan diwtoriaid Addysg Oedolion Cymru i ddysgwyr o bob cwr o’r byd – mae’r dysgwyr sy’n mynychu dosbarthiadau 2023/24 yn cynrychioli dros 45 o genhedloedd; mae pob un ohonynt wedi ymgartrefu yn Abertawe.

Croeso i Hwb Dysgu Abertawe, ar 4ydd llawr Princess House yng nghanol y ddinas!


Princess House, Abertawe

Mae dysgwyr o bob cwr o’r byd wedi ymgartrefu yn Abertawe, a diolch i gymorth Addysg Oedolion Cymru, gallant gyfranogi yng ngweithgareddau eu dosbarthiadau Saesneg i wella eu sgiliau a’u helpu i greu cyfleoedd yn eu cymunedau lleol.  


Gerardo (Lefel 1) yn plotio ei wlad ar y map yn y gegin gymunol.

Mae gan bob dysgwr stori ryfeddol ac emosiynol i’w hadrodd. Mae rhai wedi profi teithiau annisgrifiadwy i ddod yma, gan orfod ffoi o’u cartrefi ac wynebu bygythiad rhyfel. Mae rhai wedi gorfod dod yma heb eu teulu. Mae’r rhyfel a’r brwydro yn parhau yn Wcráin, felly nid yw’r dysgwyr o’r wlad honno yn gwybod ble yn union y byddant yn y dyfodol a pha un ai a fyddant yn dychwelyd i’w gwlad ai peidio maes o law.    Mae’r holl ddysgwyr yn hynod o obeithiol, ar waethaf yr heriau y maent wedi’u profi, ac maent yn ddiolchgar am gael cyfle i ganfod cartref newydd yng Nghymru.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ESOL prif ffrwd a rhai ar gyfer cyd-destunau penodol. Mae dysgwyr ein cyrsiau amser llawn yn cael 15 awr o wersi bob wythnos ac maent yn gweithio i ennill cymhwyster City and Guilds. Mae ein dysgwyr rhan amser yn gweithio i ennill cymwysterau Agored Cymru sy’n cwmpasu’r pedair sgil ieithyddol. Ar hyn o bryd, mae Addysg Oedolion Cymru yn cyflogi 9 o athrawon ESOL sy’n addysgu dosbarthiadau yn Princess House ac mewn mannau cyfarfod eraill yn y gymuned megis Adeilad yr YMCA a’r Hwb Amlddiwylliannol.


YMCA Abertawe

Cathryn Clement sy’n addysgu ein dosbarth Mynediad 2 (City and Guilds) amser llawn, a’n dosbarth Mynediad 1 rhan amser. Dywed Cathy, “Bob bore, mae’n bleser cael mynd i Princess House a chael fy nghyfarch gan ddosbarth o ddysgwyr eiddgar. Fel y dywed Fanny Alfonzo, ‘rydym ni oll yn ail deulu.’ Byddaf yn ceisio creu ymdeimlad o berthyn i gymuned yn fy ystafell dosbarth hynny, ac yn sgil hynny, ceir trafodaethau bywiog a llond bol o chwerthin, a digonedd o rannu bwyd. Yn ystod bob gwers, byddwn yn rhoi sylw i bwnc penodol, gramadeg, ffoneg a sillafu. Byddwn yn ymarfer senarios y gellir eu defnyddio yn y byd go iawn. Bydd fy nysgwyr yn gweithio’n ddiwyro i wella eu Saesneg, ac maent yn ymroddgar heb os.”


Dysgwyr ESOL yn nosbarth Kate Beavan yn yr YMCA.

Chris Kargadouris sy’n addysgu ein cwrs Mynediad 1 (City & Guilds) amser llawn a’n cwrs Lefel 1 rhan amser.


Dosbarth Lefel 1 Chris yn Princess House

Dywed Chris, “Mae fy nysgwyr yn wych. Maent yn llwyddo i greu amgylchedd dysgu hynod o bleserus. Maent yn hanu o lawer o gefndiroedd amrywiol, ac mae ganddynt amrywiaeth helaeth o brofiadau bywyd, ond byddant bob amser yn cyrraedd gan wenu ac yn cyfrannu rhywbeth buddiol at waith y dosbarth. Mae’n wych eu gweld yn sgwrsio yn llecyn cymunol ac yn dod i adnabod ffrindiau newydd o blith dysgwyr sy’n mynychu’r dosbarthiadau ar sawl lefel.

Sam Al-khanchi yw ein Swyddog Datblygu Cwricwlwm ESOL yn Abertawe. “Rwy’n Swyddog Datblygu Cwricwlwm ESOL yn Abertawe ers blwyddyn a hanner erbyn hyn. Roeddwn i wedi gweithio ym maes ESOL am flynyddoedd lawer cyn cychwyn y swydd hon, felly rwy’n gwybod pa mor bwysig yw cynnig amgylchedd dysgu diogel i’n dysgwyr. Mae’n brofiad arbennig iawn cael gweld ein dysgwyr yn dysgu gyda’i gilydd, ond hefyd yn bwyta ac yn chwerthin gyda’i gilydd ac yn rhannu eu profiadau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am Hwb Dysgu Abertawe, cysylltwch â Samantha Al-khanchi naill ai trwy e-bostio samantha.al-khanchi@adultlearning.wales neu ffonio 07787 433936.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth