Croesawu Dysgu Gydol Oes: Myfyrdodau ynghylch Undod a Chysylltiadau | Addysg Oedolion Cymru

Croesawu Dysgu Gydol Oes: Myfyrdodau ynghylch Undod a Chysylltiadau

20-Rhagfyr-2024
Rhannu

Wrth i ni nesáu at Ddiwrnod Rhyngwladol Undod Dynol ar 20 Rhagfyr 2024, cawn gyfle i ystyried y cysylltiadau sy’n ein huno fel unigolion, cymunedau a chenhedloedd. Byddwn ni yn Addysg Oedolion Cymru yn gweld yn feunyddiol sut mae dysgu gydol oed yn llwyddo i ddod â phobl ynghyd, gan rymuso unigolion a chryfhau gwead ein cymdeithas.  Mae dysgu gydol oes yn caniatáu i ni rannu sgiliau, dathlu amrywiaeth a chreu cyfleoedd i sicrhau twf ym mhob cornel o Gymru.

Ni fydd dysgu yn dod i ben ar ôl cyrraedd oedran neu gam penodol. Mae’n broses ddiddiwedd sy’n newid er mwyn diwallu anghenion unigolion a chymunedau. Ledled Cymru, gallwn weld enghreifftiau o hyn ar waith; maent yn cynnwys dosbarthiadau ynghylch treftadaeth Cymru sy’n dathlu ein hunaniaeth, gweithdai sgiliau digidol sy’n helpu dysgwyr yn y byd cydgysylltiedig sydd ohoni, a grwpiau cymunedol yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau mewn mannau lleol. Bob dydd, bydd addysg oedolion yn meithrin hyder, cysylltiadau a gobaith.

Rydym ni yn Addysg Oedolion Cymru yn ymrwymo i gynnig cyfleoedd cynhwysol i bob dysgwr. Pa un ai a fyddant mewn neuadd bentref, llyfrgell, gweithle neu ystafell ddosbarth ar-lein, daw ein dysgwyr ynghyd i feithrin sgiliau, dod i adnabod ffrindiau newydd a chreu rhwydweithiau cefnogol. Mae’r profiadau dysgu hyn yn llawer ehangach na thwf unigolion – maent yn cryfhau cyfleoedd ac yn dod â phobl sy’n rhannu’r un nodau ynghyd.

Hanfod grym dysgu gydol oes yw ei allu i drawsnewid bywydau. Rwyf wedi gweld dysgwyr o bob oedran yn cychwyn troedio llwybrau newydd, yn ailddarganfod eu hyder ac yn datgloi drysau yr oeddent wedi credu eu bod ar gau. Dyna hanfod dysgu gydol oes: creu cyfleoedd, chwalu rhwystrau a chynorthwyo pobl i gyflawni eu potensial.

Yng Nghymru, mae ein traddodiadau megis y cymanfaoedd canu a’r eisteddfodau yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw dod ynghyd i rannu gwybodaeth, dathlu creadigrwydd a chryfhau ein cysylltiadau. Heddiw, mae mannau dysgu modern yn cynnal yr un ysbryd, ac yn denu pobl o bob cefndir i ddod ynghyd i ddysgu, rhannu a datblygu.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Undod Dynol yn ein hatgoffa y byddwn ni fel cymdeithas yn gryfach pan ddown ni ynghyd. Mae dysgu gydol oes yn cynnig llwybr tuag at gysylltiadau, cytgord a chynnydd – gan helpu unigolion a chymunedau i addasu, ffynnu a llunio’u dyfodol eu hunain.

Rydym ni yn Addysg Oedolion Cymru yn falch o allu cynorthwyo dysgwyr ledled ein gwlad. Gyda’n gilydd, trwy gyfrwng addysg a nod cyffredin, gallwn ddatblygu Cymru sy’n fwy cysylltiedig ac yn fwy hyderus – gwlad ble caiff pawb y cyfle i ddysgu a datblygu trwy gydol eu hoes.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth