Crefftau hyfryd gan ddysgwyr ein cwrs Clytwaith! | Addysg Oedolion Cymru

Crefftau hyfryd gan ddysgwyr ein cwrs Clytwaith!

11-Awst-2021
Rhannu

Yn ystod y pandemig ar flwyddyn olaf, mae’r dysgwyr wedi bod yn brysur yn creu amrywiaeth o gwiltiau, clustogau a ‘quillows’ (cwiltiau sy’n troi’n glustogau) hardd; mae ein dysgwyr clytwaith hefyd wedi mwynhau crefftau eraill hefyd! Mae’r dysgu wedi cynnwys ‘Foundation Piecing’, a ‘Bias Tape Appliqué’, lle cyflwynodd pob gwers ganllaw ar ddefnyddio gwahanol dechnegau gan arwain at ystod o gwiltiau a wnaed gan ddysgwyr yn ymgorffori cymysgedd o glytwaith ac appliqué.

Mae ein tiwtor Alison Chapman wedi bod yn rhannu ei gwybodaeth a’i phrofiad, gan arwain ein dysgwyr ac addysgu technegau a sgiliau newydd.

Dywed Alison, “Mae’r sesiynau’n seiliedig ar bob agwedd ar glytwaith a chwiltio, ac mae’r prosiectau’n cael eu harwain gan ddysgwyr. Rwy’n ceisio sicrhau bod dysgwyr yn gallu gwneud eitem y byddan nhw’n ei defnyddio ac maent eu heisiau – gan ddysgu sgiliau newydd wrth weithio! Mae’n well gan rai dysgwyr wneud eitemau llai ac mae rhai yn gwneud cwiltiau yn amrywio o gwiltiau bach maint crud hyd at gwiltiau maint gwely mawr.”

Ychwanega Alison, “Mae cymaint o wahanol dechnegau a phatrymau, felly mae rhywbeth newydd i’w ddysgu bob amser! Mae’r wybodaeth flaenorol a rennir gan ddysgwyr, yn eu galluogi i helpu ei gilydd, bod yn greadigol gan ddysgu sgiliau newydd.”

Mae dysgwyr Alison wedi gweithio’n galed iawn, cymaint felly nes bod ei dosbarth Clytwaith a gynhelir ar brynhawn Iau wedi eu hychwanegu at y rhestr fer yng Ngŵyl Genedlaethol y Cwiltiau (darllenwch fwy am y gamp hon o’n herthygl flaenorol yma).

Yn ystod gwersi’r cyfnod clo, llwyddodd ein dysgwyr i aros mewn cyswllt, gan ysgafnhau teimladau aml o unigedd oherwydd nad oeddynt yn medru gweld ffrindiau a theulu. Dywed rhai dysgwyr bod y dosbarthiadau wedi eu cadw i fynd trwy’r misoedd diwethaf – gydag un grŵp yn galw eu dosbarth yn “Gwnïo i gynnal Callineb”.

Ychwanega Alison “Mae adlais llawer o hwyl a chwerthin yn y dosbarthiadau yn rheolaidd, ac mae’r grwpiau’n gallu cefnogi ei gilydd trwy eu defnydd o Dimau Microsoft sydd am ddim [Gall ein dysgwyr ddefnyddio apiau Microsoft am ddim wrth ddysgu gyda ni] ac o ganlyniad, mae pob dysgwr wedi gwella ei sgiliau digidol.”

Dywed Alison, “Gallaf ddweud yn onest fy mod wedi edrych ymlaen at y cyrsiau lawn cymaint ag y mae’r dysgwyr, a chredaf ein bod i gyd wedi dod i adnabod ein gilydd yn well a dysgu sgiliau newydd!”

Llongyfarchiadau enfawr i Alison a’i dysgwyr ar greu darnau celf mor hyfryd a defnyddiol!

I weld mwy o waith y dysgwyr, edrychwch ar ein halbwm Facebook yma.

I ddod o hyd i gwrs Clytwaith neu Grefft, cliciwch yma.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth