Coleg Noddfa | Addysg Oedolion Cymru

Coleg Noddfa

10-Rhagfyr-2025
Rhannu

 “Cydnabyddir Coleg Noddfa am ei waith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’n lle sy’n meithrin diwylliant sy’n rhoi pwyslais ar groesawu a diogelu pobl sy’n ceisio lloches, gan gynnwys teuluoedd a phlant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches neu’n ffoaduriaid.”

Ni waeth o ble’r ydym yn dod, na ble bynnag yr ydym yn byw, mae gennym oll hawl i deimlo’n ddiogel. Mae Addysg Oedolion Cymru eisoes wedi ymrwymo i gynnig lle diogel i bawb ddysgu. Nawr mae angen eich help arnom i symud ymlaen gyda’n cenhadaeth: cefnogi pobl ag anghenion gwirioneddol – y rhai sy’n ceisio amddiffyniad yn gyfreithlon, yn ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth, ac sydd angen lloches.

Mae City of Sancturary (Dinas Noddfa) yn sefydliad sy’n ceisio meithrin mudiad croeso ledled y DU, ac mae’n cydweithio â rhwydweithiau o bobl ledled y wlad sy’n helpu i gynorthwyo pobl sy’n ceisio lloches yn ein cymunedau. Maent yn cynnwys sefydliadau a mannau sy’n cynnig croeso, diogelwch a chymorth.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydweithio â sefydliad City of Sanctuary ac mae wedi addo cynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid drwy gynnig ystod eang o gyrsiau addysg oedolion mewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru, mewn amgylchedd cynhwysol, calonogol a chroesawgar.

Rydym bellach yn gweithio tuag at ddod yn Goleg Noddfa cydnabyddedig

I gyflawni hynny, byddwn yn meddwl, yn gwrando, yn dysgu, yn cynllunio ac yn gweithredu er mwyn parhau i wella a datblygu’r pethau yr ydym yn eu gwneud a’r cymorth rydym yn ei gynnig i geiswyr lloches.

Mae pobl sydd wedi cael profiad personol o geisio lloches yn hanfodol i sicrhau y gall hyn ddigwydd.

Rydym yn dymuno sicrhau bod pobl sy’n ceisio lloches yn rhan o’r penderfyniadau a’r gweithredoedd sy’n effeithio arnynt, a gallwch gyfrannu at hyn trwy sawl dull fel un o ddysgwyr Addysg Oedolion Cymru.

Mae arnom angen eich cyfraniadau

A fyddai gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am ein gwaith, neu sut y gallwch ein helpu i gyflawni ein statws Coleg Noddfa?

Ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad personol o geisio lloches

Byddwn yn cynnal 2 sesiwn briffio ar-lein a bydd y sesiynau hynny yn anffurfiol, yn hygyrch ac yn gyfeillgar, a gall ein holl ddysgwyr sydd â phrofiad personol o geisio lloches gyfranogi ynddynt. Byddwn yn dweud rhagor am Goleg Noddfa, yn egluro sut gallwch gyfranogi os dymunwch, ac yn croesawu unrhyw gwestiynau y dymunwch eu gofyn.

Os hoffech chi rannu eich syniadau, gallwch neilltuo lle yn un o’r sesiynau briffio drwy glicio ar y dolenni isod. Cynhelir y sesiynau hyn ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Byddwn yn ymdrechu i gynnig gwasanaeth cyfieithu mewn ieithoedd cymunedol os bydd hynny ar gael.

Os na allwch gyfranogi yn un o’r sesiynau briffio drwy Zoom, cysylltwch â Saffa Bellis (Cydlynydd Cenedlaethol y Ddarpariaeth Isod) yn y cyfeiriad e-bost isod, a byddwn yn ceisio trefnu cyfarfod dilynol yn eich ystafell ddosbarth leol.

Sesiwn Briffio Ar-lein 1: 16:30 – 17:30 Dydd Mawrth 20 Ionawr; ar Zoom

Sesiwn Briffio Ar-lein 2: 12:00 – 13:00 Dydd Gwener 23 Ionawr; ar Zoom

Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod Addysg Oedolion Cymru yn llwyddo i wireddu egwyddorion diogelwch, croeso a chynhwysiant i bawb. Ymunwch â ni i wireddu’r ymrwymiad hwn, wrth i ni feithrin cymuned gryfach a mwy croesawgar a chyflawni statws Coleg Noddfa.

Os dymunwch ofyn unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod hyn ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â saffa.bellis@dysguoedolion.cymru. Rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau a’ch llais yn fawr.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth