Camwybodaeth: pam mae addysg a gweithredu ar y cyd yn bwysig | Addysg Oedolion Cymru

Camwybodaeth: pam mae addysg a gweithredu ar y cyd yn bwysig

4-Medi-2026
Rhannu

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydweithio a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru. Mae’r partneriaethau hyn yn ein helpu i gyrraedd at oedolion a allai fel arall fethu â chael cyfleoedd i ddysgu,  ac i gynnig cyfleoedd mewn lleoliadau dibynadwy a hygyrch hefyd.

Mae sefydliadau gwirfoddol yn cyfrannu gwybodaeth, cydberthnasau a hygrededd a ddatblygir yn y fan a’r lle mewn cymunedau. Maent yn rhan bwysig o dirwedd addysg oedolion Cymru, ac rwy’n gwerthfawrogi eu cyfraniad yn fawr.

Rwy’n falch o fod yn rhan o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, sy’n galluogi cynrychiolwyr i ddod ynghyd i ystyried pryderon cyffredin a chyfrannu at ymdrechion y sector i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Bydd trafodaeth fuan yn ystyried deialog wleidyddol a chyhoeddus, gan gynnwys yr heriau sy’n cael eu creu gan gamwybodaeth, twyllwybodaeth a hollti barn cynyddol mewn dadleuon gwleidyddol.

Mae’r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes un peth penodol yn eu hachosi. Gall gwybodaeth yn lledaenu’n gyflym ar-lein, algorithmau cyfryngau cymdeithasol, naws rhai dadleuon cyhoeddus, ansicrwydd economaidd, lefelau gwahanol o ran llythrennedd digidol a llythrennedd cyfryngau, a’r defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial i greu cynnwys argyhoeddiadol oll gyfrannu at ei gwneud hi’n anoddach i wahaniaethu rhwng gwybodaeth ddibynadwy a honiadau camarweiniol neu ffug.

Mae’n bwysig, fodd bynnag, gwahaniaethu rhwng camwybodaeth ac anghytuno dilys.

Bydd gan bobl wahanol safbwyntiau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, ac mae dadlau a chraffu trylwyr yn hanfodol mewn democratiaeth iach. Nid rôl addysg yw dweud wrth bobl beth ddylent ei feddwl na pha farn y dylent ei choleddu. Ei diben yw helpu pobl i werthuso tystiolaeth, cwestiynu ffynonellau, adnabod gwybodaeth gamarweiniol ac ymgysylltu’n adeiladol â safbwyntiau a allai fod yn wahanol i’w safbwyntiau hwy eu hunain.

Mae lleoliadau dysgu a chymunedol yn rhan o ddadleuon cyhoeddus ehangach hefyd. Gall staff, tiwtoriaid, gwirfoddolwyr a dysgwyr ganfod gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, barn gref a sgyrsiau anodd. Felly, mae cynorthwyo pobl i lywio’r sefyllfaoedd hynny’n hyderus ac yn barchus yn dod yn rhan gynyddol bwysig o addysg a gwaith cymunedol.

Dyna pam mae meddwl beirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd cyfryngau yn bwysig. Mae angen yr hyder a’r sgiliau ar bobl i holi am ffynhonnell gwybodaeth, ystyried a yw tystiolaeth yn ategu honiad, cydnabod ymdrechion i ysgogi ymateb emosiynol a deall sut y gellir helaethu cynnwys ar-lein a’i gamddefnyddio.

Mae twf deallusrwydd artiffisial yn golygu bod y sgiliau hyn yn bwysicach fyth. Gall deallusrwydd artiffisial fod yn offeryn gwerthfawr, ond gall hefyd gynhyrchu gwybodaeth anghywir a’i gwneud hi’n haws creu testun, delweddau, sain a fideo sy’n realistig ond yn gamarweiniol. Mae deall ei botensial a’i gyfyngiadau yn elfen gynyddol bwysig o lythrennedd digidol.

Mae gan ddysgu oedolion rôl benodol i’w chyflawni. Drwy ddarpariaeth gymunedol, dysgu digidol, darpariaeth Saesneg fel Ail Iaith a gwaith sy’n cynorthwyo â chynhwysiant a chydlyniant cymunedau, mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â chefndiroedd a phrofiadau gwahanol ddysgu gyda’i gilydd.

Ni all addysg ddiddymu anghytuno, ac ni ddylai geisio gwneud hynny ychwaith. Fodd bynnag, gall helpu pobl i ymdrin â materion cymhleth yn chwilfrydig a gan ystyried tystiolaeth a barnu’n feirniadol yn hytrach na dibynnu ar dybiaethau neu honiadau sydd heb eu cadarnhau.

Ni all darparwyr addysg a sefydliadau gwirfoddol fynd i’r afael â’r heriau hyn ar eu pen eu hunain. Bydd canllawiau ymarferol, hyfforddiant priodol, mynediad at gymorth arbenigol a chydweithredu rhwng y llywodraeth, cyrff cyhoeddus, sefydliadau cymunedol, darparwyr addysg a llwyfannau technoleg oll yn cyfrannu at hynny.

Mae’r drafodaeth sydd ar ddod yn gyfle i sicrhau dirnadaeth well o brofiad cymunedau a sefydliadau, nodi ble y gallai cymorth fod yn ofynnol, ac ystyried beth y gellir ei gyflawni ar y cyd.

Mewn amgylchedd gwybodaeth sy’n gynyddol gymhleth, dylai ein hymateb fod yn seiliedig ar dystiolaeth, addysg, didwylledd a’r hyder i sicrhau bod sgyrsiau anodd yn adeiladol.

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth