Caffi Trwsio Port Talbot: Flwyddyn yn Ddiweddarach
7-Rhagfyr-2024Mae’n anodd coelio bod un flwyddyn gyfan wedi mynd heibio, i’r diwrnod, ers i Addysg Oedolion Cymru (AOC) sefydlu ei 3ydd ‘Cangen’ yn Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth – sef Caffi Trwsio Port Talbot! Ar ddydd Iau 7fed Rhagfyr 2023, ymunodd staff ac aelodau o’r gymuned leol ym Mhort Talbot, i gydnabod a dathlu sefydlu’r ‘Caffi Trwsio’ oedd newydd ei ffurfio, a chafodd gwesteion fwynhau amrywiaeth o gyflwyniadau gan Kathryn Robson (Prif Swyddog Gweithredol Addysg Oedolion Cymru), John Graystone (Cadeirydd Addysg Oedolion Cymru), John McCrory (Cyfarwyddwr Sefydlol Caffi Trwsio Cymru), Jessica Leigh Jones MBE (Prif Swyddog Gweithredol IUNGO Solutions) a Rhys Clement (oedd ar y pryd yn gweithio fel ‘Cydlynydd y Caffi Trwsio’ ar gyfer Addysg Oedolion Cymru a nawr mae’n Gadeirydd y Gangen!). Cafodd y gwesteion a wahoddwyd blas ar ddetholiad o gyflwyniadau amrywiol, ac roedd llawer o gyffro a bwrlwm gwirioneddol ynghylch beth fyddai dyfodol y Caffi Trwsio ac AOC.
Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae’r dyfodol yn edrych yn hynod o ddisglair!
Mae’r Caffi trwsio wedi sefydlu ‘Datganiad Cenhadaeth’ glir – i leihau gwastraff, helpu pobl i ddysgu sgiliau gwerthfawr a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Mae aelodau Pwyllgor y Caffi Trwsio a gwirfoddolwyr yn credu mewn trwsio yn hytrach na thaflu pethau i ffwrdd, ac mae pob un wedi ymrwymo i gael effaith amgylcheddol gadarnhaol wrth feithrin amgylchedd cefnogol ac addysgol. Mae’r Caffi Trwsio yn darparu man croesawgar lle gall aelodau’r gymuned ddod ac eitemau sydd wedi torri, ac mae gwirfoddolwyr medrus yn cydweithio i’w hatgyweirio. O wnïo a thecstilau i bethau electroneg a theclynnau bach, mae gwirfoddolwyr yn ceisio trwsio amrywiaeth o eitemau, gan ddysgu gwerth ‘atgyweirio ac ailddefnyddio’ i ymwelwyr.
Gweler isod, yr amrywiaeth trawiadol o gyflawniadau ar gyfer y Gangen ers Ionawr 2024:
– Cyfanswm yr Eitemau sydd wedi’u Trwsio:
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae’r Caffi Trwsio wedi derbyn 80 o eitemau, ac wedi trwsio 68 ohonynt yn llwyddiannus, gan arwain at gyfradd atgyweirio drawiadol o 85%.
– Aelodau Cymunedol sydd wedi derbyn gwasanaeth:
Mae’r Caffi Trwsio wedi croesawu amcangyfrif o 150-200 o ymwelwyr drwy’r drysau, yn seiliedig ar bresenoldeb cyfartalog fesul digwyddiad.
– Gwastraff sy’n cael ei Ddargyfeirio o Safleoedd Tirlenwi:
Trwy atgyweirio yn hytrach na thaflu i ffwrdd, mae’r tîm wedi dargyfeirio 231.4 kg o wastraff o’r safle tirlenwi.
– Effaith Amgylcheddol:
Mae ymdrechion y tîm wedi arbed 3,217.9 kg sylweddol o allyriadau CO₂, gan gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Gwirfoddolwyr
Mae’r Caffi Trwsio yn ffodus bod gennym dîm ymroddedig iawn o wirfoddolwyr, fel arfer gyda thua 8-10 o bobl yn mynychu pob sesiwn, sydd gyda’i gilydd wedi cyfrannu dros 140 awr o’u hamser eleni – pob un yn arddangos ymrwymiad anhygoel i’r gymuned. Mae gwirfoddolwyr wrth galon y Caffi Trwsio. Mae pob un yn dod â sgiliau unigryw ac angerdd i helpu eraill. Maent i gyd wedi gweithio’n ddiflino, gan gynnig eu hamser a’u harbenigedd i drwsio amrywiaeth eang o eitemau. O atgyweiriadau eitemau electroneg i wnïo dillad wedi’u rhwygo – maent wedi dangos amynedd a dyfeisgarwch anhygoel.
Dywedodd Mike Bees, aelod o’r gymuned leol:
“Deuthum a chwaraewr recordiau o’r 1960au i mewn, gyda phroblemau gyda chyflymder y chwarae a’r seinyddion. Gweithiodd y gwirfoddolwyr eu hud, ac mae bellach yn chwarae fy hoff recordiau yn berffaith. Mae’n wych ei fod yn gweithio eto.”
Dywedodd Rhys Clement, Cadeirydd y Gangen:
“Un o’m hatgyweiriadau mwyaf cofiadwy oedd trwsio hen ddyn eira mecanyddol Nadoligaidd. Roedd y gwifrau wedi rhyddhau, a thra ei fod yn chwarae tiwn, nid oedd yn dawnsio mwyach. Ar ôl ychydig o waith, roedd yn medru dawnsio eto, er mawr bleser i’r perchennog.”
Nid yw dechrau Caffi Trwsio yn dod heb ei heriau, ond mae’r tîm wedi gweithio’n rhagorol â dod o hyd i wirfoddolwyr medrus a hefyd sicrhau rhoddion ariannol. Mae recriwtio gwirfoddolwyr gyda sgiliau atgyweirio penodol, yn enwedig ym maes electroneg, wedi gofyn am allgymorth sylweddol, ond mae’r tîm wedi tyfu’n gyson, drwy gyfuniad o hyrwyddo ar lafar ac yn lleol. Yn yr un modd, mae sicrhau cyllid ar gyfer offer a chyflenwadau, er ei fod yn heriol, wedi’i gynorthwyo gan gymorth rhoddion cymunedol a grantiau lleol, gan alluogi’r Caffi Trwsio i gynnal ac ehangu ei weithrediadau.
Mae adborth cyson gan aelodau’r gymuned leol sydd wedi defnyddio’r Caffi Trwsio wedi bod yn ardderchog, gydag ymwelwyr yn aml yn canmol cymwynasgarwch y tîm o wirfoddolwyr a’r awyrgylch gadarnhaol a chyfeillgar.
Pwyllgor y Gangen
Mae Aelodau Pwyllgor y Caffi wedi bod yn allweddol i sicrhau ei lwyddiant. Maent yn ymdrin gyda phopeth o drefnu digwyddiadau a chydlynu gwirfoddolwyr, i reoli allgymorth a hyrwyddo. Mae eu gwaith tu ôl i’r llenni wedi bod yn hollbwysig wrth adeiladu’r presenoldeb cymunedol cryf sydd gennym heddiw.
Mae Rhys yn parhau:
“Rydym wrth ein bodd yn gweld llwyddiant Caffi Trwsio Port Talbot. Mae’r ymrwymiad i atgyweirio, ailddefnyddio ac ymgysylltu gyda’r gymuned yn arddangos yn union beth yw hanfod y mudiad Caffis Trwsio. Rydym yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.”
Dywed Cathryn Clement, Ysgrifennydd y Gangen:
“Y wobr orau yw gweld gwên ar wynebau pobl pan fydd eu heitemau gwerthfawr wedi’u trwsio. Mae’n brawf y gall ymdrechion bach gwneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig i’r amgylchedd ond i les y gymuned.”
Wrth i’r Caffi Trwsio edrych ymlaen at yr ail flwyddyn, mae cynlluniau cyffrous ar y gweill, gan gynnwys:
– Cyflwyno Sesiynau Adeiladu Sgiliau:
Nod y Caffi Trwsio yw ychwanegu sesiynau arbennig lle gall aelodau’r gymuned ddysgu sut i drwsio eu heitemau eu hunain. Bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol fel gwnïo, atgyweirio teclynnau bach electroneg a defnyddio offer, gan rymuso pobl i wneud atgyweiriadau syml gartref.
– Ymgysylltiad Ieuenctid:
Mae’r Caffi Trwsio hefyd yn gobeithio cydweithio ag ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid, i ddysgu sgiliau atgyweirio i’r genhedlaeth nesaf, gan helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae Kathryn Robson, Prif Swyddog Gweithredol AOC, wedi myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf gyda balchder mawr:
“Flwyddyn yn ôl, cychwynnodd Caffi Trwsio Port Talbot ar daith i leihau gwastraff, addysgu sgiliau hanfodol, a dod â phobl at ei gilydd mewn ysbryd o gymuned a chynaliadwyedd. Heddiw, mae effaith y fenter hon yn glir: 68 eitem wedi’u trwsio allan o 80 , dros 231.4 kg o wastraff wedi’i ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi, a 3,217.9 kg o allyriadau CO₂ wedi’u harbed. Mae’r cyflawniadau trawiadol hyn yn cyfateb i’r cysylltiadau sydd wedi eu cryfhau a’r sgiliau gwerthfawr a rennir o fewn ein cymuned. Mae ymroddiad y gwirfoddolwyr ac aelodau’r pwyllgor sy’n gwneud i hyn ddigwydd yn wirioneddol ysbrydoledig, ac yn grymuso hyd yn oed mwy o unigolion gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i groesawu atgyweirio, ailddefnyddio a chynaliadwyedd.”
Os hoffech ddysgu mwy am y Caffi Trwsio, a phryd y cynhelir y sesiynau misol, neu os hoffech dderbyn gwybodaeth am y rolau gwirfoddoli, mae croeso i chi gysylltu gyda Chadeirydd y Gangen, Rhys Clement ar: rhys.clement@adultlearning.wales









Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth