Bywyd ar ôl Strôc
16-Tachwedd-2023Bywyd ar ôl Strôc. Neuadd y Pensiynwyr, Rhydaman. (Dydd Mercher 10-12 canol dydd)
Mae’r dysgwyr sy’n mynychu ein cwrs yn Neuadd y Pensiynwyr yn Rhydaman, i gyd yn dioddef o effeithiau strôc. Nod y sesiynau wythnosol yw cyflwyno dysgwyr i amrywiaeth o sgiliau crefft fel rhan o’r broses adsefydlu, cefnogi’r dysgwyr i gyflawni tasgau newydd sy’n anelu at wella eu medrusrwydd corfforol, ac annog cyfranogwyr i fagu hyder drwy ryngweithio cymdeithasol a chaffael sgiliau newydd.
Nid yw cyfranogiad yn y grŵp wedi’i gyfyngu i ddysgwyr sy’n byw yn Rhydaman, gan fod dysgwyr yn teithio i mewn o’r trefi a’r pentrefi cyfagos i gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp a’r dosbarthiadau.
Mae ein dosbarth wedi bod yn rhedeg ers dechrau mis Medi 2023, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae dysgwyr wedi archwilio amrywiaeth o weithgareddau ar thema’r hydref. Mae dysgwyr wedi creu potiau planhigion o hen ganiau tun, gan eu huwchgylchu gyda choleri darluniadol o luniau blodau sydd wedi’u lamineiddio. Mae dysgwyr wedi plannu amrywiaeth o hadau blynyddol gwydn yn y potiau, ac wedi eu gosod mewn mannau awyr agored. Cafwyd adroddiadau eisoes am hadau wedi egino a thyfiant eginblanhigion, ac mae llawer o edrych ymlaen at weld blodau tlws yn ystod y gwanwyn flwyddyn nesaf.
Mae dysgwyr wedi ail ddefnyddio hen gylchgronau i greu lluniau collage o bwmpenni hydrefol. Ar gyfer y gweithgaredd yma, lluniodd y dysgwyr dempled i greu siâp pwmpen ar bapur A4. Llenwyd y siap gyda darnau wedi’u rhwygo o dudalennau cylchgrawn ac ychwanegu gwead gan ddefnyddio papur sidan mewn lliwiau cyflenwol wedi’i wasgu a’i lynu gan ddefnyddio glud PVA ar y dudalen maint A4.
Yn ychwanegol, cyfunodd y dysgwyr techneg collage gyda’r defnydd o dempledi siâp dail ac ymgorffori rhwbiadau dail o goed lleol brodorol i greu darluniad torch ar ddarn o bapur A3.
Mae dysgwyr hefyd wedi archwilio technegau gwehyddu gan ddefnyddio templedi papur a stribedi o bapur lliw.
Yn ystod mis Hydref penderfynodd y grŵp byddent yn cymryd rhan mewn ffair grefftau, ac fe gafodd y digwyddiad ei gynnal ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Dachwedd yn Neuadd y Glowyr ym Mrynaman Uchaf. Nod y grŵp oedd cynnal raffl ar y dydd, a chasglu eitemau i’w gwneud yn hamperi.
I gefnogi’r gweithgaredd, penderfynodd y dysgwyr wneud amrywiaeth o eitemau i’w gwerthu ar y stondin. Gydag arweiniad y tiwtor, Darina Neeson, crëwyd cynhyrchion i’w gwerthu.
Y gweithgaredd cyntaf oedd gwneud addurniadau Nadolig o glai wedi’i sychu yn naturiol. Cyflwynodd y dysgwyr glai ar y byrddau a defnyddio amrywiaeth o dorwyr i dorri siapiau tymhorol o’r clai. I ychwanegu gwead i’r arwyneb clai llyfn, defnyddiodd y dysgwyr offer boglynwaith ac wedyn eu gadael i sychu. Defnyddwyd paent acrylig i addurno’r addurniadau sych. Ychwanegwyd diferion o lud at yr arwynebau ac ysgeintio disgleirion mân (glitter) drostynt fel eu bod yn disgleirio, cyn rhoi cortyn drwy’r tyllau er mwyn medru eu hongian. Roedd pawb yn y grŵp wedi bod yn brysur yn creu’r eitemau lliwgar hyn, a nhw oedd uchafbwynt y stondin.
Eitem arall a ddatblygodd y dysgwyr i’w gwerthu yn y ffair oedd cit a oedd yn cynnwys stribedi cerdyn addurnedig amryliw, wedi’u gwneud yn addurniadau Nadolig mewn arddull cadwyn bapur. Ar gyfer rhain, torrodd y dysgwyr gerdyn A4 mewn amrywiaeth o liwiau yn stribedi 1” a’u haddurno gydag amrywiaeth o siapiau plu eira papur. Mae pob cit yn cynnwys 14 stribed wedi’u haddurno mewn amrywiaeth o liwiau, gyda phad dwy ochr ludiog ynghlwm wrth bob cit fel y gellir eu cysylltu gyda’i gilydd, i wneud addurn Nadolig tua 2 metr o hyd.
I’r eitem olaf ar gyfer y stondin, penderfynodd y grŵp gwneud rhywbeth tebyg i’r gweithgaredd plannu hadau a ddysgwyd ar ddechrau’r cwrs, ond y tro yma gwnaethant blannu bylbiau croeso haf (hyacinth) yn y caniau tun ac addurno’r llewys gyda blodau decoupage wedi’i lamineiddio i gynrychioli’r blodau wedi iddynt dyfu.
Mae gweithgareddau’r Ffair Nadolig fel arfer yn caniatáu i’r grŵp ‘Bywyd ar ôl Strôc’ godi arian, sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu lluniaeth drwy gydol y flwyddyn i’r rhai sy’n mynychu’r dosbarth, ac i dalu costau rhedeg grwpiau eraill.
Daeth nifer o aelodau’r grŵp i’r ffair i osod a chynnal y stondin ar y diwrnod. Dosbarthwyd taflenni gwybodaeth am weithgareddau’r grŵp a thrafodwyd manteision bod yn rhan o’r rhwydwaith cymorth yma.
Roedd cymryd rhan yn y ffair yn gyfle i aelodau’r grŵp ryngweithio gyda’r gymuned leol a chodi ymwybyddiath o’u rôl wrth gefnogi dioddefwyr strôc, yn y gobaith y bydd eraill yn ymuno a mwynhau’r cyfeillgarwch a’r empathi gan y rheiny sy’n cael eu heffeithio yn yr un moddgan leihau’r drafferth gyda’r unigrwydd oherwydd ynysiad mae llawer o ddioddefwyr yn ei ddioddef, wrth iddynt frwydro i oresgyn effaith strôc ar eu bywyd.
Mae ‘Bywyd ar ôl Strôc’ (Rhydaman) yn grŵp cysylltiedig gyda’r Gymdeithas Strôc mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, ac sy’n agored i unrhyw un gydag effeithiau strôc, yn cynnwys goroeswyr strôc, gofalwyr, ffrindiau ac aelodau o’r teulu. Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Cecilia Forsythe ar 07930 248306 neu anfonwch e-bost i cecilia.forsythe@adultlearning.wales
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan strôc ac angen rhagor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch gyda’r Gymdeithas Strôc drwy anfon e-bost at helpline@stroke.org.uk ffonio ar 0303 3033 100, neu ewch i’r dudalen wefan Stroke Helpline.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth