Blaenoriaethu Iechyd Meddwl yn y GwaithYmroddiad Pawb | Addysg Oedolion Cymru

Blaenoriaethu Iechyd Meddwl yn y GwaithYmroddiad Pawb

10-Hydref-2024
Rhannu

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd – 10 Hydref 2024

Blaenoriaethu Iechyd Meddwl yn y Gwaith Ymroddiad Pawb

Mae gweithleoedd yn llywio cymaint o agweddau ar ein bywydau, ac mae thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024, “Iechyd Meddwl yn y Gwaith”, yn ein hannog i ystyried ein cydgyfrifoldebau fel cyflogwyr. Yn Addysg Oedolion Cymru, mae ein hethos yn seiliedig ar gred sy’n pwysleisio bod gan bawb hawl i ddysgu, datblygu a chael eu gwerthfawrogi. Rydym yn meithrin amgylchedd dysgu cynhwysol i’n dysgwyr, ac yn yr un modd, mae’n rhaid i ni greu gweithle ble caiff gweithwyr eu cefnogi – yn feddyliol, yn emosiynol ac yn broffesiynol.

Mae addysg oedolion yn gallu gweddnewid unigolion a chymunedau. Ar y llaw arall, sut allwn ni ddisgwyl i’n dysgwyr ffynnu os yw’r bobl sy’n eu cynorthwyo yn ei chael hi’n anodd neu’n teimlo bod pethau’n eu llethu? Mae gweithlu iach sy’n cael cefnogaeth yn hynod o optimistaidd, ac mae hynny’n dylanwadu’n uniongyrchol ar ein dysgwyr, gan wella’r addysg rydym yn ei gynnig a meithrin amgylchedd dysgu cyfoethocach.

Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bawb ohonom ni, ac mae’n rhaid i ni chwalu’r rhwystrau sy’n atal sgyrsiau di-flewyn-ar-dafod am hynny. Nid bonws yw creu diwylliant sy’n rhoi pwysais ar ymwybyddiaeth a hyblygrwydd yn y gweithle, ble ceir cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae’n hanfodol er mwyn sicrhau llesiant meddyliol ac emosiynol ein staff. Yn Addysg Oedolion Cymru, mae ein gwerthoedd craidd, sef grymuso, cynhwysiant a chymuned, yn berthnasol i’r un graddau i’n dysgwyr ac i’n gweithlu. Pan fyddwn yn buddsoddi mewn iechyd meddwl, byddwn yn meithrin sefydliad cryfach a mwy tosturiol.

Ein cyfrifoldeb ni fel cyflogwyr yw sicrhau ein bod yn blaenoriaethu iechyd meddwl. Mae tîm iach sy’n cael ei werthfawrogi yn perfformio’n well, ond maent hefyd yn creu amgylcheddau dysgu anogol a ffyniannus. Eleni, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dewch i ni ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n rhoi sylw rheolaidd i iechyd meddwl yn y gwaith, gan greu gweithleoedd ble gall pawb lwyddo, pa un ai a ydynt yn ddysgwyr neu’n weithwyr.

Cefnogir Diwrnod Iechyd Meddwl gan y Sefydliad Iechyd Meddwl. Os hoffech ragor o wybodaeth am y Sefydliad Iechyd Meddwl a’r adnoddau sydd ar gael i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, trowch at eu gwefan yma: https://www.mentalhealth.org.uk/our-work/public-engagement/world-mental-health-day

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth