Beth Sy’n Denu Pobl Drwy’r Drws? | Addysg Oedolion Cymru

Beth Sy’n Denu Pobl Drwy’r Drws?

10-Mehefin-2026
Rhannu

Roedd o ddiddordeb i mi ddarllen erthygl yn ddiweddar, “Young Britons feel unconnected and locked out of creative arts, charity says”, a gyhoeddwyd yn The Guardian. Awgryma’r erthygl bod llawer o bobl yn teimlo bod ganddynt lai o gyfleoedd i gysylltu ag eraill, bod yn greadigol a chymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i’r gwaith a chyfrifoldebau dyddiol. Gwnaeth i mi fyfyrio ar rywbeth rwy’n ei weld yn rheolaidd wrth ymweld â dosbarthiadau Addysg Oedolion Cymru.

Siaradwn yn aml am ddysgu o ran sgiliau, cymwysterau a chyflogaeth. Mae’r pethau hynny’n bwysig, a gellir newid bywydau, ond nid nhw yw’r rheswm pam mae pobl bob amser yn cerdded drwy’r drws am y tro cyntaf.

Weithiau mae pobl yn dod oherwydd eu bod eisiau cwrdd ag eraill. Weithiau maent yn chwilio am ddiddordeb newydd, hwb i’w hyder neu reswm i fynd allan o’r tŷ a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol.

Cefais fy atgoffa o hyn yn ystod ymweliad diweddar ag un o’n dosbarthiadau Celf er Llesiant.

Yn ystod y sesiwn, roedd y dysgwyr yn creu gludweithiau (collage) ac yn archwilio gwahanol dechnegau a syniadau. Ond, wrth i mi dreulio amser gyda’r grŵp, daeth yn amlwg bod llawer mwy yn digwydd na’r gwaith celf yn unig.

Siaradodd dysgwyr am y mwynhad o ddysgu rhywbeth newydd, yr effaith gadarnhaol ar eu lles a’r hyder roeddynt wedi’i ennill ers ymuno gyda’r dosbarth. Disgrifiodd sawl un, eu bod yn parhau gyda’u gwaith creadigol gartref rhwng sesiynau. Yr hyn amlygwyd mwyaf, fodd bynnag, oedd y ffordd y cefnogodd dysgwyr ei gilydd. Ar ddiwedd y sesiwn, heb unrhyw anogaeth gan y tiwtor, ymgasglodd pobl yn naturiol i edrych ar waith ei gilydd, gan gynnig anogaeth, rhannu syniadau a dathlu’r cynnydd.

Roedd yr hyn a ddechreuodd fel cyfle i archwilio creadigrwydd hefyd wedi dod yn gyfle i gysylltu ag eraill. Mewn sawl ffordd, roedd hynny’r un mor bwysig â’r gwaith celf ei hun.

Esboniodd y tiwtor sut roedd hyder y grŵp wedi tyfu dros amser. I rai dysgwyr, arweiniodd hyn at gyfleoedd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys arddangos eu gwaith drwy bartneriaeth werthfawr gyda MOMA. I eraill, mae’r cyflawniadau yn llai gweladwy ond yr un mor arwyddocaol: gwneud ffrindiau, gwella lles a dod yn rhan o gymuned ddysgu gefnogol.

Mae profiadau fel hyn yn fy atgoffa bod dysgu oedolion yn ymwneud a llawer mwy na chaffael gwybodaeth neu ennill cymhwyster. Mae dysgu’n creu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd, meithrin perthnasoedd a darganfod cryfderau nad oeddent efallai wedi sylweddoli eu bod yn eu meddu.

Gwelir hyn ar draws Addysg Oedolion Cymru yn ddyddiol. Boed yn ddysgwr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn datblygu’r hyder i gymryd rhan lawnach yng ngweithgareddau eu cymuned, yn ddysgwr sy’n darganfod angerdd dros gelf yn ddiweddarach mewn bywyd, neu’n rhywun sy’n symud ymlaen o gwrs dysgu cymunedol i wirfoddoli neu astudiaeth bellach, mae gan ddysgu gallu unigryw i ddod a phobl at ei gilydd.

Canolbwyntiodd erthygl The Guardian yn benodol ar oedolion iau, ac mae’n atgoffa rhywun yn amserol o bwysigrwydd creu cyfleoedd i bobl ifanc gysylltu â datblygu hyder. Ochr yn ochr gyda’n darpariaeth dysgu gymunedol, cefnoga Addysg Oedolion Cymru’r sector gwaith ieuenctid drwy baratoi cymwysterau proffesiynol a datblygu’r gweithlu, sy’n gymorth i greu mannau diogel a chefnogol lle gall pobl ifanc gysylltu, dysgu a ffynnu.

Fel sefydliad, dathlwn gymwysterau, dilyniant a chanlyniadau cyflogaeth yn briodol. Maent yn bwysig ac yn newid bywydau. Eto i gyd, nid yw rhai o ganlyniadau mwyaf gwerthfawr dysgu pob amser yn cael eu cofnodi mewn ystadegau nac adroddiadau: hyder, cyfeillgarwch, lles, pwrpas a pherthyn.

Felly, Beth Sy’n Denu Pobl Drwy’r Drws?

Weithiau mae’n gymhwyster, yn sgil newydd neu’n bosibilrwydd cyflogaeth. Yn aml mae’n rhywbeth llawer symlach: y cyfle i gwrdd ag eraill, archwilio diddordeb newydd, magu hyder neu deimlo’n rhan o rywbeth mwy na eu hunain. Mae’r profiadau trawsnewidiol hyn wrth wraidd yr hyn a wnawn. Pob blwyddyn, mae Addysg Oedolion Cymru yn croesawu miloedd o ddysgwyr. Mae eu hadborth yn eglur, nid yw dysgu yn darparu gwybodaeth yn unig; mae’n gwella lles, yn hybu hunan-barch, ac yn ysbrydoli agwedd disgleiriach at fywyd.

Efallai na fydd y canlyniadau hynny bob amser yn ymddangos ar dystysgrif, ond maent yn bwysig. Mewn llawer o achosion, darperir sylfaen ar gyfer adeiladu popeth arall.

Dyna pam mae addysg oedolion yn bwysig, a pham mae’r mannau sy’n dod â phobl ynghyd yn parhau i fod mor bwysig ag erioed.

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth