Beth sydd angen i Gymru ei ddysgu nesaf? | Addysg Oedolion Cymru

Beth sydd angen i Gymru ei ddysgu nesaf?

22-Medi-2026
Rhannu

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle i ddathlu beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn cymryd y cam cyntaf hwnnw, sy’n anodd ar brydiau, i ddychwelyd i ddysgu.

Ledled Cymru, mae oedolion yn dysgu oherwydd llawer o resymau gwahanol. Mae rhai yn dymuno gwella eu rhagolygon cyflogaeth neu baratoi at weithle sy’n newid. Mae eraill yn dymuno gallu trin rhifau, cyfathrebu neu dechnoleg yn fwy hyderus. Mae rhai yn dysgu Saesneg neu Gymraeg, yn datblygu mwy o annibyniaeth, yn cynorthwyo eu plant neu’n ailgysylltu â’u cymuned.

Mae pob rheswm yn bwysig.

Eleni, mae Wythnos Addysg Oedolion yn digwydd ar yr un pryd â sgwrs genedlaethol bwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Archwiliad Sgiliau Cymru i ystyried y sgiliau sy’n ofynnol yn ein gwlad a’r sgiliau a fydd yn ofynnol yn y dyfodol agos. Mae’n ymarfer sy’n digwydd ar adeg briodol. Mae byd gwaith yn newid, mae cyflogwyr yn cael trafferth recriwtio mewn sectorau allweddol ac mae technoleg newydd yn ail-lunio llawer o swyddi.

Ond rhaid i ni ochel rhag diffinio anghenion sgiliau yn rhy gul.

Mae data swyddi gwag a thystiolaeth gan gyflogwyr yn hanfodol, ond ni allant ddweud popeth wrthym. Rhaid inni hefyd wrando ar oedolion na fydd eu potensial bob amser yn weladwy yn ystadegau’r farchnad lafur: pobl sy’n dychwelyd i ddysgu wedi blynyddoedd lawer, y sawl sy’n gweithio mewn swyddi ansicr neu’n newid swyddi, gofalwyr di-dâl, oedolion anabl a phobl y mae eu profiad blaenorol o addysg wedi effeithio ar eu hyder.

Mae lleisiau cyflogwyr yn bwysig hefyd. Maent yn deall ble ceir diffyg sgiliau a sut mae gweithleoedd yn newid. Ond mae diwallu’r anghenion hynny yn gyfrifoldeb a rennir. Ni allwn ddisgwyl i bobl gyrraedd y gweithle wedi’u hyfforddi’n llawn. Rhaid i gyflogwyr fod yn barod i fuddsoddi yn eu staff, cydnabod y sgiliau y mae pobl eisoes wedi’u meithrin a chreu cyfleoedd i ddysgu ochr yn ochr â gwaith a bywyd y teulu.

Mae angen inni hefyd ddatblygu dirnadaeth ehangach o’r pethau y gellir eu hystyried yn sgiliau. Mae llythrennedd, rhifedd, hyder digidol a chyfathrebu yn dal yn hanfodol. Mae’r gallu i feddwl yn feirniadol, addasu a barnu gwybodaeth yn ofalus yn hanfodol hefyd. Mae’r galluoedd hyn yn helpu pobl yn y gwaith, ond mae eu gwerth yn llawer ehangach na hynny. Maent yn dylanwadu ar iechyd, cyllid, annibyniaeth, sgiliau magu plant a’r gallu i gyfranogi yn y gymdeithas.

Yn Addysg Oedolion Cymru, gallwn weld sut gall un cam arwain at un arall. Gall cwrs yn y gymuned ailadeiladu hyder. Gall yr hyder hwnnw arwain at gymhwyster, rôl newydd, mwy o annibyniaeth neu ragor o gyfleoedd i ddysgu. Ni fydd cynnydd yn dechrau ar Lefel 2 bob amser ac ni fydd hynny’n broses unionlin bob amser ychwaith. Weithiau, bydd yn dechrau trwy gael eich croesawu i leoliad lleol cyfarwydd a darganfod y gall dysgu deimlo’n wahanol y tro hwn.

Dyna pam mae Wythnos Addysg Oedolion yn bwysig. Mae’n dathlu cyflawniadau, ond dylai hefyd ein hannog i ofyn a yw dysgu yn rhywbeth gwirioneddol hygyrch i bawb. Os yw Cymru’n dymuno sicrhau system sgiliau sy’n addas at y dyfodol, rhaid i addysg oedolion fod yn elfen anhepgor o hynny. Rhaid i gynllunio sgiliau ddechrau gan ystyried pobl yn ogystal ag ystyried yr angen i lenwi swyddi gwag, a rhaid i hynny greu cyfleoedd realistig i ddysgu drwy gydol oes. Rhaid sicrhau hynny er mwyn gallu sicrhau bod “peidiwch fyth â rhoi’r gorau i ddysgu” yn rhywbeth amgenach na slogan calonogol. Gall ddod yn rhywbeth y caiff pob oedolyn yng Nghymru gyfle teg i’w gyflawni.

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth