Awduron Ysbrydoledig Gogledd Cymru yn Profi nad yw Oedran ac Adfyd yn Rhwystr i Greadigrwydd | Addysg Oedolion Cymru

Awduron Ysbrydoledig Gogledd Cymru yn Profi nad yw Oedran ac Adfyd yn Rhwystr i Greadigrwydd

11-Gorffennaf-2025
Rhannu

Nid yn unig mae dysgwyr ledled Gogledd Cymru yn mynychu dosbarthiadau ysgrifennu creadigol gydag Addysg Oedolion Cymru; maent wir yn herio rhwystrau personol i ddilyn eu hangerdd dros adrodd straeon. O dan arweiniad arbenigol Dr DeAnn Bell, mae’r ysgrifenwyr uchelgeisiol yma yn profi y gall ymroddiad a chariad at y gair ysgrifenedig oresgyn heriau sylweddol.

Mae DeAnn yn ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol, yn aelod proffesiynol o Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgrifenwyr mewn Addysg (NAWE) gyda chymrodoriaeth yn yr Academi Addysg Uwch. Fel awdur sydd wedi ennill ei phlwyf nifer am nofelau a chasgliadau o straeon byrion, mae hi mewn sefyllfa dda i rannu ei gwybodaeth a chynnig ei chefnogaeth i’w dysgwyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Mae ei chyrsiau, gan gynnwys cynigion poblogaidd fel “Ysgrifennwch Eich Nofel Gyntaf,” “Barddoniaeth Cymraeg a Lle,” ac “Ysgrifennu Creadigol,” yn rhedeg yn wythnosol mewn amrywiol leoliadau ledled Gogledd Cymru, gan feithrin cymuned lenyddol fywiog.

Mae dwy ddysgwraig o gyrsiau DeAnn, sef Sue Wilson a Jill Pritchard, yn rhannu eu straeon, gan ddatgelu eu penderfyniad i symud ymlaen ar eu cyrsiau, er gwaethaf profi amgylchiadau anodd.

Dyma beth ddywedodd DeAnn am Sue, “Cwblhaodd Sue Wilson ei nofel gyntaf pan oedd hi dros 75 oed. Ysgrifennodd ddrafft cyntaf ei nofel mewn 19 wythnos, er gwaethaf colli ffrind agos iawn yn ystod y sesiwn. Pan nad oedd gan Ddosbarth Nofel 2 Bangor ddigon o fyfyrwyr i’w gynnal, gwnaeth drefniadau i gyrraedd Llanfairfechan i barhau gyda’i thaith ddysgu. Mae ei nofel yn cynnwys ysbiwyr yr Ail Ryfel Byd a thaith un fenyw o drychineb gyrfaol llethol i archwilio cyfraniad ei nain fel ymladdwr Gwrthsafiad Ffrengig.”

Ac ar brofiad dysgu Jill a’r effaith ehangach y mae’n ei chael o fewn ei chymuned leol: “Mae Jill Pritchard yn dod a hiwmor a charedigrwydd i’n dosbarthiadau. Mae’n ysbrydoli ei chydweithwyr i ddangos eu gwaith gorau, yn trefnu cyfarfodydd coffi a gweithgareddau dysgu allanol eraill i’r grŵp, ac yn hapus i rannu ei llwyddiannau a’i chamgymeriadau. Mae’n siarad â’i chymuned i ymuno gyda dosbarthiadau ac yn gwneud ein grŵp yn debycach i deulu nag i ddosbarth. Mae ganddi broblemau iechyd sy’n ei chyfyngu i sgwter symudedd, ond nid yw hi byth yn gadael i hynny ei hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd. Eleni, mynychodd a pherfformiodd yn ei digwyddiad barddoniaeth cyhoeddus cyntaf. Mae wir yn ysbrydoledig. Ymunodd gyda thri dosbarth yn hytrach nag un, sef Barddoniaeth Cymraeg a Lle, Ysgrifennu Creadigol a Fy Nofel Gyntaf, gan gwblhau drafft cyntaf ei nofel gyntaf eleni.”

Mae Sue a Jill ill dwy yn ymgorffori’r egni creadigol bywiog sy’n bresennol yn rhanbarth Gogledd Cymru, gan ddangos nad yw oedran a chyfyngiadau corfforol yn llesteirio’r ysbryd penderfynol a chariad at y gair ysgrifenedig.

Cynigia Addysg Oedolion Cymru ystod eang o ddosbarthiadau ysgrifennu creadigol ledled Cymru, ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth. Os yw straeon Sue a Jill wedi eich ysbrydoli i ysgrifennu, beth am ystyried ymuno gyda chwrs Ysgrifennu Creadigol yma.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth