Awdures Gymreig Glodwiw yn Dod o Hyd i Ysbrydoliaeth Newydd ar y cwrs ‘Ei Stori’ (HERstory) | Addysg Oedolion Cymru

Awdures Gymreig Glodwiw yn Dod o Hyd i Ysbrydoliaeth Newydd ar y cwrs ‘Ei Stori’ (HERstory)

23-Ionawr-2026
Rhannu

Mae’r cwrs poblogaidd Addysg Oedolion Cymru (AOC), ‘Ei Stori’: Hanes llai hysbys lle Menyw mewn cymdeithas ar hyd yr oesoedd, wedi derbyn canmoliaeth uchel gan lais blaenllaw yn hanes menywod y dosbarth gweithiol.

Ymhlith y dysgwyr ar y cwrs ar-lein pum wythnos, a addysgwyd gan James Berry sy’n diwtor i AOC a hefyd yn Hwylusydd Ymgorffori Dwyieithrwydd, roedd yr awdures Gymreig enwog Maya Jordan, sy’n disgrifio ei hun rhywun sy’n angerddol am hanes ac yn enwedig am hanes menywod dosbarth gweithiol.

Mae’r cwrs ‘Ei Stori’ yn ymchwilio i hanes cudd menywod, o fatriarchaidd hynafol a chymdeithas Geltaidd i Gyfreithiau Hywel Dda a’r frwydr dros bleidlais. Archwiliodd dysgwyr y cwrs fywydau ffigurau eiconig Cymru, gan gynnwys Gwenllian ferch Gruffudd a Betsi Cadwaladr hefyd.

Canfu Maya fod y cwrs yn fuddiol ac yn ysbrydoledig iawn:

“Fel pob amser, mae menywod wedi’u cuddio yn Hanes Cymru, ac mae’r menywod nodedig hyn yn haeddu cael eu cydnabod. Fel pob addysg oedolion wych, dim ond tanio fy angen i wybod mwy gwnaeth addysgu angerddol James a’i gefnogaeth i’r menywod eiconig hyn a anghofiwyd ar gam. Dim ond pan fydd ein holl straeon yn cael eu cynnwys bydd Hanes Cymru  yn gryfach. Athro gwych a phwnc anhygoel.”

Nid yw Maya yn ddieithr i fod o dan y sbotolau. Yn enillydd A Writing Chance, rhaglen a sefydlwyd gan yr actor Michael Sheen i gefnogi awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, arddangoswyd gwaith Maya ar BBC Radio Wales, gyda Sheen ei hun yn darllen ei gwaith ar gyfer y gyfres Margins to Mainstream. Mae ei gwaith hefyd wedi cael ei gyhoeddi ar-lein ac mewn print, gan gynnwys yn The New Statesman a’r Daily Mirror.

Mae ei llyfr nesaf, CHOPSY (Chwefror 2026), eisoes yn creu cryn dipyn o gynnwrf yn y diwydiant. Wedi’i ddisgrifio fel “doniol, cynddeiriog, a chyffrous,” mae’n hanes cyffrous o fywyd a dreuliwyd yn gwrthod cael ei gyfyngu gan anghydraddoldeb systemig. Cyn bo hir bydd Maya yn cychwyn ar daith lyfrau ledled y DU, gan gynnwys gweithdy ysgrifennu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Ychwanegodd y tiwtor James:

“Mae brwdfrydedd y dysgwyr wedi bod yn ingol. Gwelais lawer mwy na dymuniad i wybod am hanes menywod Cymru; byddwn yn ei ddisgrifio fel angen, angen dwfn, greddfol. Fel dyn, sylweddolaf fod hanes fy ngwlad a’m pobl yn anghyflawn os caiff y rôl a chwaraeir gan fenywod ei hepgor.”

Mae Addysg Oedolion Cymru yn parhau i brofi, os ydych yn ddechreuwr neu’n awdur clodwiw, bod addysg gymunedol yn cynnig lle i gysylltu, tyfu a dod o hyd i angerdd newydd yn straeon ein gorffennol.

Gyda diddordeb yn ein cyrsiau Hanes a Threftadaeth? I ddysgu mwy, ymwelwch gyda’n gwefan yma

Os hoffech wybod mwy am Maya Jordan gan gynnwys dyddiadau ei thaith lyfrau sydd ar ddod, gallwch ddarllen ei blog yma

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth