“Ar ôl i mi ddod o hyd i Addysg Oedolion Cymru, newidiodd hyn fy mywyd!”
30-Tachwedd-2023Mae ein dysgwr, Cathy Cavender sydd wedi cwblhau ei hastudiaethau Cwnsela, ac sydd bellach yn astudio ei chwrs Dyfarniad L3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn rhannu ei stori gyda ni.
Dywed Cathy, “Ar ôl i mi ddod o hyd i Addysg Oedolion Cymru, newidiodd hyn fy mywyd! Rwy’n wir brawf bod Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn ymgorffori’r gweledigaethau hyn o fedru newid bywydau dysgwyr! Er gwaethaf byw gyda chyflwr iechyd cronig a thrafferthion gyda chaledi ariannol, mae dysgu gydag AOC wedi fy ngalluogi i wireddu fy mreuddwyd o newid gyrfa a chyflawni cydbwysedd hyblyg rhwng bywyd a gwaith sy’n gynaliadwy o ran iechyd a chyllid.
Grymuso economaidd – fe wnaeth AOC fy ngefnogi gyda ffioedd gostyngol pan oeddwn ar fudd-dal anabledd oherwydd Covid/ME hir. Galluogodd hyn i mi chwalu’r rhwystrau ariannol i astudio, ac rwyf nawr yn gallu dechrau gweithio’n hunangyflogedig eto.
Cyflawniad personol – mae AOC wedi fy ngalluogi i ddilyn fy angerdd am gwnsela ac addysgu a gwireddu fy mreuddwyd o gael gwaith boddhaol sy’n ymarferol ar gyfer gyrfa hirdymor. Mae hyn yn anodd iawn i mi ei wneud wrth fyw o fewn cyfyngiadau salwch cronig.
Cydlyniant cymunedol – astudiais gydag AOC drwy gydol y cyfnodau clo, ac roeddwn i’n byw mewn arwahanrwydd cymdeithasol yn ystod yr amser oherwydd cyflyrau iechyd cronig . Gwnaeth astudio gydag AOC gefnogi fy iechyd meddwl trwy roi ffocws meddwl i mi ac ymdeimlad o berthyn a phwrpas.
Gwydnwch wedi Covid – Rwy’n gwella ar ôl i salwch ail ddangos oherwydd haint Covid drwg. Galluogodd AOC i mi gael mynediad at fy nghwrs presennol ar sail gweithio hyblyg, fel nad fod angen i mi ddod o hyd i’r egni ar gyfer teithio ar ben diwrnodau llawn o astudio. Heb hyn ni fyddwn wedi gallu cychwyn yr astudiaethau.
Darpariaeth deg – mae ffioedd gostyngol AOC wedi golygu fy mod wedi gallu ailhyfforddi mewn gyrfa newydd er gwaethaf incwm cyfyngedig iawn o fudd-daliadau. Heb y ffioedd gostyngol ni fyddwn wedi llwyddo i gael dau ben llinyn ynghyd yn ariannol.
Dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr – Mae’r cyfathrebu gydag AOC bob amser wedi bod yn eithriadol. Mae Nicola yn gwneud gwaith anhygoel o ddiwallu anghenion dysgwyr. Rwyf wedi teimlo fel ‘person’ yn hytrach na ‘rhif’ drwy’r amser. Mae’r tiwtoriaid yn dod i adnabod dysgwyr unigol ac yn darparu cymorth unigol. Rwyf wedi teimlo fy mod yn bwysig, sydd wedi bod yn ffynhonnell cymhelliant a hunan-barch cynyddol yn ystod cyfnod heriol yn fy mywyd.
Gwasanaethau cymorth integredig a dilyniant gydol oes – Yn ystod fy amser yn astudio gydag AOC rwyf wedi cwblhau dau gwrs i ddod yn gwnselydd cymwys ac ar hyn o bryd yn cwblhau Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant. Rwy’n bwriadu addysgu ar gyrsiau Addysg Oedolion i AOC yn fuan, gan gynnwys cyrsiau cwnsela lefel is. Bellach mae gen i opsiynau gyrfa gydol oes o’m blaen!
Mae astudio gydag AOC yn llythrennol wedi bywiogi fy mywyd! Cefais drafferth yn adeiladu bywyd credadwy a bodlon i mi fy hun dros y 22 mlynedd diwethaf, wedi i mi gael diagnosis o salwch cronig. Mae AOC wedi rhoi’r gred yn ôl i mi fod hyn yn bosibl. Rwyf wedi cael fy nhrin gyda pharch ac ystyriaeth, ac mae hyn wedi bod yn fendigedig! Diolch yn fawr iawn i bawb fu’n rhan o hyn!
Edrychaf ymlaen at allu gweithio gydag AOC a byddaf yn falch o fod yn rhan o ymdrechion AOC i ymgorffori’r gweledigaethau hyn.”
Hoffem longyfarch Cathy ar ei phenderfyniad a’i gwaith caled, a dymuno’n dda iddi gyda’i hastudiaethau yn y dyfodol!
Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth