Amlygu Gwaith Partneriaeth a Dysgu Cymunedol
18-Rhagfyr-2025Yn ddiweddar, fe wnaeth Gweithdy DOVE ym Manwen groesawu Kathryn Robson, Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, ac Aaron Fortt, aelod etholedig o’r Cyngor, i gyfranogi mewn diwrnod llawn i ddwyn sylw at effaith dysgu cymunedol drwy’r bartneriaeth hirhoedlog rhwng y ddau sefydliad.
Dechreuodd yr ymweliad trwy gynnal cyfarfod yn y bore rhwng y sefydliadau sy’n bartneriaid, gan gynnig cyfle i gadarnhau nodau cyffredin a’r cydweithio sy’n parhau. Wedi hynny, ymwelodd Kathryn ac Aaron â dosbarth celf dan arweiniad Lawrence Mathias, ac yno, fe wnaeth dysgwyr rannu gwybodaeth am eu prosiectau presennol a thrafod dylanwad cadarnhaol y cwrs ar eu hyder a’u lles.
Yna, fe wnaethant nhw arsylwi cwrs ar gyfer cynorthwywyr ystafell ddosbarth dan ofal Sara Davies, ac yno, disgrifiodd y cyfranogwyr sut mae’r hyfforddiant yn eu helpu i ddatblygu sgiliau allweddol, gwella cyflogadwyedd, a gweithio tuag at sicrhau rolau ym myd addysg yn y dyfodol. Roedd y sesiynau’n adlewyrchu ymrwymiad tiwtoriaid DOVE a’r amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy’n cynorthwyo i gynnal yr holl ddarpariaeth sydd ar gael yn y lleoliad.
Wedi hynny, teithiodd Kathryn ac Aaron i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe i wylio perfformiad o sioe A Christmas Carol . Roedd dysgwyr wedi treulio cryn dipyn o amser yn paratoi ac yn ymarfer, ac roeddent wedi cael cymorth ac arweiniad gan y tiwtoriaid, Stevie-Ann Fraser a Keith Ivett. Fe wnaeth y perfformiad amlygu creadigrwydd y dysgwyr, eu gallu i gydweithio a’u hyder cynyddol, ac roedd y staff wedi sicrhau bod y profiad yn un hollol gynhwysol fel y gallai pawb gyfranogi mewn ffordd ystyrlon.
Yn y prynhawn, dychwelodd y grŵp i Weithdy DOVE i ymweld â chwrs llenyddiaeth yn trafod gwaith y chwiorydd Brontë, dan ofal Catherine Davies. Roedd hynny’n gyfle i weld yr ystod eang o bynciau sydd ar gael – o gelfyddydau creadigol i ddysgu academaidd a galwedigaethol.
Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i amlygu dylanwad gwaith y bartneriaeth gref a’r profiadau dysgu rhagorol sydd ar gael i’r gymuned leol.
Dyfyniad gan Reolwr Gweithdy DOVE, Lianne Byrne: “Roeddem wrth ein bodd yn cael croesawu Kathryn Robson, Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, ac Aaron Fortt (Aelod Etholedig o’r Cyngor) i Weithdy DOVE. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i ni arddangos y gwaith rydym yn ei wneud a dylanwad cadarnhaol ein partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru yn y gymuned.
Roeddem yn falch o gael cyfle i ddwyn sylw at yr ystod eang o gyrsiau sy’n cael eu cynnig yma yng Ngweithdy DOVE ac ansawdd eithriadol y tiwtoriaid sy’n cynorthwyo ein dysgwyr yn feunyddiol. Rydym yn ymdrechu i gynnig amgylchedd croesawgar sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, ac mae eu hymroddiad a’u harbenigedd yn allweddol o ran hynny.
Dymunaf ddiolch yn bersonol i’r tîm yn Addysg Oedolion Cymru am barhau i ymrwymo i gydweithio â Gweithdy DOVE. Mae eu cymorth yn allweddol o ran hyrwyddo a gwella cyfleoedd dysgu gydol oes yn ein cymuned. Fe wnaeth yr ymweliad gadarnhau’r berthynas gadarn a chynhyrchiol sy’n bodoli rhwng Gweithdy DOVE ac Addysg Oedolion Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio’n agos i gynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr i bobl ym mhob cwr o’r ardal.”
Fe wnaeth yr ymweliad ddwyn sylw at ganlyniadau cadarnhaol gwaith y bartneriaeth er budd ddysgwyr a’r gymuned ehangach. Fe wnaeth hynny amlygu ymroddiad y tiwtoriaid, creadigrwydd y dysgwyr a’u parodrwydd i gyfranogi, a’r amrywiaeth o gyfleoedd dysgu rhagorol sydd ar gael. Fe wnaeth y diwrnod bwysleisio sut mae cydweithio, arweiniad ac arferion cynhwysol yn cynorthwyo â hyder, sgiliau a datblygiad personol dysgwyr, gan danlinellu pwysigrwydd dysgu gydol oes yn yr ardal.









Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth