Amlygu Addysg Oedolion yng Nghymru ar y Llwyfan Byd-eang: Cryfhau’r Presenoldeb Byd-eang ym maes Addysg Oedolion
11-Mehefin-2024
Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC), sefydliad blaenllaw yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i hybu addysg oedolion, yn mynd ati’n llwyddiannus i sefydlu presenoldeb cryf ar y lefel fyd-eang. Mae’r datblygiad hwn yn dwyn sylw at ymrwymiad y sefydliad i feithrin dysgu gydol oes ac yn pwysleisio rôl Cymru ym maes addysg oedolion ar y lefel ryngwladol. Trwy fabwysiadu arferion arloesol a sefydlu perthnasoedd newydd, mae AOC yn ymdrechu i fod yn gyfrannwr allweddol yng nghymuned ryngwladol addysg oedolion.
Meithrin Cydweithredu Rhyngwladol
Yr wythnos hon, mae cynrychiolwyr AOC ac addysgwyr oedolion o Ewrop yn dod ynghyd yng Nghynhadledd EAEA yn Helsinki, ac mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithredu ar y lefel ryngwladol o ran datblygu addysg gydol oes. Mae’r cyfle hwn wedi galluogi AOC i asesu ei gynnydd o ran sefydlu partneriaethau ar y lefel fyd-eang yn y gymuned addysg oedolion, yn unol â’r cyfeiriad a bennwyd gan ei aelodau a’i randdeiliaid. Gan gydweithredu’n strategol ag amrywiaeth o sefydliadau addysg rhyngwladol, mae AOC wedi bod yn meithrin rhannu gwybodaeth ac arferion gorau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn y gynhadledd, bydd AOC yn dwyn sylw at y prosiect Llythrennedd ac Adrodd Straeon, ac mae hynny’n deillio o gyfarfod rhwng Beth John, Rheolwraig Ranbarthol AOC, a’r Athro Dina Soeiro o Ysgol Addysg Prifysgol Bolytechnig Coimbra, Portiwgal, yn ystod Cynhadledd EAEA yn Zagreb y llynedd. Mae’r gynhadledd yn caniatáu i sefydliadau addysg byd-eang i gydweithio ac arddangos gwaith eu dysgwyr ar wefan newydd a ddatblygwyd gan Adran Gwasanaethau Digidol AOC.
Mae’r prosiect ‘Adrodd Straeon’ wedi’i fodelu ar sail ‘Amgueddfa Addewidion Toredig’ Zagreb, ac mae’n archwilio grym ‘Hanesion Llafar’, a chaiff dysgwyr gyfle i rannu naratifau ynghylch bywydau, cariad a cholledion trwy gyfryngau megis ysgrifennu, llefaru, ffotograffiaeth, fideo a chelf. Bwriedir lansio’r prosiect yn swyddogol yng Ngorffennaf 2024.
Mae gan AOC hanes modern o sefydlu partneriaethau dysgu strategol ar y lefel Ewropeaidd, ac mae prosiect EDGE 2015/16 yn enghraifft sy’n tystio i’r ymroddiad hwn. Trwy gyfrwng Partneriaeth Strategol Addysg Oedolion Erasmus+, a gynhaliwyd a nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth AOC gydweithredu â sefydliadau addysg oedolion eraill megis LCEBT (Iwerddon), VHS Wein (Awstria), DAFNI KEK (Gwlad Groeg) ac INSIGNARE (Portiwgal) i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol ac allgáu yn y gweithle. Diben y prosiect cydweithredol oedd llunio canllawiau arferion gorau i gynyddu’r nifer o ddysgwyr a nifer y dysgwyr a gedwir, gan arwain at system digidol o Ddilyniant Bathodynnau Agored a rennir. Datblygwyd y Bathodynnau Agored hyn i gydnabod cyfranogiad pobl ifanc, addysgwyr a gweithwyr ieuenctid yng ngweithgareddau Cyfnewid Rhithiol Erasmus+, a pharhaodd hynny nes y cwblhawyd y prosiect yn 2020.
Yn ogystal â’r partneriaethau hyn, yn ddiweddar, mae AOC wedi ymuno â sawl partneriaeth strategol ym maes addysg ar y lefelau Ewropeaidd a byd-eang:
1. IFWEA: Yng ngwanwyn 2024, ymunodd ALW â Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Addysg y Gweithwyr (IFWEA), sy’n ymdrin â chyfleoedd ym maes addysg oedolion i weithwyr a’u cymunedau. Sefydlwyd IFWEA yn 1947, ac mae’n hyrwyddo addysg ar gyfer y mudiad llafur democrataidd ac yn cynnig addysg yn rhad ac am ddim ac yn wirfoddol ar sail egwyddorion undod, cydweithredu, cyfiawnder, cydraddoldeb, democratiaeth a rhyddid.
2. EAEA: Ymunodd AOC â’r Gymdeithas Ewropeaidd dros Addysg Oedolion (EAEA) yn ystod haf 2023, a chafodd ei sefydlu yn aelod o’r corff yn ystod ei Gynhadledd Flynyddol yn Zagreb, Croatia.
Mae EAEA yn cynrychioli mwy na 120 o aelod-sefydliadau o 43 o wledydd, ac mae’n hyrwyddo democratiaeth, deialog rhyng-ddiwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol a chydweithredu. Mae AOC yn falch o fod yn arwain prosiect Ewropeaidd ar y cyd â phartner sy’n aelod o EAEA, ac mae’r prosiect hwnnw yn ymwneud â chofnodi straeon llafar dysgwyr.
3. ESREA: Yng ngwanwyn 2024, ymunodd AOC â’r Gymdeithas Ewropeaidd dros Ymchwil ynghylch Addysg Oedolion (ESREA) i ddatblygu ei waith ymchwil mewn cyd-destun Ewropeaidd. Mae rhwydweithiau ESREA yn cynnig cyfleoedd i gydweithredu rhwng y sectorau Addysg Oedolion yn y Gymuned/Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ac mae AOC yn cyfrannu adborth gwerthfawr gan ymarferwyr mewn ystafelloedd dosbarth.
4. ELM Magazine: Mae ELM Magazine yn gyfnodolyn ar-lein sy’n ymwneud â dysgu gydol oes ac addysg oedolion. Gofynnwyd i AOC amlygu ei waith sy’n arwain y sector yng Nghymru, gan ddwyn sylw at y cwricwlwm mae’n ei gynnig, ei waith eirioli, ei gynllun aelodaeth a’r rhwydwaith o ganghennau.
Cydweithredu yn y dyfodol a chysylltu
Wrth i AOC barhau i ddatblygu ac addasu yn unol ag anghenion newidiol dysgwyr a’r gymyned fyd-eang, mae’r sefydliad yn enghraifft amlwg o ragoriaeth sy’n profi pa mor drawsnewidiol yw grym addysg oedolion. Trwy amlygu addysg oedolion yng Nghymru ar y llwyfan byd-eang, mae’r sefydliad y gwella ei enw da ac mae hefyd yn dyrchafu statws addysg oedolion fel elfen hanfodol o ddatblygiad byd-eang.
Os dymunwch drafod cydweithredu posibl neu ddysgu rhagor am y prosiect ‘Naratifau Llythrennedd Dysgwyr: Llyfrgell o Fywydau, Cariad a Cholledion’, cysylltwch â Beth John, Rheolwraig Ranbarthol AOC, trwy e-bostio beth.john@adultlearning.wales.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth